Pam yr Ydym Angen Arloesi?

Mae nifer o faterion cyfoes rydym yn ceisio rhoi sylw iddynt:

Yr economi fyd-eang sy’n newid

Erbyn y flwyddyn 2050 credir y bydd economïau China a’r India gyda’i gilydd yn fwy nag economïau’r G8 presennol. Mae hyn yn fygythiad mawr ar un llaw i fusnesau yn y DU, ond mae hefyd yn rhoi cyfleoedd enfawr ar y llaw arall.

Yr oes greadigol

Rydym yn symud i oes greadigol newydd lle gwelir arloesi parhaus a newidiadau cyflym. Y cwmnïau llwyddiannus fydd y rhai sy’n gallu addasu’n gyflym. Mae economi gyda chyfran dda o fusnesau bach a chanolig mewn gwell sefyllfa i ymateb i newidiadau annisgwyl.

Agosrwydd y farchnad

Mae’r rhyngrwyd yn cysylltu cyflenwyr, dylunwyr, gwneuthurwyr a defnyddwyr mewn ffordd sy’n herio’r farn gonfensiynol o bwy all neu na all wneud busnes. Mae’n penderfynu sut y gall arloeswyr gysylltu â’u marchnad a chael gwerth o’u creadigrwydd.

Democrateiddio technoleg

Mae technolegau digidol parod yn cael eu defnyddio gan bob math o arloeswyr fel arlunwyr a dylunwyr, gwneuthurwyr a hacwyr. Mae rhwystrau i’r farchnad yn gysylltiedig â maint yn cael eu gostwng ar draws llawer o sectorau. Mae angen i fusnesau arloesi’n gyson er mwyn cadw ar y blaen yn gystadleuol.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?