Dewch o hyd i'r cwrs i chi
Mae’r flwyddyn sylfaen yn flwyddyn cyn dechrau blwyddyn gyntaf eich cwrs. Os nad oes gennych y cymwysterau angenrheidiol eto, neu os ydych eisiau meithrin eich hyder yn y pwnc, mae’r flwyddyn hon yn eich paratoi ar gyfer astudio ar lefel gradd. Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth o’r gwyddorau meddygol yn ogystal â sgiliau hanfodol academaidd, ymchwil a labordy.
Dwy Radd. Un Sylfaen Gref.
Ym Mhrifysgol Bangor, mae’r cwrs Gwyddorau Meddygol a Gwyddorau Biofeddygol yn dechrau gyda blwyddyn gyntaf gyffredin — wedi'i chynllunio i adeiladu sylfaen gadarn mewn bioleg ddynol, ffisioleg, ac egwyddorion clefydau. Mae'r man cychwyn cyffredin hwn yn sicrhau bod pob myfyriwr yn datblygu gwybodaeth wyddonol hanfodol a sgiliau labordy ymarferol, heb gyfyngu ar ddewisiadau ar gyfer y dyfodol.
P'un a ydych chi'n anelu at yrfa glinigol, cofrestru gyda'r Gwasanaeth Iechyd, neu ymchwil wyddonol, mae'r strwythur hyblyg hwn yn caniatáu ichi archwilio'ch diddordebau a throsglwyddo rhwng rhaglenni wrth i'ch nodau esblygu.
Cymerwch olwg isod i weld sut mae'r graddau hyn yn wahanol - a'r cyfleoedd unigryw y gallai pob un arwain atynt.
Gwyddorau Meddygol: Yn pontio gwyddoniaeth ac ymarfer clinigol
Os ydych chi'n cael eich denu at sail fiolegol clefydau ac yn ystyried dyfodol mewn Meddygaeth, Astudiaethau Cydymaith Meddyg, neu swyddi eraill mewn gofal iechyd, mae Gwyddorau Meddygol yn cynnig llwybr gyrfa gyda phwyslais ar ymchwil a’r agwedd glinigol.
Mae'r radd hon yn archwilio iechyd a chlefydau dynol o safbwyntiau gwyddonol a chlinigol — gan eich helpu i ddeall sut mae'r corff yn gweithio, beth sy'n digwydd pan nad yw'n gweithio, a sut y gall gwyddoniaeth sbarduno canlyniadau gwell i gleifion a chymunedau.
Mae graddedigion Gwyddorau Meddygol wedi'u paratoi'n dda ar gyfer ystod eang o yrfaoedd gwyddonol a meddygol. Mae'r cwrs yn darparu sylfaen gref ar gyfer astudiaethau ôl-radd mewn:
- Meddygaeth (gan gynnwys y rhaglen Meddygaeth: Mynediad i Raddedigion Bangor)
- Deintyddiaeth
- Milfeddygaeth
- Astudiaethau Cydymaith Meddyg
- Swyddi perthynol i iechyd a llwybrau clinigol
P'un a oes gennych chi’ch bryd ar broffesiwn clinigol neu eisiau cyfrannu at ofal iechyd trwy wyddoniaeth, mae'r radd hon yn agor drysau i yrfaoedd ystyrlon ac effeithiol.
Mae'r cwricwlwm Gwyddorau Meddygol hwn wedi'i ddylunio i gyfateb i fframwaith cyn-feddygol a chaiff ei ddiweddaru'n gyson i adlewyrchu'r datblygiadau clinigol ac ymchwil diweddaraf. Byddwch chi'n archwilio:
- Strwythur a swyddogaeth prif systemau’r corff
- Mecanweithiau ac annormaleddau clefydau fel diabetes, canser, a chlefyd yr iau
- Astudiaethau achos clinigol sy'n cysylltu damcaniaeth ag ymarfer yn y byd go iawn
Mae addysgu yn pontio'r bwlch rhwng gwyddoniaeth a meddygaeth, gan eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu fynediad uniongyrchol i swyddi gofal iechyd.
Ar ôl y flwyddyn gyntaf gyffredinol, mae myfyrwyr Gwyddorau Meddygol yn symud ymlaen i fodiwlau sy'n cyd-fynd â chwricwlwm cyn-feddygol. Byddwch yn dysgu ar ffurf:
- Darlithoedd a thiwtorialau grwpiau bach
- Sesiynau anatomeg ddigidol gan ddefnyddio'r tabl Anatomage — offeryn arloesol ar gyfer rhith-ddyrannu ac efelychu clinigol.
Mae'r dull ymarferol, clinigol hwn yn sicrhau eich bod yn graddio gyda'r wybodaeth a'r hyder i gymryd eich cam nesaf mewn meddygaeth neu ofal iechyd.
