Mrs Marian Wyn Jones - Cadeirydd y Cyngor

Mae Mrs Marian Wyn Jones yn gyn newyddiadurwr a gwneuthurwr ffilmiau dogfen a enillodd sawl gwobr, cafodd Marian yrfa ddisglair yn y BBC cyn datblygu gyrfa fel cyfarwyddwr anweithredol ar lefel uchaf bywyd cyhoeddus, yn cynnwys gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Celfyddydau Cymru, lle mae’n Is-gadeirydd. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar gyrff llywodraethu nifer o elusennau eraill a sefydliadau addysgol. Mae hi eisoes wedi bod yn aelod o’r Cyngor, ac o’r herwydd mae ganddi ddealltwriaeth drylwyr o’r brifysgol a’r heriau sy’n wynebu’r sector addysg uwch.
Cafodd Marian, sy’n siaradwr Cymraeg rhugl, ei magu yng nghanolbarth Cymru a’i haddysgu yn Aberystwyth a Llundain. Mae wedi yw yng Ngogledd Cymru ers dros 30 mlynedd. Ymhlith ei diddordebau mae cerddoriaeth a’r theatr, ac mae’n mwynhau cerdded yng nghefn gwlad Cymru yn ogystal â chefnogi tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.
Mae Marian yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu (Cadeirydd),
- Pwyllgor Taliadau,
- Pwyllgor Cyllid a Strategaeth
- Pwyllgor Pobl a Diwylliant
Gellir cysylltu â Marian yn chaircouncil@bangor.ac.uk
Mr Atul Devani

Mae Atul wedi dal nifer o uwch swyddi mewn cwmnïau technoleg meddalwedd yn gweithio mewn amryw o sectorau gan gynnwys cyllid, sector symudol, telathrebu, bwyd a diod, iechyd a deunydd fferyllol.
Ef oedd sylfaenydd a phrif swyddog gweithredol United Clearing Plc, a restrwyd gan AIM ac a werthwyd i BSG yn 2006. Ar hyn o bryd mae Atul yn Brif Swyddog Gweithredol darparwr Gofal Iechyd y Deyrnas Unedig ac yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Cyfalaf Menter yn Maven Capital ac yn fuddsoddwr mewn nifer o gwmnïau preifat.
Mae hefyd yn fentor i entrepreneuriaid yng Nghwmni Technolegwyr Gwybodaeth yn Ninas Llundain. Mae gan Atul Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Peirianneg Electronig o Brifysgol Bangor.
Mr Eric Hepburn CBE

Bu'n Gyfarwyddwr Diogelwch Senedd San Steffan rhwng 1 Medi 2016 a 31 Rhagfyr 2020, swydd a oedd yn ymwneud â diogelwch corfforol, gweithredol a phersonél Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ac roedd yn aelod o fwrdd rheoli'r ddau dŷ. Cyfarwyddwr Anweithredol rhaglen seiberddiogelwch Senedd San Steffan. Uwch Berchennog Cyfrifol Rhaglen Adfer ac Adnewyddu proffil uchel Senedd San Steffan gwerth £5bn.
Mae ei swyddi blaenorol wedi cynnwys:
- Cyfarwyddwr Diogelwch y Swyddfa Dramor a Chymanwlad gyda chyfrifoldeb am bob agwedd ar ddiogelwch corfforol, technegol a phersonél 286 aelodau staff y Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n gweithio dramor ac yn y Deyrnas Unedig.
- Gwasanaethau Corfforaethol Conswl Cyffredinol a Chynghorydd EM (Swyddfa Dramor a Chymanwlad), 2015 - 2015, yn Washington DC. Roedd y swydd yn cynnwys cyfrifoldeb am AD, cyllid, ystadau, caffael a rheoli cyfleusterau mewn deg lleoliad ledled UDA. Sefydlodd ganolfan wasanaethau a rennir ar gyfer America.
- Prif Swyddog Gweithredu (10 Downing Street), 2006 - 2012, a oedd yn cynnwys goruchwylio gwaith trin ar yr adeilad.
- Cyfarwyddwr Seilwaith (Swyddfa'r Cabinet), 2002 - 2006 a oedd yn ymwneud ag ystadau, rheoli cyfleusterau, TG a thelathrebu a diogelwch.
- Amrywiol swyddi TG a rheoli projectau yn y sector preifat.
Aelod o dîm adolygu porth risg uchel â phrofiad o weithio gyda'r Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Rwy'n Gyfrifydd Rheoli Siartredig ac yn Fanciwr Siartredig, mae gennyf MBA gyda rhagoriaeth o Henley Management College ac wedi graddio o Major Projects Leadership Academy Prifysgol Rhydychen/Awdurdod Projectau a Seilwaith Trysorlys EM.
Mr Marc P Jones

