CAIS AM BAPURAU
Climate Change Impact on International Trade and Health Law
23 - 24 Medi 2022 (10am - 1pm yn rhithiol)
Cynhelir a chyd-drefnir gan Sefydliad Confucius, Prifysgol Bangor a’r China University of Political Science and Law.
Rydym yn gwahodd cyflwyno papurau llawn neu grynodebau ar gyfer cyflwyniad llafar. Gwahoddir papurau arfaethedig gan academyddion ac ymarferwyr ym mhob cyfnod o'u gyrfaoedd ac mae croeso arbennig i bapurau gan academyddion ar ddechrau eu gyrfa a myfyrwyr PhD. Nod y Fforwm yw dod ag academyddion o Tsieina a’r Deyrnas Unedig at ei gilydd ac annog trafodaeth a chyfnewid syniadau ar ymrwymiadau cyfraith ryngwladol a mentrau cyfreithiol, gan dynnu sylw at frys arloesi ym maes Cyfraith Newid Hinsawdd.
Gall papurau posibl ystyried y themâu allweddol canlynol
Cyfraith Newid Hinsawdd Ryngwladol
Cyfraith Masnach Ryngwladol
Cyfraith Iechyd Ryngwladol
Bydd cyflwyniadau papur yn 20 munud o hyd ac yna 10 munud ar gyfer cwestiynau.
Yn y lle cyntaf, dylid anfon crynodebau heb fod yn fwy na 300 gair i l.i.davitt@bangor.ac.uk
Y dyddiad cau ar gyfer crynodebau yw 5 Medi 2022. Cofiwch hefyd gynnwys bywgraffiad awdur byr 100 gair.