Nod CAL:ON Cymru yw gwella canlyniadau llythrennedd i bob plentyn yng Nghymru drwy gyflwyno rhaglenni ac ymyriadau llythrennedd sydd o ansawdd uchel ac yn seiliedig ar dystiolaeth, asesiadau iaith a llythrennedd byr, a dysgu proffesiynol i athrawon. Mae’n holl raglenni ac adnoddau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
I ddechrau, byddwn yn treialu pob rhaglen lythrennedd i fesur pa mor effeithiol yw’r rhaglen. Dilynir hyn drwy gyflwyno rhaglenni yn raddol yn genedlaethol yn 2027. Mae asesiadau ar gael yn barod i’w defnyddio gan ysgolion.
Bydd CAL:ON Cymru hefyd yn cynhyrchu dogfennau canllaw cenedlaethol a hyfforddiant i athrawon.
Darllen gyda’ch plentyn gartref yw’r peth gorau y gallwch chi ei wneud i feithrin diddordeb mewn darllen, ac, yn bwysicach, mwynhau darllen. Chwiliwch am straeon a llyfrau sydd o ddiddordeb i’ch plentyn a gwnewch ddarllen yn hwyl, yn hytrach nac yn dasg.
Gall siarad am eiriau newydd a dangos diddordeb yn yr hyn maen nhw’n ei ddysgu helpu i gryfhau’r sgiliau maen nhw’n eu hymarfer yn yr ysgol.
Mae’r deunyddiau a’r asesiadau sy’n cael eu defnyddio yn ymchwil CAL:ON Cymru yn rhyngweithiol ac wedi cael eu teilwra i lefel eich plentyn ar hyn o bryd, gan eu helpu i adeiladu sgiliau gam wrth gam. Mae llawer o blant yn teimlo’n fwy hyderus wrth iddyn nhw weld eu hunain yn gwneud cynnydd, a gall hyn eu helpu i gael mwy o fwynhad wrth ddysgu.
Mae datblygwyr y rhaglen hefyd yn ymwybodol iawn fod cymell plant i ddarllen yn bwysig, a rhoddwyd sylw arbennig i sicrhau bod ein hadnoddau yn apelgar a diddorol.
Mae CAL:ON Cymru wedi ei adeiladu ar egwyddorion gwyddonol. Golyga hyn ein bod wedi ymrwymo i brofi’n gweithgareddau i gyd er mwyn gweld pa mor effeithiol y maen nhw. Os yw’ch plentyn yn cymryd rhan, mae hyn oherwydd bod eu hysgol wedi cytuno i helpu yn y rhaglen ymchwil yma.
Drwy gymryd rhan, bydd eich plentyn yn un o’r rhai cyntaf i fanteisio ar y project hwn. Y nod yw helpu plant i adeiladu rhuglder mewn darllen, dealltwriaeth, a hyder drwy weithgareddau wedi’u strwythuro sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a thrwy hynny eu helpu i wneud cynnydd cadarn mewn llythrennedd.
Mae cymryd rhan yn ymchwil CAL:ON Cymru yn wirfoddol. Os ydych yn dymuno tynnu’ch plentyn yn ôl, gallwch wneud hynny ar unrhyw adeg drwy roi gwybod i athro’ch plentyn neu i’r ysgol.