Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
Croeso i rifyn diweddaraf E-Newyddlen Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Does dim gwahaniaeth os ydych chi'n darllen y newyddlen hon o ben arall y byd neu’n gwneud hynny rownd y gornel, rydym yn hapus cael cadw mewn cyswllt â chi.
Y mis hwn, yr hyn sy’n peri cyffro yma yw ein bod yn cael dathlu llwyddiant ein graddedigion newydd, a fydd, yn ystod y seremonïau graddio yr wythnos nesaf, yn ymuno â'n teulu o gyn-fyfyrwyr. Mae'r egni, y balchder a'r llawenydd y gall rhywun ei deimlo ar y campws yn ystod wythnos y seremonïau graddio bob amser yn ysbrydoli ac yn atgof pwerus o'r etifeddiaeth yr oeddech chi yn rhan o’i chreu.
Byddwn yn rhannu lluniau o'r seremonïau graddio ar ein tudalennau Facebook, LinkedIn ac Instagram, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n rhan o'n rhwydweithiau ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn ein helpu i groesawu aelodau newydd i’n cymuned o gyn-fyfyrwyr.
Dymuniadau gorau,
Emma Marshall
Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
NEWYDDION O'R BRIFYSGOL
Naw unigolyn yn cael eu hanrhydeddu yn ystod wythnos graddio
Bydd Prifysgol Bangor yn dyfarnu graddau er anrhydedd yn yr haf hwn i naw unigolyn o feysydd gwasanaeth cyhoeddus, llenyddiaeth, etifeddiaeth, busnes, cerddoriaeth, gwyddoniaeth a chwaraeon, a hynny am eu cyfraniad i fywyd cyhoeddus.
Cynhelir y seremoniau graddio, sef uchafbwynt y flwyddyn academaidd i fyfyrwyr a’u hanwyliaid ac i staff y brifysgol, yn ysblander hanesyddol Neuadd Prichard-Jones yn y brifysgol rhwng dydd Llun 7 Gorffennaf a dydd Gwener 11 Gorffennaf.
Mae saith o dderbynwyr gradd anrhydeddus yr haf yma yn gyn-fyfyrwyr o'r Brifysgol ac yn cynnwys Cheryl Foster MBE (Chwaraeon - Iechyd ac Addysg Gorfforol, 2005 a PGCE Addysg Gorfforol, 2006), yr Athro Pedr ap Llwyd PLSW (Cymraeg, 1983), Sharon Manning MBE (Nyrsio, 2004), Gwyn Lewis Williams (MA Cerddoriaeth, 1970 a chyn-aelod o staff), Toby Dixon (Astudiaethau Busnes a Marchnata, 2002), Dr Keith Hiscock MBE (PhD Bioleg y Môr, 1976) a Alison Field (Coedwigaeth, 1978). Bydd Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, a’r Athro David T Jones, Cyn Rheolwr Cyffredinol Awdurdod Iechyd Clwyd, hefyd yn derbyn anrhydeddau.
Fe'ch gwahoddir: Eisteddfod Genedlaethol 2025
Ymunwch â ni ar gyfer ein haduniad rheolaidd o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Wrecsam. Cynhelir yr aduniad ar stondin Prifysgol Bangor 2.00 - 3.30pm ddydd Mercher, 6 Awst 2025.
Byddwch yn cael eich croesawu gan yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol a fydd yn son am rai o’r datblygiadau sy’n digwydd yn y Brifysgol. Byddwch wedyn yn clywed am lwyddiannau Undeb y Myfyrwyr gan Lywydd UMCB, Huw Williams, cyn cael digon o amser i ddal i fyny hefo’ch cyd cyn-fyfyrwyr a staff. Yn anffodus, na fyddwn yn gallu cynnig lluniaeth eleni ond mae croeso i chi ddod a bwyd a diod eich hun a mwynhau eich amser ar ein stondin.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i gyd yn ôl i'r Eisteddfod!
Cysylltwch â Bethan Perkins: b.w.perkins@bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth.
Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin i gyn-fyfyrwyr
Roedden ni'n falch iawn o glywed bod sawl un o'n cyn-fyfyrwyr wedi cael eu henwi ar restr anrhydeddau Pen-blwydd Brenin Charles III yn ddiweddar.
