- Rhaglenni ac ymyriadau dwyieithog sy’n seiliedig ar dystiolaeth, wedi’u datblygu a’u profi drwy ymchwil cenedlaethol
- Dysgu Proffesiynol (DP) i athrawon, cynorthwywyr addysgu ac arweinwyr ysgol, gyda ffocws ar wyddoniaeth darllen, datblygiad iaith, arferion llythrennedd cynhwysol, a dulliau addysg effeithiol.
- Offer asesu digidol yn cynnwys Sgrîn Iaith, Sgrîn Darllen, a Sgrîn Deall – i adnabod disgyblion sydd mewn perygl ac i olrhain cynnydd ar draws yr ystod gallu lawn.
Cefnogaeth a chydweithio parhaus trwy’r Hyb Llythrennedd CAL:ON ar Hwb, gyda mynediad at adnoddau, enghreifftiau a rhwydweithiau.
Mae’r adnoddau a grybwyllir uchod i gyd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Caiff pob ysgol gyfle i gael mynediad at ddeunyddiau yn ystod ein cyfnod treialu. Wedi i’r treialon ddod i ben, bydd deunyddiau a ddatblygwyd gan CAL:ON Cymru yn cael eu cyflwyno’n genedlaethol. Yn ogystal â Datblygu Proffesiynol i athrawon ac offer asesu, bydd rhaglenni dosbarth ac ymyriadau ar gael drwy’r wlad. Mae’r rhain yn cynnwys
- Rhaglen dosbarth cyfan OxEd: Rhaglen lafaredd Dosbarth Derbyn-Blwyddyn 1 i wella geirfa, gwrando a deall, a sgiliau naratif.
- Y Rhaglen Iaith a Llythrennedd (RILL) : Ar gyfer Blynyddoedd 3-4, mae RILL yn darparu dull strwythuredig o feithrin llythrennedd yn cynnwys iaith lafar, darllen, ac ymyriad darllen sy’n defnyddio egwyddorion Ffoneg Synthetig Systematig (SSP).
- Rhaglen dosbarth cyfan RILL: Ar gyfer Blynyddoedd 3-4, lluniwyd RILL dosbarth cyfan i wella datgodio, rhuglder, darllen a deall, a hyder i bob darllenydd mewn amgylchedd ystafell ddosbarth.
- Darllen i Ddysgu: Rhaglen lefel uwchradd i gefnogi darllenwyr sy’n cael trafferth, drwy ddatgodio wedi’i dargedu, geirfa, rhuglder, a gwaith darllen a deall.
Os oes gennych ddiddordeb yn rhaglen ddysgu proffesiynol CAL:ON Cymru anfonwch e-bost at ysgolcalon@bangor.ac.uk
Am ymholiadau mwy cyffredinol, anfonwch e-bost at calon@bangor.ac.uk
Bydd yr holl raglenni ac asesiadau llythrennedd ar gael ledled Cymru yn Haf 2027. Rhoddir diweddariadau rheolaidd ar y wefan hon ac ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn adeiladu rhwydwaith cenedlaethol o ysgolion wedi ymrwymo i wella canlyniadau llythrennedd i bob dysgwr. Bydd yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn y cyfnod treialu hwn ymhlith y cyntaf i elwa ar waith CAL:ON Cymru.
Gwneir cyfraniad ariannol bach (~£500 i’r 240 ysgol gyntaf i gofrestru) i ysgolion sy’n ymgysylltu â rhaglen gymorth CAL:ON Cymru eleni.
I gymryd rhan yn yr ymchwil, cysylltwch â ysgolcalon@bangor.ac.uk