Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig
Pam Astudio Gwyddorau Eigion?
Mae'r angen i adnabod a manteisio ar ffynonellau bwyd ac ynni newydd yn erbyn y cefndir o fygythiadau a gwyd yn sgil cynhesu byd-eang yn golygu bod gwyddorau eigion yn bwnc sydd â'i fryd ar y dyfodol. Ei ddiben yw adnabod problemau a dod o hyd i atebion.
Mae deall sut mae'r cefnforoedd yn gweithio yn allweddol i ragfynegi sut bydd ein planed yn ymateb i gynhesu'r hinsawdd. Mae hefyd yn bwysig os ydym am harneisio'r potensial enfawr, sydd i raddau helaeth heb ei gyffwrdd, o ynni adnewyddadwy o'r llanw. Trwy astudio ffiseg y cefnfor, byddwch yn dysgu sut mae'r cefnfor yn gweithio ac yn rhyngweithio ag elfennau eraill o System y Ddaear, yr atmospher a'r cryosffer. Byddwch hefyd yn dysgu sut i arsylwi'r cefnfor, o longau ac o'r gofod, ac i ddatblygu modelau rhifiadol i ragfynegi'r cefnfor.
Byddwch yn meithrin y sgiliau i allu ymdrin â phroblemau pwysig sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ac echdynnu ynni o'r cefnfor.
- Rydym yn un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu gwyddorau eigion ym Mhrydain ac yn un o'r mwyaf yn Ewrop.
- Rydym wedi ein lleoli o fewn ychydig fetrau i'r môr, sy'n ddelfrydol i ddatblygu sgiliau mewn aberoedd, ar lan y môr ac ar y môr.
- Mae gennym long ymchwil fordwyol gwerth £3.5m.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau'r Eigion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau'r Eigion llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau'r Eigion ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau'r Eigion ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Ymchwil o fewn Gwyddorau Eigion
Mae ymchwil Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor yn rhychwantu'r byd. Mae ein hymchwil, sydd gyda'r gorau yn y byd, yn ymdrechu i adnabod achosion enciliad yr iâ ym Môr yr Arctig ac effaith cynhesu byd-eang a llygredd plastig ar riffiau cwrel trofannol. Mewn cydweithrediad ag Arolwg Antarctig Prydain ac eraill rydym yn ddiweddar wedi canfod lefelau o ficroplastigion sy'n peri pryder mewn ffiordiau dilychwin yn yr Antarctig.
Mae ein hymchwil yn astudio hanes y Ddaear. Rydym wedi datblygu technegau i feintioli hinsoddau'r gorffennol ar y blaned ac yn defnyddio modelau rhifiadol cymhleth i edrych ar y prosesau allweddol a oedd yn gyrru'r hinsoddau hynny. Yn ddiweddar rydym wedi nodi 'uwch gylchred llanw' sy'n gysylltiedig â drifft cyfandirol ac rydym bellach yn deall sut y gallai'r llanw fod wedi dylanwadu ar esblygiad bywyd ar y Ddaear. Rydym wedi gweithio ar y cyd â NASA yn archwilio rôl llanw'r môr yn esblygiad cynnar y blaned Fenws.
Rydym hefyd yn sefydliad blaenllaw mewn ymchwil i wyddor pysgodfeydd a chynhyrchu ynni adnewyddadwy o'r llanw.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.