Dyfarnwyd OBE i Geraint Richards MVO (Coedwigaeth, 1982) (De, isod), Llywydd Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig, am ei wasanaeth i'r sector coedwigaeth, a dyfarnwyd MBE i Simon Bareham (Bioleg Pysgodfeydd, 1986), uwch-gynghorydd arbenigol ar gyfer polisi diwydiant ac ymbelydredd, am ei wasanaeth i ddiogelu ansawdd aer a bioamrywiaeth yng Nghymru.
Llongyfarchiadau hefyd i Dr Tracey Fiona Sandom (PhD o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd, 2024) (De), Cadeirydd Cymdeithas Brydeinig y Therapyddion Deintyddol, y dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaeth i therapi deintyddol ac i'r GIG yng Nghymru, ac i Zoe Gascoyne (Cymdeithaseg a Throseddeg, 1998), Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwiliadau i Dwyll Cyfoeth a Chorfforaethol Tramor yn HMRC, sy’n derbyn OBE am ei gwasanaeth i ymchwiliadau treth cymhleth.
Bydd yr Athro Peter Higgins (Hyfforddiant Athrawon, 1986) (De uchod), Cadeirydd Addysg Amgylcheddol ac Addysg Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Caeredin, yn derbyn OBE am ei wasanaeth i'r Amgylchedd ac Addysg Awyr Agored, a bydd Robert Dunne, a raddiodd o’r rhaglen MBA Bancwr Siartredig yn 2013, yn cael ei gydnabod am ei wasanaeth i gyn-filwyr.
Bydd Geoffrey Sansome (Amaethyddiaeth, 1982), sydd wedi ymddeol o’i swydd fel Pennaeth Amaethyddiaeth yn Natural England y llynedd, yn derbyn MBE am ei wasanaeth i amaethyddiaeth a'r sector gwirfoddol.
Rydym ni'n falch bod eu llwyddiannau wedi'u cydnabod yn y ffordd yma ac yn estyn llongyfarchiadau mawr gan bawb yma ym Mhrifysgol Bangor.
Dathliad 40 mlynedd y dosbarth Coedwigaeth '85
Yn ddiweddar, trefnodd Trefor Owen (Coedwigaeth, 1985), cyn-fyfyriwr sydd wedi derbyn Gradd er Anrhydedd o Brifysgol Bangor, aduniad ar gyfer ei ddosbarth i ddathlu 40 mlynedd ers iddynt raddio.
Dywedodd Trefor, “Daeth pawb at ei gilydd yn ystafell F1 adeilad Thoday, ar bnawn Gwener godidog, am de, cacen a llawer o sgwrsio! Roedden ni'n falch bod rhai o'r staff o'n cyfnod ni ym Mangor a oedd eisoes wedi ymddeol hefyd wedi ymuno â ni, gydag un o'n grŵp yn dal i geisio cael estyniad ar gyfer traethawd!
Ar ôl setlo yng Nghanolfan Rheolaeth y Brifysgol, cawsom ginio o bysgod a sglodion a digon o gwrw ‘Mŵs Piws’ yn Nhafarn y Garth nos Wener. Cerddodd rhai o'r grŵp ar hyd Llwybr Arfordir Cymru o Fangor i Abergwyngregyn ar fore Sadwrn, cyn cwrdd â'r lleill am daith blasu hynod bleserus a chinio ysgafn yn Distyllfa Aber Falls. Dilynwyd hyn gan daith gerdded ‘coedwigaeth’ yn y prynhawn yng Nghoedydd Aber gerllaw.
Daeth y dathliad i ben gyda swper hyfryd yn y Ganolfan Rheolaeth nos Sadwrn, yng nghwmni'r Athro John Healey a Dr Christine Cahalan. Rhoddodd John ddiweddariad i ni am waith ffyniannus yr Adran Goedwigaeth ac awgrymodd wahanol ffyrdd y gall cyn-fyfyrwyr ei gefnogi ef a'r tîm.”
Os oes gennych chi ddiddordeb i ddod â'ch ffrindiau yn ôl at ei gilydd ar gyfer ymweliad â Bangor ac yn dymuno cefnogaeth i drefnu hynny, cysylltwch â Bethan Perkins drwy e-bostio alumni@bangor.ac.uk
Cyn-fyfyrwyr yn ysbrydoli myfyrwyr i archwilio gyrfaoedd yn y cyfryngau bywyd gwyllt
Gyda ddiolch i gyn-fyfyrwyr hael, mae Cronfa Bangor wedi grymuso myfyrwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol i greu a chyflwyno amrywiaeth o fentrau sy'n anelu at wella profiad y myfyrwyr trwy weithgareddau sy'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd - wedi'u cynllunio gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr.
