5 rheswm i astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor
Wyt ti’n barod i fynd i’r afael â byd Llenyddiaeth Saesneg? Ym Mhrifysgol Bangor, cei gyfle i adeiladu sylfaen gref o sgiliau a gwybodaeth yn dy flwyddyn gyntaf, ac yna’n cael dewis o blith ystod gyffrous o fodiwlau wrth i ti symud ymlaen drwy’r cwrs. Cei ryddid i archwilio diddordebau newydd, a hyd yn oed cynnal ymchwil annibynnol ar bwnc rwyt yn angerddol amdano.
Nid yw’n syndod bod ein rhaglen Llenyddiaeth Saesneg wedi cyflawni sgôr o 100% o ran Boddhad Cyffredinol yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025 - mae myfyrwyr wrth eu bodd â'r cyfleoedd a'r gefnogaeth rydym yn eu darparu. O destunau 1,000 o flynyddoedd oed, i ysgrifennu modern sy'n llunio cymdeithas heddiw, mi fyddi’n darganfod dulliau arloesol o ymdrin â llenyddiaeth. Mi fyddi’n archwilio genres megis y Gothig, Comedi, a Ffuglen i Blant, ac yn mynd i'r afael â themâu mawr megis rhywedd a rhywioldeb, newid hinsawdd, anghyfiawnder gwleidyddol, anghydraddoldeb economaidd, a globaleiddio.
Mae ein graddau Llenyddiaeth Saesneg wedi'u cynllunio i danio creadigrwydd ac i fwydo chwilfrydedd deallusol. Mi fyddi’n archwilio materion cyfoes mewn ffyrdd dychmygus wrth ddatblygu'r sgiliau cyfathrebu y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Mi fyddi hefyd yn meithrin y cryfderau pwnc-benodol sy'n dy roi ar y blaen mewn byd sy'n cael ei siapio fwyfwy gan ddeallusrwydd artiffisial. Drwy ddarllen yn fanwl, meddwl yn feirniadol a defnyddio iaith yn greadigol, mi fyddi’n dysgu sut i ddehongli gwybodaeth gymhleth, herio syniadau a llunio dadleuon gwreiddiol.
Drwy sgyrsiau parhaus gyda darlithwyr a chyfoedion, o fewn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt, mi fyddi’n magu hyder yn dy lais dy hun ac yn dysgu sut i fynegi syniadau cymhleth mewn modd clir a pherswadiol.
Nid archwilio llyfrau gwych yn unig mae astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor yn ei olygu, mi fyddi hefyd yn meithrin sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Mae llawer o'n modiwlau'n cynnwys asesiadau arloesol a chreadigol sydd wedi'u cynllunio i dy baratoi at ystod eang o yrfaoedd.
Wrth i ti gofleidio dy gariad at ddarllen, mi fyddi’n datblygu cryfderau trosglwyddadwy megis meddwl beirniadol, sylw i fanylion a'r gallu i lunio dadleuon perswadiol sydd wedi'u hymchwilio'n dda. Mewn byd sy'n newid yn gyflym ac sydd wedi'i siapio gan dechnolegau newydd, mae'r sgiliau dynol hyn yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg cyflogwyr, gan dy helpu i ddod â mewnwelediad, barn a gwreiddioldeb i ba bynnag lwybr rwyt yn ei ddewis.
Tyrd i fod yn rhan o gymuned gefnogol a chlos ym Mhrifysgol Bangor, lle mae dy lwyddiant yn bwysig. O'r diwrnod cyntaf, mi fyddi’n cael dy addysgu gan arbenigwyr pwnc sydd gyda’r gorau yn y byd, ac a fydd yn cymryd yr amser i ddod i dy adnabod ti a dy waith. Mae ein cymhareb ragorol o fyfyrwyr i staff yn golygu y byddi’n elwa ar ddull personol o addysgu, gyda grwpiau seminar bach, goruchwyliaeth project un-i-un, gweithdai, a sesiynau galw heibio rheolaidd. Dyna pam ein bod wedi ein rhestru yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Gefnogaeth Academaidd yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025.
Y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, mae ein cymuned Llenyddiaeth Saesneg yn fywiog ac yn groesawgar. Cei gyfleoedd i ymgolli mewn darllen, mynd ar ymweliadau i’r theatr ac ar deithiau maes, cwrdd ag awduron gwadd, ymuno â seminarau ymchwil, archwilio casgliadau ac archifau arbennig Prifysgol Bangor, a chymryd rhan mewn cymdeithasau myfyrwyr a grwpiau darllen bywiog.
Mi fyddi’n astudio'r clasuron yma ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys Chaucer, Austen, Shakespeare, y Brontës, Wordsworth, a Plath - ond mae ein gradd yn mynd ymhell y tu hwnt i ffiniau traddodiadol. Nid llenyddiaeth o Loegr yn unig yw Llenyddiaeth Saesneg.
