Fideo - Astudio Bydwreigiaeth
Dyma Ameer Rana sef cyflwynydd teledu S4C yn cyflwyno'r cyrsiau Bydwreigiaeth sydd ar gael yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.
Ein Hymchwil o fewn Bydwreigiaeth
Mae ein tîm yn goruchwylio graddau ôl-radd gan gynnwys myfyrwyr meistr, ac mae dau o'n tîm yn goruchwylio myfyrwyr PhD. Mae ein meysydd ymchwil yn canolbwyntio ar gynnig genedigaethau gartref, cyfraniad tadau yn ystod esgor, y gofal gorau posibl i oroeswyr trais rhywiol, profiadau merched o gymell esgor, yr hyn sy'n gweithio i gefnogi myfyrwyr bydwreigiaeth yn yr amgylchedd dysgu, defnyddio dull a gynhyrchir ar y cyd i wella profiadau rhoi genedigaeth, sgrinio serfigol, datblygu pecyn arolygu ffetws ar gyfer bydwragedd yn Lesotho ac effaith defnyddio'r Gymraeg ar brofiadau o roi genedigaeth.
Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn REF 2014 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, yn ogystal â chael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.