Cafodd Mr Marc Proudlove Jones ei fagu ar y fferm deuluol ym Mathrafal, Meifod lle cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003 a 2015, ac mae bellach yn rheoli’r ffarm. Mae’n gyn fancwr buddsoddi gyda gyrfa 30 mlynedd gyda JP Morgan a RBS. Mae ganddo brofiad rhyngwladol helaeth ar draws Ewrop a’r Dwyrain Pell, yn cynnwys 9 mlynedd yn Hong Kong. Mae Marc bellach yn canolbwyntio ar ddatblygu busnes fel Cyfarwyddwr Anweithredol neu ymgynghorydd.
Mae Marc yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Cyllid a Strategaeth,
- Pwyllgor Taliadau
Mr Kailesh Karavadra

Kailesh yw Arweinydd Marchnadoedd Twf Strategol Ernst & Young, wedi'i leoli yng Nghaliffornia, UDA. Dechreuodd Kailesh ei yrfa yn y DU fel Cyfrifydd Siartredig bron i 30 mlynedd yn ôl, cyn symud i Silicon Valley yn ystod oes dot-com y 1990au. Ganwyd Kailesh yn Affrica ac ar ôl cael ei orfodi i adael fel ffoadur, teithiodd i India ac yna i'r DU, lle dysgodd siarad Saesneg. Ei swydd gyntaf oedd dosbarthu papurau newydd ac ar ôl gweithio mewn siop manwerthu a glanhau'r gegin mewn bwyty, mae'n deall gwerth gwaith caled.
Mae Kailesh yn falch o fod wedi graddio ym Mhrifysgol Bangor, gan ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Peirianneg Electronig ac yna Gradd MEng yn arbenigo mewn deallusrwydd artiffisial. Mae Kailesh yn parhau i fod yn gyfrifydd siartredig yn y DU ac mae wedi cwblhau Rhaglenni Dysgu Busnes Gweithredol yn Kellogg, Harvard, Ysgol Busnes Llundain, Stanford, a Phrifysgol Singularity. Pan yn astudio ym Mangor, derbyniodd Kailesh ysgoloriaeth hedfan gyda'r Llu Awyr Brenhinol.
Yn 2017 dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Kailesh o Brifysgol Bangor am ei wasanaethau i fusnes a'r gymuned, ac ymunodd â bwrdd cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn 2019.
Yn ei amser hamdden, mae Kailesh yn mwynhau reidio beiciau modur a hyfforddi pêl-droed ar gyfer timau dynion a merched, mae wedi cwblhau triathlon, awyrblymio, rapelio lawr adeiladau ar gyfer elusen, dringo Mynydd Kilimanjaro i godi arian i adeiladu ffynhonnau dŵr yn Affrica, a chadw merched yn yr ysgol ac wedi dysgu pêl-droed ym Mumbai.
Hoff ddyfyniad Kailesh sy'n arwyddair iddo, “Nid yw pobl yn malio beth rydych chi'n ei wybod nes eu bod nhw'n gwybod eich bod chi'n malio.”
Yr Is-Lyngesydd Syr Paul Lambert

