Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol

Datganiad Tryloywder

Cawsom £88,651,000 mewn ffioedd dysgu yn 2022/23, sef 50% o incwm y brifysgol. 

pie chart showing income of the university

Fersiwn hygyrch o'r wybodaeth yn y llun uchod:

Cyfanswm yr incwm am 2022/23 oedd £178.0m.

Ymddatodiad o'r incwm:
50% Ffioedd Dysgu a Chontractau Addysg
19% Grantiau a Chontractau Ymchwil
14% Grantiau Cyrff Cyllido
10% Incwm Arall  (ynghyd a incwm buddsoddi, rhoddio na gwaddolion)
7% Preswylfeydd a Gweithrediadau Arlwyo

Daw gweddill ein hincwm o grantiau gan gyrff ariannu at feysydd gwariant penodol, ffynonellau ariannu i dalu costau ymchwil, derbyniadau neuaddau ac arlwyo yn ogystal ag incwm o feysydd megis cyrsiau di-gredyd, Pontio, Academi, meithrinfa Tir Na Nog, y Ganolfan Rheolaeth, Parc Gwyddoniaeth Menai, Canolfan Brailsford a ffynonellau eraill.

pie chart showing expenditure of the university

Fersiwn hygyrch o'r wybodaeth yn y llun uchod:

Cyfanswm y gwariant yn 2022/23 oedd £172.3m.

Ymddatodiad o'r gwariant:
27% Adrannau Academaidd
14% Grantiau a Chontractau Ymchwil
12% Eiddo
11% Addysgol Cyffredinol
9% Preswylfeydd a Gweithrediadau Arlwyo
7% Gweinyddiaeth a Gwasanaethau Canolog
6% Gwasanaethau Acvademaidd
4% Cyfleusterau Staff a Myfyrwyr
4% Gwasanaethau a Ddarperir
1% Arall
-5% Symudiad ar Ddarpariaeth USS

Mae'r siart hwn yn dangos ein holl wariant, gan gynnwys costau nad ydynt yn cael eu hariannu gan ffioedd dysgu megis ymchwil, gwasanaethau a ddarperir e.e. gwaith ymgynghori a neuaddau.  Er mwyn dangos ar beth mae ffioedd dysgu yn cael eu gwario rydym wedi darparu dadansoddiad pellach isod.

Rydym yn gwario'r incwm o'ch ffioedd dysgu i dalu am eich addysg a chefnogi dyheadau a rhagolygon ein holl fyfyrwyr at y dyfodol.  Er mwyn gwneud hyn, caiff mwyafrif y ffioedd eu gwario ar addysgu a chymorth academaidd yn ogystal â gwariant ar TG, y llyfrgell ac adeiladau i hwyluso eich astudiaethau.

pie chart showing where student fees are spent

Fersiwn hygyrch o'r wybodaeth yn y llun uchod:

Ar beth mae fy ffioedd yn cael eu gwario:
29% Addysgu ac Asesu
18% Costau Cynnal a Chadw Adeiladau
16% Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr (costau nad ydynt yn ymwneud â staff)
10% Gwasanaethau Proffesiynol
9% Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr (costau staff)
7% Costau ysgolion nad ydynt yn ymwneud â staff
4% Costau Darparu Offer a Gwasanaethau Llyfrgell a TG nad ydynt yn ymwneud â staff
4% Staff cefnogi mewn ysgolion
3% Darpariaeth staff o Wasanaethau TG a Llyfrgell

Addysgu ac asesu

Amser addysgu ac amser cyswllt staff, amserlennu, darparu adnoddau ar-lein, trefnu arholiadau, amser tiwtor personol

Staff cefnogi mewn ysgolion

Staff gweinyddol a thechnegol sy'n gweithio yn ysgolion y brifysgol i gefnogi’r ddarpariaeth addysg

Costau ysgolion nad ydynt yn ymwneud â staff

Offer a nwyddau traul i gefnogi addysgu, hyfforddi staff academaidd a chostau teithio a recriwtio myfyrwyr

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr (costau staff)

Costau cefnogi myfyrwyr a chostau staff gweinyddol

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr (costau nad ydynt yn ymwneud â staff)

Costau cefnogi myfyrwyr a chostau staff gweinyddol

Darpariaeth staff o Wasanaethau TG a Llyfrgell

Costau staff TG a Gwasanaethau Llyfrgell

Costau Darparu Offer a Gwasanaethau Llyfrgell a TG nad ydynt yn ymwneud â staff

Costau offer TG cyfrifiaduron a rennir, cysylltiad di-wifr costau rhwydwaith, llyfrau a chyfnodolion nad ydynt yn ymwneud â staff

Costau cynnal a chadw adeiladau

Costau cynnal a chadw ystad y brifysgol gan gynnwys costau goleuo, gwresogi a chynnal a chadw

Gwasanaethau Proffesiynol

Costau i gefnogi'r brifysgol i weithredu'r swyddogaethau uchod.

Gwariant penodol ar Wasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

O ran costau Cefnogi Myfyrwyr, rydym yn darparu'r gwasanaethau canlynol i wella cyfleoedd myfyrwyr i lwyddo. Ariennir hyn gan ffioedd myfyrwyr sy'n ychwanegu at gyllid grant o tua £756k.

 

£’000

Lles Myfyrwyr                        Cefnogi a hyrwyddo lles myfyrwyr

£1,547,000

Sgiliau / Cyflogadwyedd      Gwella sgiliau astudio myfyrwyr i’w helpu i                                                    ddod o hyd i waith ar ôl graddio

£896,000

Gwasanaeth Anabledd          Cynorthwyo myfyrwyr gyda'r cymhorthion                                                    sydd eu hangen i gefnogi eu hastudiaethau

£1,028,000

Ehangu Mynediad                 Gweithio gyda darpar fyfyrwyr i godi eu                                                        hymwybyddiaeth a’u dyheadau yng nghyd-                                                  destun addysg uwch

£905,000

 

£4,377,000

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?