Un canlyniad allweddol o'r gefnogaeth hon fu sefydlu Gweithgor Cyflogadwyedd dan Arweiniad Myfyrwyr yr Ysgol. Mae'r grŵp deinamig hwn wedi trefnu Diwrnod Cyflogadwyedd llwyddiannus, gan ymgysylltu â bron i 300 o fyfyrwyr. Amlygodd y digwyddiad ymroddiad rhyfeddol y gymuned fyfyrwyr, gan gynnwys siaradwyr gwadd llawn mewnwelediad, stondinau gyrfaoedd a gwirfoddoli lleol, lluniau proffiliau LinkedIn, a chyngor gyrfa arbenigol.
Mae Cronfa Bangor hefyd wedi cefnogi teithiau cerdded natur a lles sydd ar ddod, diwrnodau sgiliau gwaith maes, a chyfraniadau tuag at drwyddedau llif gadwyn - gan gyfoethogi datblygiad ymarferol a phroffesiynol myfyrwyr ymhellach.
Parc y Coleg ar agor i'r cyhoedd
Mae Parc y Coleg, man gwyrdd arwyddocaol a hanesyddol sy'n cysylltu'r Brifysgol a chanol dinas Bangor, wedi ailagor yn llawn i'r cyhoedd yn diweddar.
Wedi'i drawsnewid yn ardal heddychlon a hygyrch, mae Parc y Coleg bellach yn fan croesawgar i bawb ei fwynhau.
Mae'r brif fynedfa i'r Parc wedi agor man gwyrdd croesawgar i gysylltu Dinas Bangor â Bangor Uchaf. Mae’r project wedi'i ariannu drwy raglen 'Trawsnewid Trefi' Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd.
Prifysgol Bangor yn y safle cyntaf yng Nghymru
Mae Prifysgol Bangor wedi'i henwi fel y brifysgol orau yng Nghymru yn y University Compare Rankings 2026.
Mae’r University Compare Rankings yn seiliedig ar gyfuniad o adolygiadau myfyrwyr wedi eu gwirio a metrigau perfformiad allweddol. Mae'r rhain yn cynnwys ansawdd cyrsiau, cyflogadwyedd graddedigion, bywyd myfyrwyr a llety.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol yn genedlaethol, gan godi 49 lle i'r 15fed safle yn y Deyrnas Unedig, gan ei gosod yn gadarn o fewn 20 prifysgol orau'r wlad. Mae'r gwelliant hwn yn adlewyrchu datblygiadau cadarnhaol ar draws nifer o feysydd o'n profiad myfyrwyr.
Safle Prifysgol Bangor yn codi o ran cynaliadwyedd byd-eang
Mae Prifysgol Bangor yn y deg uchaf am ei harferion cynaliadwyedd ac, am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, yn un o'r 100 prifysgol orau yn y byd.
Mae Prifysgol Bangor bellach yn safle 64 o ran prifysgolion mwyaf cynaliadwy’r byd a’r nawfed yn y Deyrnas Unedig yn ôl y Times Higher Education Impact Rankings blynyddol.
Mae hyn yn nodi gwelliant cryf ar safle Prifysgol Bangor yn 77 ar y rhestr bydol yn 2024, dyma’r tro cyntaf mae’r brifysgol wedi’i henwi yn y deg uchaf ym Mhrydain.
Myfyrwyr yn arwain y ffordd mewn ymchwil sy'n cael ei gyrru gan y cymuned
Mae Prifysgol Bangor a Chyngor Dinas Bangor yn falch o gyhoeddi derbynwyr cynllun bwrsariaeth newydd i fyfyrwyr a gynlluniwyd i gefnogi projectau ymchwil sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Cyngor y Ddinas ac uchelgais cymunedol.