Cei gyfle yn archwilio ysgrifennu ôl-drefedigaethol a dad-drefedigaethol, yn ogystal ag amrywiaeth gyfoethog llenyddiaeth pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae gennym arbenigedd cryf mewn Llên Saesneg Cymru, ac mae’r addysgu hefyd yn amlygu’r cyd-destunau Ewropeaidd sydd wedi llywio llenyddiaeth Prydain. Dyma dy gyfle i weld Llenyddiaeth Saesneg mewn ffordd fyd-eang a chynhwysol.
100%
Boddhad Cyffredinol ar gyfer y rhaglen Llenyddiaeth Saesneg (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025)
Top 10
in the UK for Academic Support in Literature in English
with questions that ask if staff were easy to contact, and how well they supported students’ learning (NSS 2025)
Cyrsiau Israddedig Llenyddiaeth Saesneg
Darganfyddwch yr opsiynau cwrs sydd ar gael yn y maes pwnc hwn.
Proffil fideo myfyrwyr - Ceri James-Evans
Mae Ceri yn astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor. Yma mae hi'n trafod pam y daeth hi i Fangor, ei modiwl gorau dros y dair mlynedd ac hefyd y gweithgareddau sydd ar gael i fyfyrwyr Llenyddiaeth Saesneg.
Unrhyw gwestiynau? Sgwrsiwch gyda myfyrwyr a staff
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Llenyddiaith Saesneg llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Llenyddiaith Saesneg ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Llenyddiaith Saesneg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Mae Eich Gyrfa'n Dechrau Yma
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig ystod eang o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
00:00 [cerddoriaeth]
00:06 Mae'r ffair cyflogadwyedd heddiw mha yn gyfle i fyfyrwyr cael cwrdd gyda llu o wahanol gyflogwyr
00:11 a chael sgwrsio hefo nhw a chael cyfle i rwydweithio i
00:14 gael ffendio allan am y gwahanol gyfleodd
00:16 sydd ar gael ganddyn nhw i wneud profiad gwaith ond hefyd ar gyfer swyddi ar ôl iddyn nhw raddio.
00:21 Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn cael cyfleodd fel hyn i siarad hefo cyflogwyr oherwydd
00:25 mae o'n galluogi nhw i ddeall yn well be yn union mae cyflogwyr yn chwilio am mewn graddedigion
00:30 pam maen nhw'n recriwtio ac ymchwilio gwahanol opsiynau hefyd mae lot o
00:35 fyfyrwyr ni ddim wedi penderfynyn be maen nhw isio ei wneud eto felly mae digwyddiad fel hyn yn gyfle iddyn
00:39 nhw gael trio allan lot o opsiynau.
00:42 [cerddoriaeth]
00:44 Mae ffair fel hyn yn holl bwysig i fyfyrwyr oherwydd maen nhw'n cael cyfle i siarad
00:49 gyda chyflogwyr er enghraifft blwyddyn un efallai bod nhw ddim yn barod i ddod o hyd i
00:53 swydd eto ond maen nhw'n cael teimlad o be maen nhw angen neud ar gyfer paratoi,
00:57 pa sgiliau i ddatblygu a hefyd maen nhw'n cael cyfle i rwydweithio gyda chyflogwyr
01:03 lleol sy'n hybu ei hyder nhw.
01:06 [cerddoriaeth]
01:08 Mi rydym ni yn cynnig sesiynau sut i gael y mwyaf allan o ffair gyrfaoedd
01:11 cyn iddyn nhw ddod felly pam maen nhw'n cyrraedd ac yn gweld y cyflogwyr maen
01:17 nhw'n gwybod sut i fynd atyn nhw a sut i siarad, sut i ymddwyn a sut i gael
01:21 y mwyaf allan o’r sesiwn. Mae gennym ni bobol yma i helpu unigolion
01:25 sydd eisiau dechrau busnes ei hunain hefyd.
01:30 [cerddoriaeth]
01:33 Fi fy hun dwi wedi graddio o Brifysgol Bangor yn y 90au oedd hi'n braf cael gofyn i ddod yn ôl yma i
01:40 weld ac i siarad gyda phobol heddiw sydd eisiau mynd yr un ford a nes i ddewis i fynd.
01:46 Dewch yma gofynnwch gwestiynau. Dewch yma, does ddim un cwestiwn yn wrong
01:51 mae llawer un wedi gofyn i mi heddiw be ydych yn chwilio am, just dewch yma a gofyn cwestiynau.
01:56 [cerddoriaeth]
01:59 Ia i drio hybu myfyrwyr i ymgeisio am ein swyddi ni ac i aros yn lleol yn ein cymunedau ni i weithio yn y
2:06 Gymraeg. Rydym yn cynnig wythnos o brofiad gwaith ar hyn o bryd ac rydym yn cynnig swydd rhan amser
02:13 ar gyfer para legal gydag opsiwn i efallai cael training contract yn y dyfodol.
