Newyddion: Hydref 2016

Gweinidog yn torri’r tir mewn datblygiad sy’n torri tir newydd

Cymerodd Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) gam mawr ymlaen yr wythnos yma yn y gwaith o adeiladu’r Parc Gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf yng Nghymru wrth i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, y Gweinidog Ken Skates ddod i'r safle ar Ynys Môn i dorri’r tir.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016

Hitachi-GE, Imperial a Phrifysgol Bangor yn datblygu arbenigedd ym maes Adweithyddion Dŵr Berwedig (BWR) yn y Deyrnas Unedig a Chymru

Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. (Hitachi-GE) wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gydag Imperial College a Phrifysgol Bangor sy'n cryfhau ei ymrwymiad i arbenigedd yng Nghymru a Phrydain.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016

Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Bangor 2016

Mae Prifysgol Bangor am ddathlu rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan y Brifysgol mewn noson Wobrwyo newydd i’w chynnal yn y Brifysgol fis Rhagfyr, a newydd gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer y Gwobrau.

Bydd y Gwobrau newydd yn rhoi sylw haeddiannol i ymchwilwyr unigol a thimau ymchwil neilltuol y Brifysgol.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo sydd i’w chynnal yn Pontio, nos Lun Rhagfyr 5 2016.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016

BEACON Cymru yn gyd-sylfaenydd cynghrair newydd lansio i gefnogi twf bio-economi'r DU

Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn rhan o gynghrair newydd yn y Deyrnas Unedig- BioPilotsUK, sy’n cael ei lansio i gefnogi twf bio-economi’r DU.

Mae Canolfan Biogyfansoddion y Brifysgol yn bartner ym mhroject arobryn BEACON Cymru, sydd yn un o bum canolfan Ymchwil a Datblygu sefydlog ar draws y DU sydd yn dod ynghyd i ffurfio’r gynghrair newydd, BioPilotsUK. Bydd y gynghrair yn ceisio gosod Prydain yn arweinydd byd-eang ym maes datblygu technoleg bio-buro, a chynhyrchu cynnyrch bioseiliedig - dwy elfen allweddol o'r bio-economi.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2016