Darparwyd cyfanswm o £3,000 mewn cyllid bwrsariaeth drwy Gyngor y Ddinas, gan ddenu 18 o gynigion cystadleuol o ansawdd uchel gan fyfyrwyr ledled y brifysgol. Ar ôl proses ddethol drylwyr, mae panel o gynrychiolwyr o Gyngor y Ddinas, y brifysgol, Undeb Myfyrwyr Bangor, ac M-SParc wedi dyfarnu pedair bwrsariaeth i brojectau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, pob un yn cynnig mewnwelediadau unigryw ac effaith bosibl ar gymuned Bangor a'r rhanbarth ehangach.
Gŵyl Draig Beats yn denu canoedd
Daeth dros 700 o bobl ynghyd i Ardd Fotaneg Treborth ddydd Sadwrn, 7 Mehefin i fwynhau Gŵyl Draig Beats a oedd yn ddigwyddiad bywiog i’r teulu cyfan, gan godi dros £4,000 i gefnogi Ymddiriedolaeth Sophie Williams.
Dechreuodd yr ŵyl yn y Maes Llesiant gyda sesiwn ioga adfywiol a thaith gerdded llesol ar hyd y Fenai. Wedyn, cafodd ymwelwyr roi cynnig ar amrywiaeth o brofiadau tawelu’r meddwl, gan gynnwys Tai Chi, myfyrdod, a baddon sain yn y pebyll lotus belle tawel sydd wedi'u nythu ger y coetir. Yn yr Ardd Tsieineaidd, roedd y coed afalau uchel yn creu canopi tawel i ymgymryd â thriniaethau llesol, lle cafodd westeion brofi triniaethau tylino, reiki, ac adweitheg mewn lleoliad heddychlon a naturiol. Cerddoriaeth oedd calon y digwyddiad, gyda dau lwyfan bywiog yn arddangos talent leol eithriadol. Bu sesiynau dawnsio bol yn y babell syrcas fawr, yn ogystal â dawnsio ceilidh llawen, a ddaeth y noson i ben gyda drymio taranllyd yn arwain gorymdaith stampio traed drwy’r ardd.
Wedi'i sefydlu'n wreiddiol i gefnogi Dr Sophie Williams, Darlithydd er Anrhydedd mewn Cadwraeth Planhigion yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, mae Draig Beats wedi tyfu i fod yn gonglfaen calendr digwyddiadau cymunedol gogledd Cymru.
A wnaethoch orffen eich cwrs rhwng Mai a Gorffennaf 2024?
Os felly, byddwch yn cael eich gwahodd yn fuan i gymryd rhan yn arolwg cymdeithasol mwyaf y Deyrnas Unedig - yr Arolwg Canlyniadau Graddedigion!
Cadwch lygad am e-bost oddi wrth bangoruniversity@graduateoutcomes.ac.uk yn eich mewnflwch. Dim ond 10 munud y mae'r arolwg yn ei gymryd i'w lenwi, ac efallai y byddwch hefyd yn cael galwad ffôn yn eich gwahodd i gymryd rhan.
Pam cymryd rhan?
Trwy lenwi’r arolwg, byddwch yn:
- Darparu gwybodaeth ddefnyddiol am lwybrau gyrfa a chyfleoedd i fyfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol.
- Helpu Prifysgol Bangor i werthuso ei chyrsiau a chyfrannu at bolisïau addysg uwch.
Bydd yr holl wybodaeth a roddwch yn ddiogel, yn ddienw ac yn gyfrinachol trwy gydol y broses.
Am fwy o fanylion, ewch i graduateoutcomes.ac.uk
Grymoedd Llygredd plastig a chyn-hesu byd-eang yn cyfuno i amharu ar fywyd y cefnfor
Mae ymchwil newydd o Brifysgol Bangor wedi datgelu y gallai effeithiau cyfunol cynhesu'r môr a llygredd microblastigion achosi niwed difrifol i ecosystemau morol, gan arwain at oblygiadau byd-eang o ran hinsawdd y blaned a diogelu'r cyflenwad bwyd.
Mewn arbrofion rheoledig yn dynwared amodau cefnforoedd y dyfodol, canfu gwyddonwyr fod ffytoplancton – organebau microsgopig sy'n gyfrifol am gynhyrchu hanner ocsigen y byd a dal symiau enfawr o garbon – wedi dioddef colledion sylweddol o ran twf ac amrywiaeth ar ôl dod i gysylltiad â thymereddau uwch a lefelau microblastigion rhagamcanol.