Mae cymdeithion meddygol yn cefnogi meddygon wrth roi diagnosis i gleifion a rheoli cleifion ac maent yn cyflawni dyletswyddau sy'n cynnwys:
- holi cleifion am eu hanes meddygol
- cynnal archwiliadau corfforol
- gwneud diagnosis o salwch
- gweld cleifion sydd â chyflyrau cronig hirdymor
- llunio gwahanol ddiagnosau a chynlluniau rheoli
- cyflawni gweithdrefnau diagnostig a therapiwtig
- datblygu a darparu cynlluniau triniaeth a rheoli priodol
- gofyn am astudiaethau diagnostig a'u dehongli
- rhoi cyngor i gleifion ar hybu iechyd ac atal afiechydon.
Gwybodaeth am Gymdeithion Meddygon
Mae Cymdeithion Meddygon yn helpu i ddiwallu'r galw cynyddol am ofal iechyd ledled Cymru—yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd heb ddigon o wasanaeth—drwy gefnogi meddygon a gwella mynediad at ofal.
Mae Cymdeithion Meddygon yn gweithio ochr yn ochr â meddygon mewn ysbytai a phractisau meddygon teulu, yn gweld cleifion, yn cefnogi’r broses o wneud diagnosis, ac yn cyfrannu at ofal parhaus. Maent yn gweithio yn ôl y model meddygol ac yn dod â gwybodaeth a sgiliau clinigol hanfodol i'r tîm er mwyn darparu gofal a thriniaeth gyfannol o fewn y tîm meddygol cyffredinol. Mae’n bwysig cofio nad yw Cymdeithion Meddygon yn disodli meddygon, ond maent yn helpu i ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol.
Mae'n yrfa heriol ond gwerth chweil, sy’n ddelfrydol i'r rhai sydd eisiau cael effaith wirioneddol ar ofal cleifion. Os ydych chi’n angerddol am weithio gyda chleifion mewn lleoliad clinigol, gallai gradd ôl-radd Cydymaith Meddyg fod yn berffaith i chi—ac mae Prifysgol Bangor yn cynnig rhaglen ardderchog i'ch helpu i ddechrau.
Cyfleoedd Gyrfa fel Cydymaith Meddygol
Mae Cymdeithion Meddygol yn gweithio mewn meddygfeydd, adrannau damweiniau ac achosion brys, a wardiau meddygol a llawfeddygol cleifion preswyl ledled y DU, a disgwylir i'w niferoedd gynyddu dros y blynyddoedd i ddod wrth i fodelau darparu gofal iechyd a chlinigol yn y GIG barhau i ddatblygu.
Ein Hymchwil
Yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddatrys problemau allweddol mewn meddygaeth er mwyn gwella gofal cleifion. Ein nod yw ehangu dealltwriaeth feddygol a datblygu atebion byd go iawn i heriau brys ym maes iechyd.
Mae canser yn brif ffocws. Drwy Sefydliad North West Cancer Research, rydym yn astudio sut mae canser yn datblygu, ac yn gweithio ar driniaethau newydd a ffyrdd o fonitro cleifion—gan gydweithio ag arbenigwyr ledled y byd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae ein meysydd ymchwil yn cynnwys y canlynol:
- Canser
- Clefyd Awtoimiwn ac Imiwnoleg
- Geneteg
- Microbioleg a Biocemeg
- Anatomeg ac Ymarfer Clinigol
- Nanodechnoleg
Mae myfyrwyr ôl-radd yn ymuno ag amgylchedd cefnogol a chydweithredol, gyda chyfle i weithio ar ymchwil sy’n cael gwir effaith.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.