Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig
Pam Astudio Cyfrifeg, Bancio a Chyllid?
Rydym yn falch iawn o'r amgylchedd addysgu a dysgu yn Ysgol Busnes Bangor. Rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn adnoddau dysgu arloesol, cefnogaeth dechnolegol, gofal bugeiliol a phrofiad myfyrwyr. Mae ein perfformiad cryf ar y llwyfan byd-eang yn dyst i'n hymrwymiad i ddarparu profiad heriol a thrwyadl i'n holl fyfyrwyr. Mae ein rhaglenni gradd Cyfrifeg, Bancio a Chyllid yn darparu gwybodaeth werthfawr iawn a sgiliau trosglwyddadwy sy'n paratoi ein graddedigion at amrywiaeth eang o yrfaoedd posib. Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i swyddi yn y sectorau preifat a chyhoeddus, mewn marchnadoedd a sefydliadau ariannol rhyngwladol neu mewn busnesau lleol a rhyngwladol. Caiff myfyrwyr brofiad o amrywiaeth o adnoddau a thechnegau cyfrifyddu a chyllid ynghyd â sylfaen academaidd drylwyr. Gall myfyrwyr wneud defnydd o'r sgiliau a ddatblygir ar y rhaglenni hyn ar unwaith ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae graddedigion y rhaglenni hyn yn cael cyfle i weithio mewn swyddi difyr a buddiol.
Y peth gorau am y cwrs hyd yma yw'r ffaith ein bod yn astudio amrywiaeth o agweddau o'r pwnc yn ogystal â'r cyfathrebu rhwng darlithwyr a myfyrwyr a'r holl gefnogaeth ycwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr.
Ein Hymchwil o fewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid
Mae Bangor wedi datblygu enw da yn rhyngwladol ym maes ymchwil bancio a chyllid dros sawl degawd. Mae gan staff gysylltiadau gweithredol â sefydliadau rhyngwladol fel Banc Canolog Ewrop (ECB) a'r Bank for International Settlements (BIS). Ymhlith y themâu ymchwil cyfredol a ystyrir gan ein staff mae Undeb Bancio Ewrop, polisi cyfradd llog negyddol, iawndal gweithredol, moeseg ariannol a statws credyd. Mae myfyrwyr cyfrifeg yn gallu menteisio ar ein hacademyddion a'n hymchwilwyr sy'n arbenigwyr mewn cyfrifeg ariannol a rheoli, trethiant, archwilio a dadansoddi ariannol. Mae ein staff yn cyhoeddi canfyddiadau eu hymchwil mewn llawer o'r cyfnodolion rhyngwladol blaenllaw ym maes cyfrifeg, bancio a chyllid. Mae staff academaidd yn gwneud gwaith ymchwil ar lefel uchel i sefydliadau allanol yn gyson, fel y Comisiwn Ewropeaidd, Banc y Byd a Thrysorlys y DU. Mae dysgu dan arweiniad ymchwil yn ffynnu yn yr ysgol ac mae wedi arwain at gynllunio a darparu rhaglenni arloesol ym maes cyfrifeg, bancio a chyllid.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.