Archif Menywod Cymru 27ain Cynhadledd Flynyddol
Dewch i ymuno â ni yn ein Cynhadledd Flynyddol - a gynhelir eleni yn Neuadd Alun, Canolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor ar ddydd Sadwrn 5ed Hydref a dydd Sul 6ed Hydref.
Mae gennym raglen gyffrous a diddorol ar eich cyfer - amrywiaeth o bapurau gan haneswyr profiadol a newydd a chyfle i glywed am ein prosiectau diweddaraf: Menywod a Chwaraeon: Cymru a Gwir Gofnod o Gyfnod (diogelu lleisiau menywod yng ngwleidyddiaeth Cymru).
Cawn wybod hefyd pwy sydd wedi ennill Bwrsari Avril Rolph 2024.
CROESO I BAWB!