Pecyn Gwaith 3
Mae Pecyn Gwaith 3 yn canolbwyntio ar asesu ac arloesedd digidol. O dan arweiniad Prifysgol Bangor, ac mewn cydweithrediad ag Oxford Education & Assessment, mae’r maes hwn yn darparu offer sgrinio digidol dwyieithog ar gyfer cyfnodau pontio allweddol, er enghraifft dechrau’r ysgol, Blwyddyn 3, Blwyddyn 7. Mae’r offerynnau yn cynnwys Sgrin Iaith, Sgrin Darllen, Sgrin Darllen Cynnar, a’r Sgrin Darllen a Deall newydd. Mae’r rhain yn galluogi athrawon i adnabod disgyblion sydd mewn perygl o gael anawsterau darllen neu iaith ac i olrhain cynnydd drwy ddefnyddio data dibynadwy, sy’n alinio â’r cwricwlwm.
Prosiectau o fewn Pecyn Gwaith 3
- Sgrin Iaith: Asesiad digidol byr o eirfa, dealltwriaeth, a sgiliau iaith lafar i’r blynyddoedd cynnar, ar gael yn Gymraeg a Saesneg
- Sgrin Darllen: Asesiad digidol byr o gywirdeb a rhuglder darllen geiriau a ffugeiriau, i ddisgyblion cynradd a dechrau ysgol uwchradd.
- Sgrin Darllen a Deall: Asesiad digidol byr o ddarllen a deall lefel uwch.
Cynaliadwyedd
Drwy gydol y gwaith hwn byddwn yn darparu platfform dwyieithog cenedlaethol ar Hwb a fydd yn cynnig mynediad at adnoddau, a rhwydweithiau cydweithredol i gysylltu ysgolion, ymchwilwyr, ac awdurdodau lleol. Dyma fydd y sail i wella llythrennedd mewn ffordd gynaliadwy a systematig ar draws Cymru.