Mae’r Is-Lyngesydd Syr Paul Lambert wedi meithrin sgiliau strategol, ariannol ac arweinyddiaeth mewn cyfres o swyddi ac apwyntiadau amlwg yn Whitehall a’r sector elusennol. Mae ar hyn o bryd yn Ysgrifennydd Cyffredinol St John International a chynt bu’n Ddirprwy Bennaeth y Staff Amddiffyn (Gallu i Weithredu), gan fod yn gyfrifol am offer a chyllideb gefnogi o £14bn a rhoi cyngor annibynnol i weinidogion. Cafodd ei urddo’n Farchog yn 2012 ac mae wedi ymrwymo i ddysgu gydol oes. Mae ganddo brofiad rhyngwladol helaeth.
Mae Paul yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Cyllid a Strategaeth (Cadeirydd),
- Pwyllgor Taliadau
Mrs Alison Lea-Wilson MBE

Mae Mrs Alison Lea-Wilson MBE yn sefydlydd Sw Môr Môn ac yn gyfarwyddwr Halen Môn. Graddiodd o Brifysgol Bangor ac fe’i derbyniwyd yn Gymrawd er Anrhydedd o’r Brifysgol.
Mae Alison yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Archwilio a Risg,
- Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu
- Pwyllgor Strategol y Gymraeg
Ms Julie Perkins

Mae Ms Julie Perkins yn gyn-fyfyriwr o Fangor ac yn Gyfarwyddwr Gweithle Digidol yn Lloyds Banking Group. Mae’n weithiwr technoleg gwybodaeth proffesiynol, gyda phrofiad o gyflwyno newid, gan ymgorffori newid trawsnewidiol ac mae’n frwd iawn dros hyrwyddo amrywiaeth.
Mae Julie yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Cyllid a Strategaeth,
- Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu,
- Pwyllgor Taliadau
Dr Ian Rees

Mae Dr Rees yn gyn Brifathro Coleg Menai ac yn Uwch Gyfarwyddwr gyda chyfrifoldeb am faterion allanol gyda Grŵp Llandrillo Menai. Cyn hynny roedd yn Brifathro/Prif Weithredwr Coleg Meirion-Dwyfor ac yn Bennaeth Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog.
Dros y blynyddoedd mae hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr nifer o gyrff, gan gynnwys Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, Fforwm a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Roedd hefyd yn aelod o Bwyllgor Rhanbarthol Canolbarth Cymru, ELWa.
Rhwng 2006 a 2012 roedd yn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru. Roedd yn Is-gadeirydd y Cyngor, ac yn gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg rhwng 2009 a 2012.
Rhwng 2012 a 2015 bu Ian yn cadeirio Panel Ymgynghorol Comisiynydd y Gymraeg ac yn 2018 penodwyd yn gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg y Comisiynydd.
Mae Ian yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Archwilio a Risg,
- Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu,
- Pwyllgor Diswyddiadau (Cadeirydd)
Yr Athro Jean White CBE
Jean oedd Prif Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru rhwng Hydref 2010 ac Ebrill 2021. Gyda gyrfa nyrsio sy’n ymestyn dros 40 mlynedd, dechreuodd ei bywyd proffesiynol fel nyrs gyffredinol yn Abertawe ac mae wedi ymarfer yng Nghymru ac yn Llundain. Mae hi wedi dal sawl swydd ym myd addysg nyrsio, gyda Bwrdd Cenedlaethol Cymru (corff rheoleiddio), Proffesiynau Iechyd Cymru ac fel gwas sifil yn Llywodraeth Cymru. Bellach, â hithau wedi ymddeol o’r gwasanaeth sifil, mae’n Athro Nyrsio ar Ymweliad ym Mhrifysgol De Cymru, yn fentor ar raglen Merched o Leiafrifoedd Ethnig yng Ngofal Iechyd Cymru, yn ymgynghorydd nyrsio arbenigol i Swyddfa Ranbarthol Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ac mae’n aelod o banel beirniadu Gwobrau Dewi Sant bob blwyddyn.

