Gollwng cemegyn dros diwb prawf sy'n dal planhigyn

Bioleg

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Bioleg

Pam Astudio Bioleg?

Cynigiwn gefnogaeth gref ar gyfer gweithgareddau ymchwil; mae cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr wneud gwaith project gyda goruchwylwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Byddwch hefyd yn elwa o'r cysylltiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol helaeth sydd gennym gyda sefydliadau'r wladwriaeth a rhai’r sector preifat. 

Mae ein myfyrwyr yn mwynhau bod yma ac rydym yn ymfalchïo yn ansawdd yr addysgu a'r gofal bugeiliol a gynigiwn. Mae gennym draddodiad hir o addysgu ac ymchwilio ym maes Gwyddorau Biolegol. Mae ymchwil a gyflwynwyd gan ein staff wedi ei gydnabod ymhlith yr 20 uchaf yn y Deyrnas Unedig (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, 2014).

Mae gennym gyfleusterau rhagorol ar gyfer astudio fflora a ffawna - gan gynnwys casgliadau o nadroedd, madfallod a physgod, Gardd Fotaneg ac Amgueddfa Astudiaethau Natur ar y campws.

Mae ein staff bob amser yn sicrhau eu bod ar gael i helpu myfyrwyr trwy gydol eu hastudiaethau.

Mae ein darlithwyr a’n hymchwilwyr yn ymwneud ag amrywiaeth o ymchwil sy'n gysylltiedig â bioleg, ac yn defnyddio'r adnoddau rhagorol sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor. Bydd eich project ymchwil fel arfer yn cyfrannu at ymchwil arloesol a chyfredol.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Bioleg

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd ymchwil (yn y byd academaidd ac mewn sefydliadau ymchwil) yn ogystal â gweithio i ymgynghoriaethau amgylcheddol masnachol, DEFRA, awdurdodau dŵr, cyhoeddiadau gwyddonol, penseiri tirwedd a llawer mwy.

Mae’r farchnad swyddi sydd ohoni’n cynnig amrywiaeth fawr o gyfleoedd gwaith ym meysydd amaethyddiaeth, meddygaeth, fferylliaeth, dyframaeth a gwyddorau fforensig ac amgylcheddol. Mae economïau Tsieina ac India, sy'n datblygu'n gyflym, yn benodol wedi sylweddoli cymaint yw’r cyfleoedd y mae’r maes pwnc hwn yn eu cynnig.  Mae swyddi ym maes gwerthu a marchnata gyda chwmnïau gwyddonol eu natur hefyd yn gyffredin. Bydd rhai graddedigion hefyd yn dewis ychwanegu at eu gwybodaeth trwy ddilyn rhaglenni ymchwil pelllach mewn meysydd perthnasol.

Ein Hymchwil o fewn Bioleg

Rydym yn cefnogi ymchwil helaeth a thrwyadl mewn nifer o feysydd, yn cynnwys: ecoleg foleciwlaidd, geneteg pysgodfeydd, DNA hynafol, bioleg esblygiadol a chadwraeth, biogeocemeg, biohydrofeteleg, biocemeg cynnyrch planhigion a ffisioleg straen (planhigion), biogeocemeg gwlypdiroedd, niwroffisioleg anifeiliaid cramennog, ymatebion anifeiliaid i straen a microbioleg gymhwysol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.