Newyddion: Awst 2016

Cynllun gwerth £4.4m dan nawdd yr EU i hybu sgiliau arwain a rheoli yng Ngogledd Cymru

Mae'r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi cynllun gwerth £4.4m dan nawdd yr EU i hybu sgiliau arwain a rheoli yng ngogledd Cymru.    Bydd Academi Busnes Gogledd Cymru yn cefnogi twf busnes a chystadleurwydd yn y rhanbarth trwy gyflwyno cymwysterau arwain a rheoli wedi eu hachredu gan brifysgol i dros 1,000 o weithwyr dros y tair blynedd nesaf.   Caiff Academi Talent Ifanc hefyd ei sefydlu i ddatblygu a chadw'r genhedlaeth nesaf o reolwyr yng ngogledd Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2016

Dysgu byw yn well gyda dementia trwy dechnoleg: apiau newydd ar brawf heddiw yn cysylltu pobl a effeithir gan ddementia ag ymchwilwyr

Mae project a gefnogir gan Brifysgol Bangor yn un o ddau i'w fabwysiadu mewn menter newydd i gefnogi pobl â dementia a'u gofalwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2016