Newyddion: Mawrth 2015

Llwyddiant y Siop Bwydydd Hyll

Mae'r 'Siop Bwydydd Hyll' sydd wedi cael ei rheoli a'i rhedeg gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor am y pedair wythnos ddiwethaf wedi bod yn llwyddiant mawr. 

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2015

Carafan yn sbarduno ffordd greadigol o feddwl

Am yr ail flwyddyn nododd Ilan Wyn Davies, myfyriwr peirianneg electronig 19 oed o’r Bala, mai cynllunio carafán foethus addas ar gyfer ei ddiweddar dad anabl er mwyn rhoi’r cyfle iddo fwynhau gwyliau i’r teulu oedd wrth wraidd y Prosiect Draig a enillodd wobr Arloesi Innovation Pontio eleni iddo ef a’r tîm gyda nawdd gan y rhaglen Menter trwy Ddylunio.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2015

Lucy Owen yn cyflwyno Gwobrau Caffael Cenedlaethol Cymru

Cymerodd  le yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar Fawrth 20, 2015.  Wedi ei drefnu gan Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffel, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, cafodd y Gwobrau eu cyflwyno gan Lucy Owen, BBC, gydag anerchiad gan Weinidog Cyllid & Busnes Llywodraeth, Jane Hutt AC.  Yn cadeirio y Panel Beirniaid Rhyngwladol roedd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2015

LEAD Cymru'n dathlu pum mlynedd lwyddiannus gyda busnesau blaenllaw

Mae perchnogion busnesau a fu'n rhan o raglen LEAD Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi cael eu gwahodd i ginio arbennig ar 14 Mai yn Venue Cymru i ddathlu llwyddiant y rhaglen bum mlynedd. Mae dros 250 o berchnogion busnesau lleol wedi ymuno â'r rhaglen ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi bod o gymorth i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth ac, yn y pen draw, i dyfu eu busnesau.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2015

Entrepreneuriaid Santander Bangor

Bydd Carley Williams, myfyrwraig sy’n astudio Dylunio Cynnyrch, gyda statws Athro cymwysedig yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn rownd y DU gwobrau Entrepreneuriaeth Santander, wedi iddi ennill cystadleuaeth yn y Brifysgol. Yn ymuno a hi hefyd fydd Hernan Diazgranados, myfyriwr ôl-radd, yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2015

Ffair Swyddi Cymraeg

Dydd Iau, 19 Mawrth am y tro cyntaf bydd Prifysgol Bangor yn cynnal Ffair Swyddi Cymraeg. Fel y prif ddarparwr Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn paratoi ei myfyrwyr ar gyfer ystod o swyddi sydd yn gofyn am y gallu i weithio yn y Gymraeg. Bydd tua 30 o gyflogwyr yn mynychu’r Ffair - yn sefydliadau cyhoeddus a busnesau preifat, yn gwmnïau lleol a rhyngwladol - a bydd eu cynrychiolwyr yn trafod gyda’r myfyrwyr sut mae eu sgiliau nhw fel siaradwyr Cymraeg yn berthnasol i’r byd gwaith.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2015

Cyhoeddiad Busnes Mawr yng Nghynhadledd Caffael Ysgol y Gyfraith

Heddiw, cafwyd cyfres o gyhoeddiadau economaidd enfawr gan Alun Cairns AS, Is-Weinidog Seneddol Swyddfa Cymru, a draddododd anerchiad bwysig yn “Wythnos Caffael”, cynhadledd fawr flynyddol sydd yn cael ei threfnu yng Nghaerdydd gan Sefydliad ar gyfer Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael, Prifysgol Bangor (SCAC, Ysgol y Gyfraith Bangor).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2015

Dyfarnu Cyfrif Cynyddu Effaith - gwobr o fri a fydd yn arwain at fwy o gyfnewid ymchwil economaidd a chymdeithasol

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr o fri a fydd yn cynyddu gallu'r Brifysgol i rannu ymchwil ym meysydd gwyddorau economaidd a chymdeithasol â’r gymdeithas ehangach.

Dyfarnwyd dros £670,000  i Brifysgol Bangor gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) - un o brif gyrff dyfarnu arian ymchwil y DU.
 
Mae'r Brifysgol ymhlith 24 o sefydliadau ymchwil o bwys i dderbyn Cyfrif Cynyddu Effaith (IAA) yr ESRC, a fydd yn rhedeg tan 2018.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2015

Rhowch gartref i ‘Fwydydd Hyll’!

Mae cysyniad newydd mewn siopa yn dod i Fangor yr wythnos hon. Ddydd Iau Mawrth 5ed bydd ‘Siop Bwydydd Hyll’ yn agor er mwyn gwerthu’r holl ffrwythau a llysiau a wrthodwyd lle iddynt ar silffoedd yr archfarchnadoedd a siopau mawrion oherwydd nad oeddynt yn ddigon hardd o ran eu golwg ond sydd yn hollol iawn i’w bwyta.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2015