
Prawf Hyfedredd Tseineaidd, HSK / HSKK / YCT
Mae'r Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn un o ganolfannau prawf cydnabyddedig yr arholiad HSK a gallwn eich helpu i astudio ar y lefel sydd fwyaf addas i chi.
PRAWF AR-LEIN
Oherwydd sefyllfa gyfredol pandemig COVID-19, mae rhai canolfannau prawf HSK dramor wedi gohirio neu ganslo arholiadau. Er mwyn diwallu anghenion y myfyrwyr, penderfynodd Pencadlys Prawf CLEC HSK lansio'r prawf Tsieinëeg Ar-lein (Fersiwn Cartref), i helpu'r myfyrwyr gwblhau arholiadau HSK gartref, a monitro o bell o'r ganolfan brawf.
I gael gwybodaeth fanwl ar sut i gofrestru ar gyfer y prawf ar-lein cliciwch yma.
I sefyll arholiadau HSK3-6 (fersiwn cartref), dylai'r rhai sy'n sefyll arholiadau sefyll HSKK (Prawf Llafar) cyfatebol ar yr un pryd. Pan fydd y rhai sy'n sefyll arholiadau yn cofrestru gyda HSK+HSKK ar yr un pryd, cedwir ffi'r arholiad ar y pris gwreiddiol, mewn geiriau eraill, nid yw ffi'r arholiad yn cynyddu 30%. Mae'r rheol hon yn berthnasol i HSK 3-6 yn unig. Mae'r pris ar gyfer HSK1-2 yn aros yr un fath.
HSK3+HSKK Sylfaenol
HSK4+HSKK Canolradd
HSK5/6+ HSKK Uwch
Ar gyfer yr arholiad Fersiwn Cartref, cynhelir prawf ffug ar-lein wythnos cyn y prawf terfynol, felly mae'r rhai sy'n sefyll yr arholiad yn gyfarwydd â gweithdrefn y prawf. Ni roddir marciau am y prawf ffug.
Gallwch chi lawrlwytho'r ffurflen gais HSK / HSKK yma.
Yr dyddiadau arholiadau HSK nesaf ydy:
Mawrth 12, 2022 (Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw Chwefror 26)
Ebrill 23 , 2022 (Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw Ebrill 9)
Mehefin 25, 2022 (Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw Mehefin 11)
Rydym hefyd yn cynnal Cwrs Paratoi/Adolygu Arholiad HSK 1 am ddim, manylion a chofrestrwch yma.
Sesiynau: Bob Mawrth 7.15-8.15pm
Dyddiad Dechrau: 26 Ebrill
Dyddiad Gorffen: 21 Mehefin
HSK/HSKK
Mae'r arholiad HSK yn arholiad safonol rhyngwladol sy'n profi a mesur hyfedredd yn yr iaith Tsieinëeg. Mae'n asesu gallu siaradwyr anfrodorol i ddefnyddio Tsieinëeg yn eu bywydau dyddiol, academaidd a phroffesiynol. Mae'r HSK yn cynnwys chwe lefel (HSK I-VI) sy'n cyfateb i lefelau'r Chinese Language Proficiency Scales for Speakers of Other Languages (CLPS) a'r Common European Framework of Reference for Languages (CEF). Mae prawf HSK yn cynnwys elfennau gwrando, darllen a/neu ysgrifennu, ac mae'n agored i siaradwyr Tsieinëeg anfrodorol o bob oed. Prawf llafar yw HSKK, ac mae'n agored i siaradwyr Tsieinëeg anfrodorol o bob oed.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
YCT
Mae prawf YCT yn cynnwys elfennau gwrando, darllen a/neu ysgrifennu ac mae'n agored i bob siaradwr Tsieinëeg anfrodorol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae'r Prawf Llafar YCT yn agored i bob siaradwr Tsieinëeg anfrodorol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost atom yn: confuciusinstitute@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 388555.