Fy ngwlad:
Nyrsio

Nyrsio

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Nyrsio

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

 

Grŵp o fyfyrwyr yn astudio a siarad yn y llyfrgell

Pam Astudio Nysrio

Mae pobl sy'n dewis gyrfa mewn nyrsio yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae nyrsio yn rhoi llawer o foddhad, yn newid ac yn tyfu'n gyson ac yn broffesiwn cyffrous. Mae nyrsys cofrestredig yn gweithio o fewn un neu fwy o bedwar maes; oedolyn, iechyd meddwl, anableddau dysgu neu blant. Bydd y graddau Baglor Nyrsio a gynigir ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi'r  wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gynnig gofal nyrsio tosturiol ar sail tystiolaeth. 

360 Taith Rithwir Gwyddorau Iechyd

Fideo - Astudio Nyrsio

Dyma Ameer Rana sef cyflwynydd teledu S4C yn cyflwyno'r cyrsiau Nyrsio sydd ar gael yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.

Fideo: Nyrsio - Ysgol Gwyddorau Iechyd
Erin Jones

Proffil Myfyriwr Erin Jones

Nyrsio

"Dwi'n mwynhau cyfarfod ffrindiau newydd a chael bod mewn awyrgylch gartrefol Gymraeg. Hefyd, cael mynd allan ar leoliadau clinigol, gwneud a mwynhau'r gwaith yr wyf eisiau ei wneud yn y dyfodol - nyrsio!"

Cyfleoedd Gyrfa mewn Nyrsio

Mae datblygiadau mewn triniaethau a thechnoleg yn creu cyfleoedd gyrfa newydd i nyrsys cofrestredig sy'n darparu gwahanol wasanaethau, yn cyflawni gwahanol swyddogaethau ac yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd. Mae llawer o wahanol agweddau ar nyrsio o fewn y pedwar maes a nifer o wahanol gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae cyfleoedd gyrfa yn amrywio o weithio fel nyrs staff mewn ysbyty neu yn y gymuned, er enghraifft, i swyddi mwy arbenigol ac arweiniol fel nyrsys arbenigol neu ymgynghorol. Mae sawl math o swydd ar gael i nyrsys cofrestredig ac maent yn cynnig datblygiad a dilyniant gyrfa o nyrs staff i nyrs arbenigol, rheolwr ward, metron, arweinydd, ymchwilydd, addysgwr ac ymgynghorydd nyrsio ym mhob maes. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am yrfaoedd mewn nyrsio yma.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Nyrsio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Nyrsio llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Nyrsio ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Nyrsio ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Nyrsio

Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor yn REF 2021 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil feddygol, ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, yn ogystal â chael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.