Arbenigwyr Gardd Tsieineaidd yn Rhannu eu Harbenigedd yng Ngogledd Cymru
Fel rhan o'u taith yn y DG, ymwelodd cynrychiolwyr o Ganolfan Weinyddol Parciau Bwrdeistref Beijing (BJMACP) â Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos diwethaf ac mewn darlith ddiddorol esboniwyd sut datblygodd yr Ardd Tsieineaidd draddodiadol dros amser. Cafodd Gerddi Botaneg Beijing, blodau Tsieineaidd a thirweddau gardd gwahanol yn ne-ddwyrain a de Tsieina eu harddangos yn ystod y ddarlith, ac yna cynhaliwyd gweithdy rhyngweithiol ar Bensaernïaeth yr Ardd.
Mae Canolfan y Parciau yn rheoli 11 o barciau trefol hanesyddol bwysig yn Beijing sy’n cynnwys rhai o dirnodau enwog Beijing gan gynnwys Palas yr Haf, y Deml Nefoedd, Gardd Fotaneg Beijing ac Amgueddfa Gerddi Tsieineaidd a Phensaernïaeth Tirwedd. Bob blwyddyn, bydd mwy na 100 miliwn o ymwelwyr yn cael eu croesawu yno ac mae gan y parciau rôl hanfodol i’w chwarae wrth ledaenu gwybodaeth am dreftadaeth ddiwylliannol, addysg, gwyddoniaeth, cadwraeth ecolegol a diwylliant glasurol Tsieina.
Yn dilyn y ddarlith, dywedodd un o’r mynychwyr, Will Steward o Cygnor Sir Ynys Môn
“Roedd yn fraint gallu mynychu'r cyflwyniad proffesiynol ac addysgiadol hwn gan gynrychiolwyr o Erddi Botanegol Beijing. Roeddent yn llysgenhadon gwych ac mae’r teimlad gwych a brofais yno, yn dal i fod gyda mi. Roedd cyfle i ddefnyddio llyfr lliwio, gan sgriblo lliwiau o fewn darluniau llinell - ymarfer diddorol nad wyf wedi'i wneud ers blynyddoedd lawer! Roedd hyn yn ymlaciol iawn, ac yn rhyfeddol, sbardunodd ar sgwrs ddiddorol gyda chyd-'artistiaid'. Mae'r teimlad gwych hwnnw o gyfarfod â phobl o ran arall o'r byd yn dal i aros gyda mi. Fe wnaethom wrando ar ein gilydd, siarad â'n gilydd, tynnu lluniau gyda'n gilydd, a bwyta gyda'n gilydd. Diwrnod perffaith!”
Ychwanegodd,
“Mae Sefydliad Conficius yn hwyluso dealltwriaeth a chyfeillgarwch rhwng gwledydd a phrifysgolion, ac mae'n lle arbennig iawn. Mae staff y Sefydliad yn gwneud gwaith rhagorol wrth drefnu digwyddiadau sy'n gofiadwy am eu trefniant gwych a chael gwneud ffrindiau newydd.”
Mewn lleoliad ar wahân, yn un o Hybiau Ystafell Ddosbarth Sefydliad Confucius, Ysgol Hiraddug yn Nyserth, cynhaliwyd dau weithdy. Roedd y cyntaf ar offerynnau cerdd traddodiadol Tsieineaidd (wedi'u gwneud o ddeunyddiau naturiol fel pren, lledr, bambŵ) sy’n cael eu chwarae yn y Deml Nefoedd. Yn yr ail weithdy, cafodd y plant gyfle i ddysgu mwy am flodau a phlanhigion Tsieineaidd yn ogystal â'r amgylchedd naturiol a chadwraeth.
Disgyblion Ysgol Hiraddug, Dyserth yn arddangos eu creadigaethau Tseineaidd!
Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd y prifathro Tristan Hughes,
“Roedd y ddau weithdy'n ardderchog, a chafodd y plant amser gwych yn dysgu am blanhigion a natur drwy chwarae, ac offerynnau cerdd Tsieineaidd sy’n cael eu chwarae yn y Deml Nefoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn i Sefydliad Confucius am drefnu'r diwrnod hwn ac edrychwn ymlaen at groesawu mwy o weithdai fel hyn yn y dyfodol. Diolch!"
Ymwelodd y cynrychiolwyr o Beijing â Gardd Treborth ym Mangor hefyd ac fe greodd yr Ardd Dsieineaidd argraff ddofn arnyn nhw a'r nifer fawr o planhigion gwahanol sydd yno.
Roedd yr ymweliad â Bangor eleni mor llwyddiannus fel bod Sefydliad Confucius eisoes yn cynllunio ymweliad BJMACP y flwyddyn nesaf fydd yn cynnwys arhosiad hwy ym Mangor, ynghyd â mwy o weithdai mewn ysgolion lleol yn ogystal ag arddangosfa ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2019