Gwyddor Biofeddygol: Sgiliau ymarferol ar gyfer y byd go iawn
Os ydych chi'n angerddol am wyddoniaeth labordy ac eisiau chwarae rhan ymarferol wrth ddeall a diagnosio clefydau, mae Gwyddorau Biofeddygol yn cynnig llwybr galwedigaethol, proffesiynol i ofal iechyd a diagnosteg.
Mae'r radd hon yn archwilio bioleg iechyd a salwch ar lefel celloedd a moleciwlaidd, yn cwmpasu disgyblaethau allweddol a amlinellwyd gan y Sefydliad Gwyddorau Biofeddygol (IBMS). Mae wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau gwneud gwahaniaeth trwy wyddoniaeth ymarferol, boed mewn labordai clinigol, diagnosteg, neu arloesedd meddygol.
Mae graddedigion Gwyddorau Biofeddygol wedi'u paratoi'n dda ar gyfer gyrfaoedd mewn:
- Labordai clinigol y Gwasanaeth Iechyd
- Cwmnïau fferyllol a biotechnoleg
- Swyddi diagnosteg feddygol a chymorth gofal iechyd
- Cyfathrebu gwyddoniaeth ac iechyd y cyhoedd
Mae'r cwrs hefyd yn agor drysau i Raglen Hyfforddi Gwyddonwyr y Gwasanaeth Iechyd ac, i'r rhai sydd â diddordeb, astudiaeth neu ymchwil bellach mewn meysydd biofeddygol. P'un a oes gennych chi’ch bryd ar yrfa mewn labordy clinigol neu eisiau archwilio'r wyddoniaeth sy’n sail i ofal iechyd, mae Bangor yn rhoi'r sylfaen i chi lwyddo.
Mae’r Gwyddorau Biofeddygol yn seiliedig ar gwricwlwm labordy sy'n archwilio bioleg clefydau yn fanwl. Byddwch yn astudio disgyblaethau biofeddygol craidd sy’n gyson â safonau’r IBMS
- Technegau diagnostig a thechnolegau biofeddygol
- Y llwybr Gwyddorau Biofeddygol Cymhwysol, sy'n agored i fyfyrwyr eithriadol ac sy’n cynnig profiad ymarferol sy'n cyd-fynd â safonau hyfforddi'r Gwasanaeth Iechyd ac yn gymorth i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Mewn Gwyddor Biofeddygol, byddwch yn mynd yn ddyfnach i ddeall sail foleciwlaidd a gellog afiechyd. Mae’r cwrs yn rhoi pwyslais cryf ar ddysgu yn y labordy, gyda modiwlau mewn geneteg, microbioleg, imiwnoleg a diagnosteg. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol mewn technegau biofeddygol modern ac yn cael y cyfle i gwblhau prosiectau ymchwil. Mae myfyrwyr sy’n dilyn llwybr Gwyddor Biofeddygol Gymhwysol hefyd yn ennill profiad ymarferol wedi’i alinio ag hyfforddiant labordai’r GIG, gan wella eu cyflogadwyedd mewn lleoliadau clinigol a diagnostig.
Sgwrsio â Myfyrwyr a Staff Gwyddorau Meddygol
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau Meddygol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau Meddygol llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau Meddygol ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau Meddygol ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o Fewn Gwyddorau Meddygol
O fewn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, mae ein hymchwil yn defnyddio dulliau blaengar i fynd i’r afael â chwestiynau sylfaenol ym maes meddygaeth a/neu ddatblygu cymwysiadau i fynd i’r afael ag anghenion clinigol difrifol sydd heb eu diwallu. Ein nod cyffredinol yw gwella taith y claf – naill ai drwy gyfrannu mewnwelediad newydd i lenwi bwlch pwysig yn y wybodaeth feddygol neu drwy ddatblygu cymwysiadau sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at wella iechyd a lles.
Mae gennym ffocws cryf ar ymchwil i ganser, lle mae ein timau ymchwil yn archwilio’r prosesau cymhleth sy’n arwain at ddatblygiad, cynnydd a gwrthiant therapiwtig mewn canserau. Rydym hefyd yn datblygu sylfeini ar gyfer therapïau newydd a thechnolegau monitro cleifion. Mae’r ymchwil flaengar hon yn bwydo’n uniongyrchol i’n haddysgu, a byddwch yn dod ar ei thraws yn eich modiwlau a addysgir – ac yn enwedig yn ystod eich prosiect ymchwil yn y drydedd flwyddyn – gan wneud ein graddau ymhlith y rhai mwyaf deinamig a chyfoes y gallwch eu hastudio.