Newyddion: Awst 2019
Dathlu ein myfyrwyr sy'n graddio (Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig)
Rydym yn dathlu cyflawniadau ein graddedigion, ac yn rhoddi gwobrau i rai o'n myfyrwyr mwyaf teilwng.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2019
Creadigaeth newydd i'w gwneud yn haws canlyn llwybr y chwyldro digidol nesaf
Mae'n bosib cyflwyno algorithm newydd i gydrannau sydd eisoes yn bod, er mwyn hwyluso dyfodiad y chwyldro digidol nesaf. Disgwylir i ‘Ryngrwyd y Pethau’ a chysylltiadau ffonau symudol 5G chwyldroi'r ffordd yr ydym yn mynd ati i fyw ein bywydau a chynnal ein busnesau. Fodd bynnag, mae rhai problemau i'w datrys cyn i 'Ryngrwyd y Pethau' allu gwneud y defnydd gorau o'n rhwydweithiau data cyfredol, a chyn i rwydweithiau 5G ddod yn realiti.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2019
Eisteddfod brysur arall i Brifysgol Bangor yn Eisteddfod Llanrwst 2019
Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn cymryd rhan flaenllaw eto eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm y Maes, bydd rhaglen lawn o weithgareddau hefyd ar stondin y brifysgol ar y Maes eto eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019