Fy ngwlad:
To car heddlu

Graddau Plismona Israddedig

Astudia Plismona ym Mhrifysgol Bangor a byddi di’n elwa o gymuned gefnogol a chlos. Mae ein rhaglen radd BSc sydd wedi ei thrwyddedu gan y Coleg Plismona yn bodloni holl ofynion craidd PEQF ac yn cael ei haddysgu gan gyn-swyddogion ac arbenigwyr troseddeg, gyda chysylltiadau cryf â Heddlu Gogledd Cymru. Mae'n radd ymarferol, sy'n canolbwyntio ar yrfa, ac sy'n dy baratoi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Ar y dudalen hon:
Gradd Plismona

Gradd Plismona Proffesiynol ym Mhrifysgol Bangor

Plismona Proffesiynol - BSc (Anrh)
Dewch yn arweinydd ym maes diogelwch y cyhoedd. Dewch i feistroli sgiliau plismona proffesiynol ac i ymchwilio a meddwl yn feirniadol.
Cod UCAS
L436
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL

Profiad Myfyrwyr

Fideo: Ross Griffiths - Plismona Proffesiynol

Enw llawn fi ydi Ross Oliver Griffiths. Enw cwrs fi ydi Plismona Proffesiynol, a dwi'n astudio yn y flwyddyn gyntaf.

Y rheswm nesi ddewis Prifysgol Bangor oedd ar ôl dod i ddiwrnod agored roedd y darlithwyr yn andros o garedig, roedd cynnwys y cwrs hefyd yn apelio ata i. Felly dyma'r cwrs iawn i mi.

O ran y cwrs hyd yma dwi'n meddwl y profiad ti yn cael ti mynd i mewn i bethau mi fyddi di yn gweld ar y strydoedd fel aelod o'r heddlu. Mae'n rhoi bach o brofiad ag 'insight' i be fydda chdi yn gael a hefyd y proifiad o mynd i llefydd efo'r cwrs. Ddaru ni gael mynd i'r 'control centre' yn Llanelwy er mwyn cael syniad be sydd yn digwydd tu ôl i'r llenni mewn ffordd.

Faint o bobl sy'n gweithio i gadw pawb yn ddiogel ag yn gwarchod popeth.

Hoff beth i am Fangor ydi'r gymuned, yn enwedig fel Myfyriwr Cymraeg. Just ymuno mewn cymaint ag galli di ag bydd popeth yn haws ag ar noson allan mae'r undeb Gymraeg yn andros o hwyl i fynd efo.
 

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr.

Sgwrsiwch gyda'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Plismona llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Plismona ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Plismona ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Plismona

Mae ymchwil cyffrous a phwysig ein staff academaidd ym maes Troseddau, Cyfiawnder Troseddol a Chymdeithas yn chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau statws Prifysgol Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd.

Mae gan ein ymchwilwyr ddiddordeb mewn effeithiau troseddu a chyfiawnder troseddol ar gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys ymchwil byd-enwog a wneir yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas yn archwilio sut y darlunnir troseddu yn y newyddion a'r cyfryngau adloniant, datblygu polisïau ar yr ymatebion priodol i droseddu, newidiadau mewn trefniadau cyfiawnder cymdeithasol ar adeg o gyni cyllidol, yn ogystal â chwestiynau damcaniaethol ehangach am lywodraethu drwy droseddu a chyfiawnder.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.