02:18 Mi rydym ni ddwy yn cyn myfyrwyr felly roeddem yn keen i gael Gwen ddod hefo fi i representio'r
02:24 firm a thrio cael mwy o stiwdants sy'n siarad Cymraeg ac eisio aros yn yr ardal i mewn i
02:32 applyio i weithio i Gamlins yn y dyfodol.
02:33 Ar ôl y ffair mae gennym ni cyfleoedd yn mynd ymlaen trwy'r flwyddyn i helpu hybu
02:39 cyflogadwyedd myfyrwyr.
02:42 [cerddoriaeth]
00:00 [cerddoriaeth]
00:06 Mae hi wedi bod yn fuddiol ofnadwy cael cyfarfod llwyth o bobol,
00:09 dwi wedi cael llwyth o gynigion i wneud internships dros yr haf ac i wirfoddoli a lot o citizens advice
00:18 a phallu yn mynd ymlaen a llwyth o pethau fatha heddiw sy'n helpu ni.
00:22 Ac mae o yn rhoi syniad i mi be ddwi isio wneud blwyddyn nesaf ac yn y blaen felly.
00:25 Oes, mae yna gymysgedd gwych yn enwedig mae yna lwyth o bobol sydd yn gwneud y gyfraith felly
00:30 mae o'n rhoi opsiynnau i mi. Jyst gwnnech y mwyaf ohoni a dod i bob un, rydych yn siŵr
00:36 o ddysgu rhywbeth newydd yn bob un.
00:38 [cerddoriaeth]
00:41 Ydw, dwi'n meddwl mae o'n agor drysa i bobol, dwi'n meddwl bod yna amrywiaeth
00:46 o gyflogwyr yma ac mae yna agencies yma hefyd sydd gyda connections ar hyd Gwynedd.
00:53 mynd i'r ffair jyst edrychwch ar bwy sy'n mynd, edrych ar y rhestr o enwau efallai
00:58 a meddwl am pwy fydd nhw eisiau mynd tuag at y fwyaf, be sy'n diddori nhw fwyaf, paratoi CV
01:04 a mynd ac ychydig bach hefo nhw.
01:06 [cerddoriaeth]
01:09 Ym Mangor mae o'n ddiwrnod lle gallwn ni cymdeithasu gyda phobol yn y byd busnes
01:16 o wahanol feysydd mewn busnes felly o'r gyfraith i wasanaeth sifil i iechyd felly dwi'n meddwl bod
01:27 hynny'n hwb da i astudio yma felly. Drwy ddod yma i siarad gyda nhw dwi'n gwybod lot mwy rŵan na
01:35 be o ni cwpwl o oriau yn nol. Mae hi'n bwysig bod chi'n dod cyfarfod gyda phobol, cael gwybod be
01:39 sy'n mynd ymlaen ac mae'n ateb llwyth o gwestiynau. Ac mae yna bobol os tydi nhw ddim yma
01:45 ar y pryd mae yna wahanol fatha o gysylltu â nhw hyd yn oed trwy'r brifysgol hyd yn oed.
01:51 [cerddoriaeth]
01:53 Mae o'n wych, mae o'n brofiad da ac mae'n lleol hefyd, cael cwrdd â ffrindiau a phobol newydd
02:00 drwy'r byd sydd yn deimlad cartrefol iawn.
02:04 [cerddoriaeth]
CEFNOGAETH I FYFYRWYR
Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi. Gan ddechrau yn ystod yr Wythnos Groeso, cewch gymaint o help a chefnogaeth â phosib gyda materion iechyd a lles yn ogystal â’ch gwaith academaidd.
Lleoliad Bangor
Cewch y gorau o ddau fyd pan fyddwch yn astudio ym Mangor. Fel dinas hardd yng ngogledd Cymru gyda golygfeydd syfrdanol, mae'n berffaith i'r rhai sy'n edrych i archwilio'r awyr agored. Ac eto, nid yw'n bell o gyrraedd y dinasoedd mawr ac mae'n gyfoethog mewn hanes gydag ymdeimlad bywiog o gymuned sy'n ei gwneud yn le delfrydol i fyfyrwyr ac yn lleoliad prifysgol perffaith.
Ein Hymchwil o fewn Llenyddiaeth Saesneg
Mae’r addysgu a'r oruchwyliaeth yn seiliedig ar ymchwil ac ymarfer creadigol o’r radd flaenaf yn fyd-eang. Mae gennym gryfderau ymchwil mewn llenyddiaeth ganoloesol a modern cynnar; hanes y llyfr a chyhoeddi; ac Ysgrifennu o Gymru yn Saesneg. Mae ein hymchwil yn cyrraedd cynulleidfa ryngwladol ac mae cyswllt clos â'r amgylchedd lleol a'n casgliadau, gan gynnwys archifau rhagorol y brifysgol. Yn y REF diweddaraf, roedd ein hymchwil yn safle 14 yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cyhoeddiadau o’r radd flaenaf yn fyd-eang.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.