Morlo yn y môr

Bioleg Môr

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Bioleg Môr

Pam Astudio Bioleg Môr?

Mae'r cynnydd ym mhoblogaeth y byd, ynghyd â heriau a achosir gan newid yn yr hinsawdd, yn rhoi pwysau cynyddol ar adnoddau'r Ddaear. Mae gan Fiolegwyr Môr ran allweddol i'w chwarae yn natblygiad adnoddau bwyd cynaliadwy yn y dyfodol yn wyneb newid yn yr hinsawdd a lefelau cynyddol o wastraff.

Gyda'i gilydd, mae pysgodfeydd sy'n dal o'r gwyllt a dyframaethu yn cynhyrchu tua 200 miliwn tunnell o fwyd y flwyddyn, gyda photensial mawr i ehangu. Fel Biolegydd Môr, byddwch yn meithrin y wybodaeth a'r sgiliau i reoli'r adnoddau pwysig hyn, a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy fel bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei warchod.

Trwy astudio Bioleg Môr, byddwch yn meithrin y sgiliau gwerthuso beirniadol i nodi a diffinio problemau, a'r sgiliau dadansoddi i allu dod o hyd i atebion iddynt.  

  • Rydym yn un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu gwyddorau môr ym Mhrydain.
  • Mae gennym long ymchwil gwerth £3.5m a all fynd ar deithiau ymchwil pell, a thair llong lai ar gyfer ymchwil o amgylch y glannau.
  • Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys acwaria môr trofannol a thymherus, labordai dadansoddi, efelychwyr cludo llif a gronynnau a systemau cyfrifiadurol o'r safon uchaf.
  • Mae gennym fynediad heb ei ail i'r môr a'r glannau, sy'n ddelfrydol ar gyfer gwneud gwaith arbrofol yn yr amgylchedd rhynglanwol.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Bioleg Môr

Mae Bioleg Môr yn baratoad delfrydol ar gyfer gyrfaoedd mewn ymchwil, pysgodfeydd a dyframaeth, rheoli adnoddau môr, cadwraeth, cyrff cynghori'r llywodraeth, y cyfryngau gwyddonol, ecodwristiaeth a diwydiannau hamdden eraill, grwpiau dwyn pwysau, a llawer o feysydd eraill lle mae angen sgiliau dadansoddol, a ddarperir gan ein rhaglenni Bioleg Môr.   Mae ein graddedigion Bioleg Môr wedi symud i yrfaoedd mewn dyframaeth, cadwraeth y môr, pysgodfeydd, ecodwristiaeth a meithrin pysgod a physgod cregyn.

Ein Hymchwil o fewn Bioleg Môr

Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o ymchwil Bioleg Môr sy'n ymestyn yn ôl dros 100 mlynedd. Mae ein hymchwil yn cynnwys holl barthau'r môr, yn amrywio o gynefinoedd ar y glannau, fel morfeydd heli, i'r môr dwfn, ac o'r pegynau i'r trofannau. Ar hyn o bryd mae gennym brojectau ymchwil sy'n canolbwyntio ar ffiordydd yr Antarctig a riffiau cwrel Cefnfor India.

Mae elfen bwysig o ymchwil Bioleg Môr yma ym Mangor yn canolbwyntio ar gadwraeth a rheoli adnoddau môr. Mae ein hymchwil yn edrych ar sut mae cynnwrf anthropogenig, megis ecsbloetiaeth, rhywogaethau ymledol a newid yn yr hinsawdd, yn effeithio ar ecosystemau'r môr, ac ar y dulliau gorau o reoli ac amddiffyn yr ecosystemau hyn.

Mae ein hymchwil yn sail i ddiwydiant pysgota o’r gwyllt a dyframaeth cynaliadwy. Mae hefyd yn ymdrin ag effeithiau ehangach pysgodfeydd a dyframaeth ar ecosystem y môr, a sut y gallant effeithio ar rywogaethau dalfeydd (pysgod eraill, adar môr, mamaliaid môr, organebau gwely'r môr) a chynefinoedd (e.e. riffiau, gwelyau morwellt). Mae hefyd yn sail i'n datblygiad o ddeorfeydd cynaliadwy ar gyfer pysgod trofannol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?