Newyddion: Awst 2014

Bwyta'n iach yn ysgolion arbennig Sir Ddinbych

Cyngor Sir Ddinbych yw’r Cyngor cyntaf yng Nghymru i arbrofi’r rhaglen bwyta’n iach Food Dudes.  Gyda chymorth gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Gogledd Cymru a Phrifysgol Bangor fe lansiwyd y rhaglen mewn dwy ysgol arbennig yn y sir, Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl ac Ysgol Plas Brondyffryn.                                                          

Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2014

Digwyddiad Ymgynghori yn dod a'r Parc gam yn nes

Mae prosiect Parc Gwyddoniaeth Menai yn parhau i symud ymlaen a bydd yn ymgynghori ar gynlluniau yn y Gaerwen ar y 1af o Fedi. Mae trigolion yn cael eu gwahodd i ddod draw i weld y syniadau cychwynnol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014

Ffrydio – yr ateb i'r cwymp yng ngwerthiant cerddoriaeth Gymraeg

Yn ôl ymchwil a wnaed  ar y cyd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ac Ysgol Busnes Bangor, ffrydio yw'r ateb os yw cwmnïau recordiau'n mynd i atal a gwrthdroi'r gostyngiad a welir yng ngwerthiant cerddoriaeth Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014

Merched Cymreig yn ennill gwobr am lwyddiannau mewn menter gymdeithasol

Mae Victoria Burrows, Sandy Ackers, Annie Donavan ac Alison Hill wedi ennill y wobr bwysig Network She Women in Education Award 2014.  Maent ymysg y myfyrwyr cyntaf i gwblhau gradd Meistr mewn Menter Gymdeithasol gan ragori yn eu swyddi prysur yr un pryd.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014