Newyddion: Mai 2019
Dylunio ar gyfer pobl sy'n byw efo dementia
Ers deng mlynedd, mae Menter trwy Ddylunio wedi gweithio gyda gwahanol gwmnïau ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y sector twristiaeth antur. Eleni, mae timau myfyrwyr wedi cael brîff buddiol a heriol dros y broses 10 wythnos, gan greu profiadau cofiadwy i ymwelwyr â dementia i Ogledd Cymru. Cynhaliwyd yr ornest derfynol eleni yn Pontio ddechrau mis Ebrill a chafwyd amrywiaeth eang o syniadau cynnyrch gan dimau israddedig o Seicoleg , Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig , Busnes , Dylunio Cynnyrch , Cerddoriaeth a'r Cyfryngau , a Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer . Y nod i dîm 2019 oedd creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n gwneud Gogledd Cymru yn fwy cofiadwy i dwristiaid sydd â dementia arnynt.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019
Dyfodol y Dechnoleg Rithwir
Bu'r Dr Ll ŷr ap Cenydd, Darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, yn Siarad am Ddyfodol y Dechnoleg Rithwir wrth i Oculus, sy'n eiddo i Facebook, lansio eu clustffonau newydd Oculus Quest.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2019