Planhigion sy'n cael eu tyfu mewn potiau

Cadwraeth

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Cadwraeth

Pam Astudio Cadwraeth?

Mae gennym gysylltiadau ymchwil cryf â llawer o sefydliadau cadwraeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), Coed Cymru, ffermwyr lleol a diwydiannau bwyd.

  • 4ydd yn y Deyrnas Unedig am Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd yn nhablau cynghrair y Guardian 2020
  • Yn y 10 uchaf am Amaethyddiaeth a Choedwigaeth yn nhablau cynghrair y Complete University Guide 2020
  • 90% am foddhad myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2017
  • Gwobr Aur am Ansawdd Addysgu yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF 2017)
  • Ymchwil arloesol ac addysgu arobryn.

Caiff llawer o'n graddau eu hachredu gan Sefydliad Gwyddorau'r Amgylchedd.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Cadwraeth

Mae graddedigion cadwraeth yn awr yn gweithio gydag asiantaethau cadwraeth, cyrff anllywodraethol a sefydliadau'r llywodraeth a gyda sefydliadau academaidd yn yr UE a thramor.

Ein Hymchwil o fewn Cadwraeth

Ymchwil yw'r prif gyfraniad a wnawn at warchod bioamrywiaeth y byd. Mae'n darparu atebion i broblemau damcaniaethol a chymhwysol sylfaenol ym maes bioleg cadwraeth ac yn gosod cyfeiriad ar gyfer ein haddysgu. 

Rydym yn cydweithio â phobl o bob cwr o'r byd, gan gynnwys arbenigwyr academaidd a rheolwyr cadwraeth, i sicrhau bod modd defnyddio ein hymchwil yn y byd go iawn, a sicrhau ein bod yn datblygu agweddau damcaniaethol ar fioleg cadwraeth. 

Mae ein hymchwil wedi'i rannu'n themâu: tystiolaeth amgylcheddol a chadwraeth gymdeithasol, mae gennym ddiddordeb hefyd mewn dulliau i liniaru prosesau bygythiol ac mewn cadwraeth planhigion ac anifeiliaid. Mae themâu ein hymchwil yn tueddu i fod yn amlddisgyblaethol iawn - ac yn manteisio ar arbenigedd ein tîm amrywiol.


Projectau:
Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?