Fideo - Astudio Radiograffeg
Dyma Ameer Rana sef cyflwynydd teledu S4C yn cyflwyno'r cyrsiau Radiograffeg Diagnostig sydd ar gael yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.
Cyfleoedd Gyrfa mewn Radiograffeg
- 100% mewn gwaith neu astudiaethau pellach 6 mis ar ôl gorffen (Unistats 2020)
Ar ôl graddio o Fangor mewn Radiograffeg Ddiagnostig bydd eich rhagolygon gyrfa yn rhagorol. Dros yr 11 mlynedd diwethaf mae ein graddedigion wedi cael cyflogaeth 100% o fewn 3 mis o raddio, yn bennaf o fewn y GIG.
Unwaith y byddwch yn gyflogedig, bydd datblygiad eich gyrfa yn cael ei lywio gan ddatblygiad proffesiynol parhaus ac yn sgil hyfforddiant ychwanegol yn y gwaith gallwch arbenigo mewn dull delweddu penodol neu ddatblygu eich gyrfa ymhellach o fewn Radiograffeg fel ymarferydd uwch neu ymgynghorol.
Yn ogystal â gweithio yn y gwasanaeth iechyd, gall radiograffwyr hefyd fynd ymlaen i weithio yn y sector masnachol. Mae gyrfaoedd posib yn cynnwys gweithio fel arbenigwyr rhaglenni sy'n cynnig hyfforddiant i eraill ar ddefnyddio offer yn gywir, gwerthu a Gwybodeg. Mae radiograffwyr yn defnyddio technoleg flaengar ym maes gwybodeg yn y Deyrnas Unedig. Mae'r holl ddelweddu yn y GIG wedi bod yn ddigidol ers 2010, felly bydd gennych sylfaen wybodaeth helaeth i gefnogi gwybodeg mewn meysydd iechyd eraill, gan roi hyblygrwydd gyrfa ychwanegol i chi.
Ein Hymchwil o fewn Radiograffeg
- Yn yr 20 uchaf (o 94) yn yr asesiad diweddaraf o ansawdd ymchwil gyda 95% o ymchwil naill ai'n rhagorol yn rhyngwladol neu gyda'r gorau yn y byd (REF 2014)
Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn REF 2014 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, ac yn cael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.