Fy ngwlad:

Digwyddiadau Archifau a'r Casgliadau Arbennig

Mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’n casgliadau.

  • Mae arddangosfeydd, darlithoedd cyhoeddus a dyddiau agored yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. 
  • Rydym yn cynnal sesiynau cynefino i fyfyrwyr a staff ac yn cynnig y cyfle i gymdeithasau lleol ac ysgolion ddarganfod mwy am ein casgliadau. 

Byddwn hefyd yn cymeryd rhan yn flynyddol yn y digwyddiadau cenedlaethol “Archwiliwch eich Archif”.

Bydd ein digwyddiadau oll yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon ac ar y cyfryngau cymdeithasol – Facebook ac Bluesky

 DILYNWCH NI AR FACEBOOK  DILYNWCH NI AR BLUESKY

Arddangosfa'r Archifau a Chasgliadau Arbennig 2025

Cadeirlan Bangor - 2025


Dathlu pen-blwydd y Gadeirlan a Dinas Bangor yn 1500 oed - y ddinas hynaf yng Nghymru

Cliciwch yma i fynd at yr arddangosfa

Darlith Flynyddol yr Archifau a Chasgliadau Arbennig 2025

Ar y 12fed o Dachwedd, eleni, byddwn yn croesawu Alex Ioannou, fel siaradwr gwadd. Mae’n fyfyriwr Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor o dan oruchwyliaeth Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a Chanolfan Syr William Roberts ar gyfer defnydd tir cynaliadwy.

Rydym yn byw mewn cyfnod heriol a nodweddir gan newid a phryder dwfn ynghylch nifer o faterion gan gynnwys newid hinsawdd i golli bioamrywiaeth.

Bydd Alex Ioannou yn rhannu sut mae ei ymchwil yn ceisio 'tarfu' ar ddealltwriaethau dominyddol o Eryri. Mae ei ddarlleniad manwl o dystiolaeth hanesyddol a deunydd archifol, yn ogystal â gwaith cydweithredol gyda chymunedau lleol yn Nyffryn Ogwen, yn datgelu dealltwriaethau cyfoethog ac amrywiol o dirweddau Cymru.

Mae ei brosiect parhaus Ail-fframio Eryri yn taflu goleuni ar y ffyrdd y mae Eryri eisoes wedi newid, o'r prosesau cudd sy'n gynhenid i lunio canfyddiadau o'i thirwedd, i'r trawsnewidiadau ffisegol mwy amlwg a wnaed gan Ystâd hanesyddol arwyddocaol Penrhyn.

Wrth ragweld newid yn y dyfodol o fewn y tirweddau yr ydym yn eu hadnabod mor dda, bydd darlith Alex yn trafod sut mae ei ddull a'i ymchwil yn arddangos ffordd tuag at ffordd fwy grymusol a democrataidd o benderfynu ar newid tirwedd - un lle gallwn ni i gyd ryngweithio'n briodol â Chymru'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

 Traddodir y ddarlith hon drwy gyfrwng y Saesneg.