Cwrs Mandarin HSK Lefel 2
Mae cyrsiau’r Sefydliad Confucius yn dilyn cwricwlwm Hanyu Shuiping Kaoshi (HSK), a gydnabyddir yn fyd-eang, sef rhaglen hyfedredd Tsieineaidd i siaradwyr Tsieineaidd anfrodorol. Er gwybodaeth, mae lefelau cyrsiau HSK wedi eu mapio i’r Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (gweler yma). Ar ôl i chi gwblhau eich cwrs HSK, bydd gennych y dewis o sefyll y prawf HSK, sy’n gydnabyddiaeth ffurfiol o’ch gallu yn yr iaith Tsieineaidd ac yn dangos eich sgiliau i ddarpar gyflogwyr, prifysgolion a sefydliadau rhyngwladol eraill.
Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn ganolfan brofi HSK swyddogol, felly byddwch yn gallu sefyll y prawf ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau. Sylwer nad yw’r ffi arholiad wedi ei gynnwys yn y cwrs.
Rydym yn cynnig cyrsiau nos Mandarin o ddechreuwr HSK lefel 1 i HSK Lefel 6 uwch bob blwyddyn academaidd. Mae ein cyrsiau fel arfer yn cychwyn ym mis Medi, Ionawr a Mai.
Cadarnhau manylion ein cyrsiau nesaf.
Lefel 2 HSK
HSK 2: Cofrestrwch yn awr!Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer oedolion Saesneg eu hiaith sydd wedi cwblhau’r cwrs HSK Lefel 1 10 wythnos; meddu ar feistrolaeth ragorol ar Pinyin a geirfa siarad a gwrando o 150 gair.
Deilliannau Dysgu
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, dylai myfyrwyr allu gwneud y canlynol:
- Cyflawni holl nodweddion Lefelau A1 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd
- Datblygu geirfa siarad a gwrando o’r 300 gair Tsieineaidd a ddefnyddir yn aml a gramadeg perthnasol
- Datblygu geirfa ysgrifenedig o 200 llythyren
- Yn gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn tasgau arferol bob dydd sy’n gofyn am gyfnewid syml ac uniongyrchol (e.e. gofyn am wybodaeth am leoliadau a chyfarwyddiadau a sut i ymateb; gofyn cwestiynau am deithio a siopa; gofyn cwestiynau yn ymwneud ag amser; cyfleu sgyrsiau dyddiol am fwyd, teuluoedd ac ati.)
Ffioedd y cwrs
- Aelodau o’r cyhoedd £110
- Myfyrwyr a staff Prifysgol Bangor £90
Cysylltiadau defnyddiol:
Ymholiadau
Am ymholiadau a manylion pellach, cysylltwch â confuciusinstitute@bangor.ac.uk