Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Rhagfyr 2013
- Holl Newyddion A–Y
RoboLlywydd a Lleisiau Cymraeg eraill
Y Tîm a greodd 'RoboLlywydd' yn y Cynulliad, ch-dd: Marc Thomas (Doopoll), Indeg Williams, Delyth Prys, Gruffudd Prys, Myfyr Prys a Dewi Bryn Jones.Mae Prifysgol Bangor wedi creu offer newydd ar gyfer cynhyrchu lleisiau synthetig Cymraeg sy’n swnio’n naturiol iawn. Bydd y lleisiau hyn yn gallu darllen yn uchel unrhyw destun o gyfrifiadur neu ddyfais symudol.
Fel rhan o broject Macsen, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, datblygwyd dull cyflym a hawdd o baratoi promptiau, recordio llais unigolyn yn eu darllen, a defnyddio gwybodaeth am seiniau’r Gymraeg i adeiladu lleisiau synthetig sy’n swnio’n debyg iawn i lais yr unigolyn a recordiwyd.
Yn nigwyddiad SeneddLab2017 yng Nghaerdydd yn ddiweddar, cafodd tîm Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr gyfle i roi hyn ar brawf, gan adeiladu llais newydd mewn un awr i roi gwybodaeth lafar am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i alw yn ‘RoboLlywydd’.
Gallwch chi wrando ar y llais ar http://techiaith.cymru/2017/04/robollywydd/.
Esboniodd Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr meddalwedd yr Uned:
“Roedden ni eisiau estyn ein system ‘Macsen’, sy’n brototeip o gynorthwyydd personol digidol tebyg i Siri neu Alexa, i ddefnyddio lleisiau gwahanol unigolion. Roedden ni hefyd eisiau’r modd i allu darparu lleisiau synthetig i blant ac oedolion sydd yn siarad Cymraeg ond ar fin colli eu llais eu hun oherwydd llawdriniaeth neu gyflwr meddygol. Fe ddefnyddion ni system o’r enw MaryTTS, a’i haddasu ar gyfer y Gymraeg. Dipyn bach o hwyl oedd galw’r llais newydd yn ‘RoboLlywydd’, ond mae’n dangos beth sy’n bosib.”
Mae’r project Macsen hefyd wedi datblygu ‘bocs tŵls’ ar gyfer datblygu a gwella adnabod lleferydd ar gyfer y Gymraeg, gan gynnwys offer dadansoddi cronfeydd sain a’u halinio gyda thestun, a mathau newydd o fodelau acwstig o’r recordiadau mae’r Uned wedi casglu hyd yn hyn drwy ap torfoli o’r enw Paldaruo.
Esboniodd Dewi Bryn Jones eto: “Mae’r rhain, gyda’r offer creu lleisiau newydd, i gyd ar gael o’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru (http://techiaith.cymru) i unrhyw un eu defnyddio ar gyfer cynnwys technoleg lleferydd Cymraeg yn eu projectau meddalwedd. Mae’r adnoddau at ddefnydd cwmnïau meddalwedd bach a mawr yn ogystal a chlybiau codio a hobïwyr medrus – y nod yw cael y dechnoleg mewn gymaint o gynnyrch digidol ag y gallwn ni.”
Dywedodd Delyth Prys, Pennaeth yr Uned: “Rydyn ni wir yn teimlo ein bod ni wedi torri drwodd eleni, nid yn unig i ddarparu technoleg bwysig ar gyfer y Gymraeg, ond hefyd fel patrwm i ieithoedd bach eraill ei ddilyn, a datblygu adnoddau tebyg.”
Mae’r gwaith i wella gallu’r adnabod lleferydd yn parhau, ac mae tîm yr Uned Technolegau Iaith yn annog eraill ymuno yn y gwaith hwn drwy recordio eu lleisiau yn yr ap Paldaruo a’u cyfrannu i’r project. Mae modd hefyd i ddatblygwyr ac unrhyw un sydd ag ychydig bach o ddealltwriaeth codio lwytho i lawr ac ehangu Macsen gyda’u lleisiau eu hunain a/neu ychwanegu cwestiynau newydd i’r system.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2017