Cymraes yw Jean yn enedigol a chafodd ei magu ar Benrhyn Gŵyr. Mae ganddi nifer o gymwysterau academaidd hyd at ac yn cynnwys PhD. Mae gan Jean hefyd nifer o gymrodoriaethau academaidd a phroffesiynol: Cymrawd Prifysgol Bangor, Cymrawd Prifysgol Abertawe, Cymrawd Queen’s Nursing Institute, a Chymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Bydwragedd. Derbyniodd CBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2017, daeth yn Aelod o Urdd Sant Ioan yn 2018 a dyfarnwyd Gwobr Cyflawniad Oes iddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2021.
Mae Jean yn aelod o’r pwyllgorau canlynol:
- Pwyllgor Pobl a Diwylliant
- Pwyllgor Archwilio a Risg
- Pwyllgor Iechyd a Diogelwch
- Bwrdd Ymgynghorol Graddau a Chymrodoriaethau er Anrhydedd
Yr Athro Tim Wheeler, DL
Penodwyd Tim Wheeler yn Brifathro Coleg Caer ym 1998 ac wedyn yn Is-Ganghellor Prifysgol Caer yn 2005. Ymddeolodd o'r swydd hon yn 2020. Yn ystod ei amser yno tyfodd y sefydliad o 4,200 o fyfyrwyr i 20,700, o un safle i naw gan gynnwys Canolfan Prifysgol Amwythig. Ehangodd y cwricwlwm o addysg, nyrsio, y celfyddydau a gwyddoniaeth i gynnig y gyfraith, meddygaeth, busnes, peirianneg a gwelwyd y trosiant yn cynyddu o £14M i £130M gyda gwarged o £3M.

Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Bae Colwyn, ac yna Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle cafodd radd baglor a doethuriaeth mewn seicoleg. Mae ganddo nifer o ddoethuriaethau er anrhydedd. Yn ystod ei yrfa, mae wedi dal swyddi mewn prifysgolion yng Nghymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban, a chyfnod fel Uwch Ysgolhaig Ymchwil Gwadd yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen. Mae llawer o'i waith wedi cynnwys ymgynghoriaethau academaidd a diwydiannol, yn ogystal â phrofiad yn Ewrop, America, Tsieina ac Awstralia. Mae wedi cyhoeddi dros 120 o erthyglau, llyfrau ac adroddiadau ymchwil mewn ystod amrywiol o feysydd gan gynnwys seicoffarmacoleg, dyslecsia, cyfathrebu a diogelwch.
Roedd Tim yn Ddirprwy Gadeirydd LEP (Partneriaeth Menter Leol) Swydd Gaer a Warrington ac yn aelod o’r Mersey Dee Alliance, melin drafod economaidd trawsffiniol.
Mae’n gyn-ddirprwy Gadeirydd Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS). Mae’n Ddirprwy Raglaw Swydd Gaer ac mae ganddo ran amlwg ag Eglwys Gadeiriol Caer fel Canon Lleyg. Mae’n rhyddfreiniwr Dinasoedd Llundain a Chaer.
Mae wedi bod yn llywodraethwr ysgol a llywodraethwr corfforaeth AB ers dros 35 mlynedd. Tim yw Cadeirydd Bwrdd Coleg Cambria.
Dau aelod o’r Senedd
Un aelod a enwebir gan y staff academaidd
Un aelod a enwebir gan y staff anacademaidd
- Mr Paul Wood
Yr Is-ganghellor
Dirprwy i’r Is-ganghellor
Llywydd Undeb y Myfyrwyr
Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB)
Ysgrifennydd y Cyngor
- Ysgrifennydd y Cyngor yw Mrs Gwenan Hine, Dirprwy Ysgrifennydd / Pennaeth Gwasanaethau Llywodraethiant gwenan.hine@bangor.ac.uk