Golygfa coetir

Coedwigaeth

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Coedwigaeth

Pam Astudio Coedwigaeth?

Mae coedwigoedd yn hanfodol i'r ecosystem fyd-eang ac maent yn gorchuddio 30% o arwynebedd tir y byd. Mae coedwigaeth yn ymwneud â deall a rheoli'r coedwigoedd hynny mewn modd cynaliadwy er lles cymdeithas. Mi wnaiff astudiaethau ôl-radd eich paratoi ar gyfer her rheoli coedwigoedd a'r holl fanteision sydd iddynt, ar adeg o newid amgylcheddol byd-eang.

Mae ein dull ymarferol o ymdrin â phrojectau ymchwil yn gwneud defnydd o'r lleoliad unigryw sydd gennym gyda theithiau maes sy'n cyflwyno materion ymarferol real sy'n ymwneud â choedwigaeth a materion amgylcheddol cyfredol. Mae ein rhwydweithiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol helaeth a'n rhaglenni ymchwil gweithredol yn caniatáu inni ddarparu ymchwil o ansawdd uchel sy'n rhoi sylw i faterion cyfoes, fel mae'r adroddiad hwn gan fyfyriwr cyfnewid o Ganada yn ei ddangos.

Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau yn y Deyrnas Unedig, ac yn cyflwyno myfyrwyr iddynt. Ymhlith y rheiny mae Cyfoeth Naturiol CymruY Comisiwn CoedwigaethCoed CadwForest Research a Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Coedwigaeth

Mae rheoli adnoddau naturiol, a rheoli coedwigoedd, yn dod yn fwyfwy pwysig, ac o ganlyniad mae'n hysbys bod prinder sgiliau yn y proffesiwn coedwigaeth. Mae'n graddedigion yn cael gwaith yn gyflym o'r herwydd. Mae graddedigion ein cyrsiau wedi sicrhau swyddi perthnasol yn sefydliadau'r sector cyhoeddus, cyrff anllywodraethol a sefydliadau academaidd yn yr Undeb Ewropeaidd a thramor.

Edrychwch ar y fideo hwn sy’n trafod gyrfaoedd ym maes Coedwigaeth.

Ein Hymchwil o fewn Coedwigaeth

Mae ein tîm ymchwil yn amlddisgyblaethol ac mae'n cynnwys pob agwedd ar wyddor coedwigaeth.  Mae gennym raglenni ymchwil ar waith sy'n rhychwantu coedwigoedd boreal a throfannol. Mae ein gwaith yn ymwneud â choedwigoedd ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd, lliniaru, datgoedwigo, bioamrywiaeth, adfer ar ôl trychineb, diogelwch bwyd, amddiffyn rhag llifogydd, cylchu maetholion, lles dynol, cadwraeth a swyddogaeth coedwigoedd mewn hamdden.

Mae Bangor ar flaen y gad ym maes ymchwil coedwigaeth ryngwladol ac mae gennym enw da iawn am ein gwaith ymchwil. Mae'r myfyrwyr a'r staff academaidd yn cydweithio'n gyson â sefydliadau rhyngwladol megis y Ganolfan Ymchwil Amaethyddol Trofannol ac Addysg Uwch, Costa Rica (CATIE),  Canolfan Ymchwil Coedwigaeth Ryngwladol, Indonesia (CIFOR), a Chanolfan Coedamaeth y Byd (ICRAF)

Mae gan Goedwigaeth@Bangor ddau gyfleuster gwych a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau addysgu ac ymchwil. Gardd Fotaneg Treborth Chanolfan Ymchwil Henfaes nid nepell o Fangor.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?