Newyddion: Mawrth 2018

Gwyddoniaeth M-SParc; Cyflawnwyd ar amser ac o fewn y gyllideb

Agorwyd drysau M-SParc, Parc Gwyddoniaeth penodedig cyntaf Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi,  ar amser ac o fewn y gyllideb.

Bu’r cyfleuster £20m, a ariannwyd yn rhannol gan Gyllid Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yn cael ei ddatblygu ers 5 mlynedd ac ar Fawrth 1af daeth yr weledigaeth yn realiti - y cyfan ar amser ac o fewn y gyllideb.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mawrth 2018