Pam Astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol?
Bangor oedd un o'r prifysgolion 'traddodiadol' cyntaf i gynnig gradd anrhydedd sengl mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Cewch eich dysgu mewn amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol gan staff sy'n cyfuno gyrfaoedd ymchwil gydag ymroddiad gwirioneddol i ddysgu. Mae gennym gysylltiadau da ag asiantaethau cyfiawnder troseddol (yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol) ac mae ein cyrsiau'n arloesol ac yn adlewyrchu natur amserol y maes pwnc. Mae hefyd amrywiaeth o siaradwyr gwadd yn ychwanegu at y profiad dysgu. Mae strwythur y radd yn caniatáu ichi arbenigo yn ogystal ag astudio amrywiaeth eang o opsiynau ac ymateb i heriau deallusol y maes pwnc. Bwriad gwaith y flwyddyn gyntaf yw adeiladu eich hyder, beth bynnag eich cefndir.
Bydd modiwlau craidd yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn yr agweddau sylweddol, methodolegol a damcaniaethol ar droseddeg yn ogystal ag agweddau cysylltiedig ar y gyfraith, cymdeithaseg a seicoleg. Byddwch yn dysgu'r wybodaeth a'r sgiliau ymchwil angenrheidiol i ddeall a chyfrannu at wybodaeth ehangach am droseddu a chyfiawnder troseddol. Mae'r amrywiaeth o fodiwlau dewisol sydd ar gael yn caniatáu ichi ganolbwyntio ar bynciau sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau a'ch uchelgais.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol .
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
Mae ymchwil ym maes Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mangor yn canolbwyntio ar astudiaeth gymharol ar nifer o lefelau trawsddiwylliannol: cymariaethau cenedlaethol, rhyngwladol a gwledig-trefol yw tair o'r ffyrdd pwysicaf o wneud gwaith cymharol ym maes troseddeg.
Mae diddordebau ymchwil staff yn cynnwys archwilio effeithiau trosedd yn ogystal â chyfiawnder troseddol ar gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys ymchwil byd-enwog yn archwilio sut y darlunnir troseddu yn y newyddion a'r cyfryngau adloniant, datblygu polisïau ar yr ymatebion priodol i droseddu, newidiadau mewn trefniadau cyfiawnder cymdeithasol ar adeg o gyni ariannol, yn ogystal â chwestiynau damcaniaethol ehangach am lywodraethu drwy droseddu a chyfiawnder.
Yn achos myfyrwyr ymchwil, gallwn ddarparu rhaglen hyfforddiant ymchwil lawn a goruchwyliaeth arbenigol o ansawdd uchel ar draws amrywiaeth eang o bynciau.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.