Ymyl clogwyn cefnfor creigiog

Daeareg

Yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Daeareg

 

 

Pam Astudio Daeareg?

Mae Eigioneg Ddaearegol yn canolbwyntio ar astudio gwaddodion môr yng nghyd-destun gwyddoniaeth systemau Daear. Mae a wnelo'r maes â phrosesau gwaddodol (tarddiad, cludiad a dyddodiad gronynnau yn amgylchedd y môr), a gwaddodion a chreigiau môr, yn enwedig y rhai a ffurfiwyd yn ystod y 2 filiwn o flynyddoedd diwethaf, ond hefyd ymhellach yn ôl mewn amser. Mae'n rhoi pwyslais ar feithrin sgiliau a gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i faes mesur gwely'r môr a'r diwydiant hydrocarbon alltraeth.

Mae angen Eigionegwyr Daearegol i roi sylw i faterion megis archwilio safleoedd alltraeth mewn perthynas ag isadeiledd ynni adnewyddadwy a chwilio am olew a nwy, newid yn yr hinsawdd ac yn lefel y môr, ac erydu arfordirol. Mae'r rhain yn feysydd datblygu heriol a phrysur; ar hyn o bryd mae diffyg pobl â chymwysterau addas i wneud swyddi o'r fath. Ar ôl graddio, nid yn unig bydd gennych ddealltwriaeth drylwyr o 'systemau daear', ond bydd gennych hefyd ystod eang o sgiliau ymarferol mewn gwaddodeg, geoffiseg a geotechneg. Mae'r gallu i integreiddio data rhwng y disgyblaethau hyn yn brin yn y diwydiant alltraeth, ond mae cyflogwyr yn cydnabod fod hwnnw'n allu gwerthfawr.

Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol Bangor enw rhagorol ym maes astudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

Cyfleoedd gyrfa mewn Daeareg

Mae hwn yn sefydliad blaenllaw ar gyfer astudio geowyddorau'r môr ers dros 50 mlynedd, ac mae ein myfyrwyr fel rheol yn dod o hyd i waith yn y diwydiannau ynni adnewyddadwy a hydrocarbon alltraeth, cwmnïau contractio geoffisegol (alltraeth ac ar dir sych), cwmnïau peirianneg geotechneg, byrddau afonydd a harbwr a sefydliadau llywodraethol megis y British Geological Survey a'r British Antarctic Survey.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau'r Eigion. 

 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau'r Eigion llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau'r Eigion ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau'r Eigion ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

 

Ein Hymchwil o fewn Daeareg

Ffocws ein hymchwil yw nodi'r prosesau sy'n gyrru'r fflycsau ar draws moroedd arfordirol bas gan arwain at newid morffolegol. Rydym wedi datblygu technegau arsylwi newydd sydd, ynghyd â theori a modelu, wedi ein galluogi i herio paradeimau presennol, a datblygu syniadau newydd.

Mae'r ymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar helpu i ddeall yn well sut mae stormydd egnïol yn effeithio ar ddeinameg gwaddodion arfordirol a chyllidebau, gan wella'r ddealltwriaeth am sut mae sylweddau biolegol yn sefydlogi gwely'r môr, tynged gwaddod yn y môr arfordirol ac effeithiau echdynnu ynni adnewyddadwy'r môr ar y cefnfor.

Rydym wedi defnyddio ein technegau tirfesur geoffisegol i bennu maint y llen iâ rhwng Prydain ac Iwerddon yn ystod yr oes iâ ddiwethaf a'r cyfnod o encilio wedi hynny.

Rydym hefyd wedi defnyddio technegau geoffisegol i bennu hyd a lled ac achosion newid yn yr hinsawdd dros y 200 mil o flynyddoedd diwethaf yn Nwyrain Affrica er mwyn edrych ar y cysylltiadau rhwng yr hinsawdd ac esblygiad dynol ac ymfudo.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?