Darganfyddwch y cwrs Busnes a Rheolaeth i chi
Rho dy ddyfodol ar waith astudia Rheolaeth Busnes
Mae astudio Rheolaeth Busnes yn eich paratoi at ddatrys problemau strategol ac i addasu i heriau busnes byd eang.
Bydd gradd mewn Rheolaeth Busnes o Brifysgol Bangor yn eich helpu i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o elfennau craidd busnes a rheolaeth, strategaeth, creu mentrau newydd, rheoli ariannol a risg, ac addasu i newid ac e-fusnes.
Mae rhai graddedigion yn mynd i weithio yn y sector cyhoeddus i elusennau, y llywodraeth neu addysg, ac mae rhai yn mynd i weithio yn y maes marchnata.
Gallwch ddechrau busnes eich hun, dod yn rheolwr brand, gweithio yn y maes rheoli cyfathrebu neu reoli prosiectau.
Gallwch gael profiad gwaith gyda busnesau mewn amryw o sectorau gyda chyfleoedd ar gyfer interniaethau, lleoliadau, teithiau maes, sesiynau briffio byw a chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol megis y Pitch a chystadleuaeth enwog Universities Business Challenge Worldwide.
Dechreuwch eich gyrfa gyda ni yma ym Mhrifysgol Bangor.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Busnes, Marchnata a Rheolaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Busnes, Marchnata a Rheolaeth llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Busnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Busnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.