Cyfleoedd Gyrfa mewn Cyfrifiadureg
Bydd ein cyrsiau gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd mewn peirianneg meddalwedd datblygu rhaglenni'r we, rhaglennu, cyfathrebu a rhwydweithio, cymwysiadau cyfrifiadurol, rheoli Technoleg Gwybodaeth, gwerthu cyfrifiaduron a marchnata.
Mae graddedigion mewn Cyfrifiadureg yn werthfawr i gyflogwyr diwydiannol a sector cyhoeddus o bob math. Mae'r cyfuniad o rifedd uwch, sgil gyda chyfrifiaduron a phrofiad o waith tîm a datrys problemau yn gwneud ein graddedigion yn hynod o gyflogadwy. Gweler ein hastudiaethau achos graddedigion yma KCA Deutag a Simulity Labs.
Bydd graddedigion mewn Cyfrifiadureg yn cael cyfleoedd gyrfa ym mhobman lle y defnyddir cyfrifiaduron gan fusnesau a'r sector cyhoeddus. O weithio fel datblygwyr cymwysiadau i reoli gwasanaethau cyfathrebu a TG cwmnïau, i gemau cyfrifiadurol; mae yna ddigonedd o gyfleoedd.
Mae llawer o'n graddedigion yn mynd ymlaen i astudio ymhellach: cyrsiau ôl-raddedig hyfforddedig fel y radd MSc, neu raddau ymchwil fel MPhil neu PhD. Lle bynnag y bo angen am bobl a all ddefnyddio eu gwybodaeth am wyddoniaeth a pheirianneg i ddatrys problemau, bydd ein graddedigion yn barod i wneud cyfraniad gwerthfawr.
Ein Hymchwil o fewn Cyfrifiadureg
Mae ein harbenigeddau ymchwil yn cynnwys graffeg gyfrifiadurol, delweddu, canfod gwybodaeth a chyfathrebu. Caiff arbenigedd yn y meysydd hyn ei ymgorffori yn ein gweithgareddau dysgu, gan roi llwybr uniongyrchol i fyfyrwyr i'r ymchwil ddiweddaraf mewn Cyfrifiadureg.
Mae ein hymchwil wedi gwneud yn eithriadol o dda, ac mae tystiolaeth o hynny yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf.
Trefnir ein gweithgareddau ymchwil mewn tri grŵp ymchwil, sy'n gorgyffwrdd i wneud y gorau o adnoddau a chyfleoedd i gydweithio.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd