Gwersi Mandarin am ddim trwy Zoom
Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig gwersi Mandarin am ddim trwy Zoom.
Ymunwch â ni i ddysgu'r iaith Fandarin ar-lein!
Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i oedolion sy'n ddechreuwyr llwyr heb fawr o wybodaeth o'r iaith Fandarin, os o gwbl.
Manylion y Cwrs
- Dosbarthiadau: Ddwywaith yr wythnos (dydd Mawrth a dydd Iau)
- Amseroedd Dosbarthiadau: 2.00pm - 3.30pm (1.5 awr)
- Cyfanswm Oriau: 30 awr dros 20 sesiwn (10 wythnos yn olynol x 3 awr)
- Dyddiad cychwyn: dydd Mawrth, 7 Ebrill 2020
- Dyddiad gorffen: dydd Iau, 11 Mehefin 2020
- Lleoliad ar-lein: I gofrestrwch anfon eich enw a'ch cyfeiriad e-bost i confuciusinstitute@bangor.ac.uk
Deilliannau dysgu
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, dylai myfyrwyr allu gwneud y canlynol:- Cyflawni holl nodweddion Lefelau A1 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd
- Meistroli pinyin a system ffonetig Mandarin
- Cyfnewid cyfarchion bob dydd drostynt eu hunain ac eraill
- Gofyn ac ateb cwestiynau syml gan gynnwys cwestiynau am ddyddiadau, oedran, cenedligrwydd, lleoliadau, tywydd.
- Cymryd rhan mewn sgyrsiau sylfaenol yn ymwneud â gwaith, teithio a siopa.
- Datblygu geirfa lafar o 150 o'r geiriau a ddefnyddir amlaf.
- Datblygu gwybodaeth am hanner cant o bwyntiau gramadeg hanfodol.
- Datblygu geirfa ysgrifenedig o 150 o eiriau.
- Deall moesau ac arferion Tsieineaidd syml mewn perthynas â chynnwys y cwrs.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld ar-lein bob dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 2pm-3.30pm!