Gwasanaeth Copïo

Gall yr adran Archifau a Chasgliadau Arbennig roi copïau o ddogfennau neu lyfrau prin yn y casgliad i ymchwilwyr sy’n gofyn amdanynt. Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, yn benodol yng nghyswllt cyflwr, maint, hawliau perchnogaeth a chyfraith hawlfraint.

Mae gan yr Archifydd hawl i wrthod caniatâd i gopïo eitemau o’r casgliad.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn arweiniad i’n holl ddefnyddwyr ynglŷn â’r gwasanaethau, y costau a’r trefnau sy’n gysylltiedig â chael copïau o ddogfennau neu lyfrau prin.

 

Gwneud cais am gopïau

Os ydych am gael copïau o ddogfen neu lyfr prin, rhaid ichi lenwi a llofnodi’n gyntaf Ffurflen Gais / Datganiad Hwlfraint. Mae Ffurflenni ar gael yn Ystafell Ddarllen yr Archifdy neu wrth wneud cais drwy e-bost.

Mae’r ffurflen hon yn nodi y cyflenwir copïau at ddefnydd ymchwil bersonol yn unig. Nid yw’r ffaith fod archeb wedi’i chadarnhau yn caniatáu ichi wneud unrhyw gopïau ychwanegol na chyhoeddi’r copïau’n ddigidol nac ar bapur.

Ar ôl llenwi ffurflen, gellwch ei hanfon yn ddigidol i archives@bangor.ac.uk; ei phostio i “Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor LL57 2DG”; neu ei rhoi i unrhyw aelod staff yn yr adran Archifau a Casgliadau Arbennig.

Sylwch nad yw’r ffaith fod archeb/ ffurflen hawlfraint yn ein cyrraedd ni yn gwarantu bod modd copïo’r eitem y gwnaethpwyd cais amdani.

Gallwn roi amcangyfrifon ynglŷn â cheisiadau am gopïau. Bydd angen i archebion mawr gael cymeradwyaeth arbennig ac efallai y byddwn yn codi tâl uwch am eu trin.

 

Costau copïo (o’r 1af o Ionawr 2023)

Gwasanaeth Copïo Cost fesul copi/delwedd
Llungopi papur (A4 neu A3)      50c
Sgan cydraniad isel hyd at 150dpi      £1.20
Sgan cydraniad uchel hyd at 300dpi      £2.40
Delwedd cydraniad uchel sy’n bodoli eisoes      60c

Gweithredir isafswm tâl o £5 am bob cais am lungopïau neu sganiau gan ddefnyddwyr o bell.

 

Gweithredir disgownt o 20% i bob myfyriwr, staff Prifysgol Bangor a staff sy’n gysylltiedig yn weithgar gydag unrhyw sefydliad WHELF:

Gwasanaeth Copïo Cost fesul copi/delwedd
Llungopi papur (A4 neu A3)      40c
Sgan cydraniad isel hyd at 150dpi      £1
Sgan cydraniad uchel hyd at 300dpi      £2
Delwedd cydraniad uchel sy’n bodoli eisoes      50c

Gweithredir isafswm tâl o £5 am bob cais am lungopïau neu sganiau gan ddefnyddwyr o bell.

Gall copïau fod ar ffurf llungopi, sgan cydraniad isel neu sgan cydraniad uchel.

Y ffordd orau o ddanfon copïau yw arlein (ebost neu Wasanaeth Trosglwyddo Ffeil sydd wedi’I gymeradwyo yn lleol e.e. Teams, Dropbox, Sharepoint).

 

Ffotograffiaeth Hunanwasanaeth

Mae’r adran Archifau a Chasgliadau Arbennig yn caniatáu i ymchwilwyr dynnu lluniau digidol o ddogfennau a llyfrau prin yn yr Ystafell Ddarllen, yn amodol ar y canllawiau a’r arweiniad canlynol.

Gall defnyddwyr allanol brynu trwydded am £5 y diwrnod, £7.50 yr wythnos, £50 yn flynyddol neu 50c fesul delwedd.

Mae trwydded ar gael am ddim i staff Prifysgol Bangor a holl fyfyrwyr. I gael trwydded rhaid ichi lenwi a llofnodi Ffurflen gais am drwydded ffotograffig. Mae ffurflenni ar gael yn Ystafell ddarllen yr Archifdy neu wrth wneud cais drwy e-bost.

Rhaid cymeradwyo unrhyw ffotograffiaeth. Mae gan yr Archifydd hawl i wrthod caniatâd i gopïo’n ddigidol lle gallai hynny ddifrodi’r eitem, neu le byddai hynny’n effeithio ar hawlfraint neu hawliau perchnogaeth.

 

Canllawiau Ffotograffiaeth Hunanwasanaeth

- Dim ond dyfais llaw y gall ein hymchwilwyr eu defnyddio e.e. camera, tabled neu ffôn symudol.

- Ni chaniateir defnyddio fflash, trybedd, sganwyr llaw neu fideo.

- Mae’r trwydded yn caniatau i gopïau gael eu gwneud ar gyfer defnydd personol a phreifat. Ni ddylid rhannu copïau gyda thrydydd parti – mewn print neu yn ddigidol – heb ganiatád penodol y sefydliad.

- Cyfrifoldeb yr ymchwilydd yw sicrhau bod ffotograffiaeth hunanwasanaeth yn disgyn oddi fewn i Gyfraith Hawlfraint.

- Rhaid tynnu lluniau wrth y bwrdd dynodedig ac ni chaniateir symud y dodrefn nac amharu ar ymchwilwyr eraill.

- Ni chaniateir tynnu lluniau pobl na’u heiddo.

- Dylid gadael yr eitemau ar y cynhalwyr (e.e. clustogau neu gynhalwyr llyfrau).

- Ni ddylai’r ymchwilydd dynnu unrhyw ffasnyddion neu becynnau, blygu tudalennau neu lawdrin yr eitem er mwyn cael delwedd gwell.

- Dylid amharu cyn lleied a phosib ar ymchwilwyr eraill (e.e. mudo synnau a rhybuddion ar eu dyfeisiau).

- Rhaid cynnwys cerdyn a gymeradwywyd gan y sefydliad ym mhob ffotograff. Mae’r cerdiau hyn ar gael yn yr Ystafell Ddarllen.

 

Talu am wasanaethau copïo

Dim ond gyda cherdyn y gellir gwneud taliadau. Nid yw Prifysgol Bangor yn derbyn arian parod.

 

Cyhoeddi eitemau o’r casgliad

Fel rheol, ni chymeradwyir gwneud copïau ond at ddibenion ymchwil. Lle bo angen eitemau i’w cyhoeddi, rhaid cyflwyno Ffurflen gais am hawl i gyhoeddi. Mae ffurfenni ar gael yn Ystafell ddarllen yr Archifdy neu wrth wneud cais drwy e-bost.

Mae’r ffioedd cyhoeddi ar gael ar gais.

 

Cydnabyddiaethau

Gofynnwn yn garedig am gydnabyddiaeth am ddefnyddio delweddau o’n casgliadau. Dylech nodi “Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor” a nodi cyfeirnod llawn yr eitem(au), e.e.

“Atgynhyrchwyd drwy ganiatád yr Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor, Bangor Ms 1532.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?