Person yn ysgrifennu ar ddesg

Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

Pam Astudio Ysgrifennu Creadigol A Phroffesiynol?

Ym Mhrifysgol Bangor byddwch yn dysgu datblygu eich awch a'ch brwdfrydedd dros iaith, adrodd straeon a'r gair ysgrifenedig yn yrfa a fydd yn para am oes.

Byddwch yn ymuno â chymuned o nofelwyr, beirdd, sgriptwyr, newyddiadurwyr, cyhoeddwyr, academyddion, gwneuthurwyr ffilm a gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau, yn ogystal â myfyrwyr creadigol. Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau gyda'r bwriad o roi sylfaen gadarn i chi yn y sgiliau creadigol, beirniadol ac ymarferol y byddwch eu hangen i ddilyn gyrfa fel ysgrifennwr.

Mae ein gradd Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol yn rhaglen arloesol, ymarferol sy'n eich annog i weithio ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau.  Efallai y byddwch yn datblygu sgiliau yn nhechnegau a ffurfiau'r stori fer, y nofel a barddoniaeth, gan edrych arnynt fel beirniaid ac fel ymarferwyr.  Byddwch yn cael cyfle i ymdrin â newyddiaduraeth, ysgrifennu ar gyfer y sgrin, sgriptio, adrodd straeon, ysgrifennu genre, ysgrifennu ar gyfer perfformio ac ar gyfer cyhoeddi, ysgrifennu ar gyfer cyfryngau digidol ar-lein, a chyhoeddi.

Mae astudio ysgrifennu ym Mangor yn cynnig cydbwysedd rhwng tasgau ymarferol a dadansoddol. Addysgir modiwlau'n bennaf trwy seminarau a gweithdai gyda chyflwyniadau gan awduron gwadd, ac fe'u hasesir ar sail cynnyrch ymarferol a gallu'r unigolyn i adfyfyrio'n feirniadol ar eu hymarfer. Wrth i chi symud ymlaen trwy'r radd, caiff llawer o'r gwaith astudio ei wneud mewn grwpiau dysgu bach wrth i chi adeiladu eich portffolio o ysgrifennu creadigol. Yn eich trydedd flwyddyn gellwch ddewis mynd ar leoliad gwaith, gan roi'r sgiliau rydych wedi'u datblygu fel ysgrifennwr ar waith yn y byd go iawn. Yn eich blwyddyn olaf gellwch ddatblygu darn hirach o waith creadigol, o'r cysyniad cychwynnol i gynnyrch proffesiynol gorffenedig.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch efo'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil O Fewn Ysgrifennu Creadigol A Phroffesiynol

Mae arbenigedd staff Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol i'w chael yng nghrefft iaith ac adrodd straeon yng nghyd-destun eang ymarfer proffesiynol. Mae ein staff yn gweithio ar draws disgyblaethau, gan gynnwys barddoniaeth, stori fer, y nofel, ffuglen cyfryngau cymdeithasol, ffuglen ddigidol, newyddiaduraeth, ysgrifennu ar gyfer y sgrin a chyhoeddi.

Mae staff yn arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu priod faes, gan ddod â gwybodaeth a brwdfrydedd i'w haddysgu.  Mae gan yr adran gymuned weithgar o fyfyrwyr ymchwil ac mae'n cynnig goruchwyliaeth ymchwil mewn ystod o feysydd arbenigol, gan gynnwys: Barddoniaeth, Ysgrifennu straeon byrion, Cyfieithu creadigol, Gwerthu llyfrau, Lle'r llyfr, Cyhoeddi digidol, Ysgrifennu arbrofol, Ecowleidyddiaeth, Ysgrifennu Eingl-Gymreig, Datblygu cysyniadau, Sgriptio, Cenedlaetholdeb yng Nghymru, Y cyfryngau Cymraeg a Chymreig, Cyfryngau digidol mewn ieithoedd lleiafrifol, Newyddiaduraeth wleidyddol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?