
Cystadleuaeth Pont Tsieineaidd ar gyfer Ysgolion Uwchradd
Mae’n bleser gennym gyhoeddi lansiad Cystadleuaeth Siarad Mandarin ‘Pont i Tsieina’ 2022 ar gyfer Myfyrwyr Ysgol Uwchradd y DU a drefnwyd gan CLEC UK ac a gefnogir gan Adran Addysg Llysgenhadaeth Tsieina a’r Cyngor Prydeinig.
Mae Cystadleuaeth Siarad Mandarin y DU ar gyfer Myfyrwyr Ysgol Uwchradd wedi'i chynnal gan y Cyngor Prydeinig ers 17 mlynedd mewn partneriaeth â HSBC. Y flwyddyn hon, 2022, yw'r flwyddyn gyntaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal gan CLEC UK gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig ac mae'n cael ei chyfuno gyda’r Gystadleuaeth 'Pont i Tsieina' fyd-eang i Fyfyrwyr Ysgolion Uwchradd a drefnir gan Brif Swyddfa CLEC yn Beijing.
Bydd Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn falch o gefnogi'r myfyrwyr a all gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth, felly rhowch wybod i ni a byddwn yn hapus iawn i helpu trwy roi arweiniad a chyngor.
Oherwydd cyfyngiadau COVID, cynhelir cystadleuaeth 2022 ar-lein trwy Zoom fel y llynedd ac mae dyddiadau pwysig y gystadleuaeth fel a ganlyn:
Ceisiadau’n agor: 14 Chwefror i 13 Mawrth
Cystadleuwyr yn derbyn y cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i ymuno: Ddim hwyrach na 25 Mawrth
Cystadleuaeth rhagbrofion unigol ar Zoom: 25 i 29 Ebrill
Dyddiad cau cyflwyno fideo ar gyfer grwpiau: 30 Ebrill
Derbyn cyswllt gwahoddiad i Rowndiau Terfynol trwy e-bost ar gyfer unigolion a grwpiau: 16 Mai
Wythnos Rowndiau Terfynol ar gyfer unigolion a grwpiau: 23 i 25 Mai
Diwrnod y Seremoni Genedlaethol: 1 Mehefin
Amgaeir y dogfennau canlynol ar gyfer y gystadleuaeth:
1. Arweiniad i’r gystadleuaeth
2. Canllawiau i fyfyrwyr
3. Telerau ac Amodau
4. Ffurflen i’r athro/athrawes fydd yn dod gyda’r ymgeisydd
5. Cydsyniad y rhiant/gwarcheidwad
6. Llun y Cyfranogwyr a Fideo Cydsynio
Rydym yn gobeithio fod y wybodaeth yn ddigonol a gobeithiwn y byddwch yn cyfleu'r wybodaeth i ymgeiswyr addas er mwyn eu hannog i gymryd rhan.
Yn y cyfamser, os byddwch angen unrhyw wybodaeth bellach neu eglurhad am y gystadleuaeth, mae croeso i chi gysylltu â'r pwyllgor trefnu (gweler y manylion isod) neu rhowch wybod os gallwn helpu gydag unrhyw beth.
Pwyllgor Trefnu Cystadleuaeth Siarad Mandarin 'Pont i Tsieina' ar gyfer Ysgolion y DU
Canolfan Addysg a Chydweithrediad Ieithyddol, DU
Pwyllgor Prawf Hyfedredd Tsieineaidd y DU
124 Euston Road, Llundain NW1 2AL
Ffôn: 020 7388 8818
F: 020 7388 8828
E: MSCompetition@clecuk.org
W: http://bridge.chinese.cn/
Participants Photo and Video Consent