Golygfeydd o fynyddoedd

Daearyddiaeth

1af yn y DU am effaith ein Hymchwil (REF 2021)

 

Sgwrsio gyda myfyrwyr a staff

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Pam Astudio Daearyddiaeth?

Mae ein graddedigion yn hynod o gyflogadwy (Times Higher Education Survey, 2019) am ein bod yn cynnig dealltwriaeth ddaearyddol eang, integreiddiol i'n myfyrwyr a bod y cymwyseddau allweddol rydym yn eu haddysgu (datrys problemau, meddwl yn feirniadol a dadansoddol) yn eu gwneud yn unigryw. Mae ein cyrsiau'n cynnig cyfle i astudio amrywiaeth eang o bynciau dynol, ffisegol ac amgylcheddol, ond hefyd i gael hyfforddiant da mewn nifer o ddulliau ymchwil (maes a labordy). Byddwch yn meithrin sgiliau technegol ac ymarferol arbenigol (Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), Technoleg Gwybodaeth, Ystadegau), yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy a phroffesiynol fel arweinyddiaeth a chyfathrebu, a fydd yn eich gwneud yn chwaraewr tîm da. 

Mae Daearyddiaeth yn cynnig hyblygrwydd ac mae ein rhaglenni'n dechrau gyda sylfaen gref o wybodaeth ddaearyddol ym Mlwyddyn Un. Gallwch fireinio eich diddordebau yn yr ail, trydedd a phedwaredd flwyddyn, a dewis modiwlau yn unol â hynny wrth symud ymlaen â'ch astudiaethau. Mae project annibynnol y flwyddyn olaf (traethawd hir) yn rhoi cyfle i ichi ymgymryd ag ymchwil annibynnol o dan arweiniad staff. 

Mae ein staff yn weithgar mewn ymchwil, a byddant yn rhannu eu brwdfrydedd a'u gwybodaeth bwnc gyda chi. Mae ein modiwlau yn adlewyrchu diddordebau staff ac mae'r pynciau hyn yn cynnwys afonydd/amgylcheddau arfordirol, ardaloedd gwledig-trefol, anghydraddoldebau cymdeithasol, geoberyglon, llywodraethu, modelu amgylcheddol, eigioneg, gwaddodeg a chynaliadwyedd. 

Mae ein graddau Daearyddiaeth BA/BSc/MGeog i gyd wedi’u hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (ynghyd â Sefydliad Daearyddwyr Prydain).

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Daearyddiaeth.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Daearyddiaeth llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Daearyddiaeth ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Daearyddiaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

 

1af

yn y DU am effaith ein Hymchwil

REF 2021

Ein Hymchwil o fewn Daearyddiaeth

Mae gennym dîm staff amlddisgyblaethol sydd ag amrywiaeth o arbenigeddau'n cynnwys amgylcheddau rhewlifol a morol, daearyddiaeth bwyd a dad-ddofi. Mae ein staff yn ymgymryd ag ymchwil arweiniol gyda sefydliadau academaidd eraill, grwpiau anllywodraethol a chymunedau ar draws y byd. Mae diddordebau staff yn cynnwys llygredd afonol, cynhesu Arctig, peryglon arfordirol, natur a chymdeithas, tlodi bwyd, systemau gwaddodol tanfor, a diwylliant brwdfrydedd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?