Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Peirianneg
Mae ein hymchwil wedi gwneud yn eithriadol o dda, ac mae tystiolaeth o hynny yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf. Mewn Peirianneg Electronig, roedd Prifysgol Bangor yn 4ydd yn y DU o ran cynnyrch ymchwil. Cafodd ein hamgylchedd ymchwil - sydd hefyd o gryn bwysigrwydd i fyfyrwyr ôl-raddedig - sgôr rhyfeddol o uchel hefyd.
Trefnir ein gweithgareddau ymchwil mewn tri grŵp ymchwil, sy'n gorgyffwrdd i wneud y gorau o gyfleoedd i gydweithio ac adnoddau: Ffotoneg a Chyfathrebu, Ynni, Amgylcheddol a Bio-synhwyro (EEBG), Delweddu, Data, Modelu a Graffeg (VDMG).
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.