Podlediadau Ysgol Busnes Bangor

Podlediad ceiniog am dy feddyliau

Mae’r podlediad yn adeiladu ar ysbryd a gwerthoedd y chwarelwyr a’r ffermwyr gweithgar hynny yn y 19eg Ganrif a gyfrannodd y ceiniogau a fu’n hanfodol i sefydlu Prifysgol Bangor yn 1884. Roeddent yn grediniol bod gwerth i gcyflwyno gwybodaeth academaidd ac ymchwil gerbron y gymuned, ac felly ninnau hefyd yn Ysgol Busnes Bangor. Mae'r gyfres hon o bodlediadau’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf, damcaniaethau newydd a barn ein harbenigwyr a syniadau ar faterion busnes pwysig.

 

Dilynwch a Thanysgrifiwch

Bydd penodau newydd yn rheolaidd. Cofiwch ddilyn a thanysgrifio i'r Podlediad Ceiniog am dy feddyliau ar Anchor, Spotify, Apple Podcasts neu Amazon Music.

Anchor Podcast - Listen to our podcast on Anchor

 

Listed to our podcast on Apple Music

 

Listen to our podcast on Spotify

 

Listen to our podcast on amazon music

 

Cwrdd â'r tîm

Darren Morely in the radio suite speaking to a microphone

Darren Morely

Darren yw Rheolwr Ymgysylltu Busnes yma ym Mhrifysgol Bangor. Wedi gweithio gydag amryw o fusnesau ar hyd y blynyddoedd mae Darren yn dod a safbwynt unigryw i'r sgwrs. Yn ogystal â gwesteiwr y podlediad mae Darren yn dylunio a chynnal cyrsiau byr ar gyfer busnesai lleol a'r gymuned. 

Dr Georgina Smith smiling to camera - Bangor Business School

Dr Georgina Smith

Mae Georgina yn Ddarlithydd mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn marchnata cymdeithasol, penderfyniadau ymddygiadol, a dylanwad emosiwn ar ymddygiad. Mae llawer o’i hymchwil yn ymwneud â’r prosesau sydd ynglŷn â gwneud penderfyniadau gwahaniaethol a ddilynir pan fydd pobl yn ymddwyn mewn ffyrdd sy’n ymwneud ag iechyd ac sy’n rhagweithiol yn gymdeithasoli fel rhoi gwaed, defnyddio eli haul, a bwyta byrbrydau sy’n llawn o galorïau. Ar hyn o bryd mae Georgina yn addysgu ar nifer o fodiwlau, gan gynnwys Rheoli Brand, Rheoli Brand Byd-eang, a Chyfathrebu Marchnata Rhyngwladol.

Dr Steffan Thomas - Bangor Business School

Dr Steffan Thomas

Mae Steffan wedi gweithio ym myd radio, teledu a’r diwydiant cerddoriaeth ond tra oedd yn ymchwilio ar gyfer gradd PhD mewn Rheolaeth Busnes a Marchnata dechreuodd ymddiddori yn nefnydd marchnata digidol i gefnogi dosbarthu. Mae gan Steffan ddiddordeb gweithio gyda sefydliadau BBaCh, a thros y blynyddoedd diwethaf bu’n cefnogi nifer o fusnesau i wella eu presenoldeb digidol mewn nifer o sectorau megis deintyddiaeth, milfeddygaeth, lletygarwch a thwristiaeth. Ar hyn o bryd mae Steffan yn dysgu amryw o fodiwlau gan gynnwys Sylfeini Marchnata a Marchnata Digidol ac mae’n goruchwylio nifer o fyfyrwyr PhD yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes.

Clair Doloriert - Senior Lecturer at Bangor Business School

Dr Clair Doloriert

Mae Dr Clair Doloriert yn ysgolhaig Ymddygiad Sefydliadol a Rheoli Adnoddau Dynol. Ymhlith ei diddordebau ymchwil mae pynciau cyfoes megis ymgysylltu â gweithwyr, rheoli gwybodaeth a hunanethnograffeg. Enillodd sawl gwobr am addysgu ac ymchwil a daeth yn Gymrawd Addysgu Prifysgol Bangor am ei chyfraniad at arloesedd mewn addysgu yn 2017 ac mae’n frwd dros wella ymarfer rheolaeth ac arweinyddiaeth trwy ei hymarfer addysgu ac ymchwil.

Nicola Kirby smiling to camera

Nicola Kirby

Nicola Kirby yw’r Technolegydd Dysgu ar gyfer Ysgol Busnes Bangor gyda blynyddoedd o brofiad yn gweithio mewn addysg uwch, yn datblygu deunyddiau e-ddysgu arloesol. Ar hyn o bryd mae Nic yn cefnogi ein rhaglenni MBA dysgu o bell gan reoli cynnwys dysgu'n rhithiol a chynnal arholiadau ar-lein dan oruchwyliaeth. Mae hi'n hwyluso arholiadau yn ein sefydliadau partner yn Singapore a Tsieina. Mae Nic hefyd yn cefnogi'r tîm marchnata yn yr Ysgol Busnes yn ogystal â recordio a golygu ein podlediad.

Siaradwyr gwadd diwydiant

Siobhan Johnson smiling to camera

Ymgynghoriaeth AD Siobhan Johnson

Yn bennod gyntaf yr ail gyfres mae Siobhan Johnson yn ymuno a ni! Mae Siobhan Johnson yn rhedeg ymgynghoriaeth AD yn Ynys Môn ac mae’n hynod brofiadol ym maes adnoddau dynol a datblygiad sefydliadol ac mae ganddi brofiad o weithio ym maes tai cymdeithasol ac yn y sectorau preifat, yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig Mae hi'n fedrus ym maes ymgynghori AD, hyfforddi, newid diwylliant, hwyluso, a datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth. Mae hi'n weithiwr proffesiynol adnoddau dynol llwyddiannus ac yn aelod siartredig o'r Chartered Institute of Personnel and Development

Claire Quinton Tulloch

First Bus Claire Quinton Tulloch 

Mae Claire Quinton Tulloch yn weithiwr proffesiynol hynod brofiadol ym maes marchnata a chyfathrebu gyda dros 15 mlynedd o brofiad mewn diwydiant. Ar hyn o bryd mae hi’n rheolwr cysylltiadau cyhoeddus gyda First Bus – un o’r cwmnïau bysiau rhanbarthol mwyaf yn y Deyrnas Unedig gyda dros 12,800 o weithwyr. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Frontier Public Relations lle bu’n uwch ymgynghorydd a phennaeth grŵp cysylltiadau cyhoeddus Marshalls. Mae Claire yn frwd dros ragori ar ddisgwyliadau cleientiaid a llunio naratifau cymhellol sy'n cysylltu'n wirioneddol â chynulleidfaoedd targed. Mae ganddi MA mewn Busnes a Marchnata o Ysgol Busnes Bangor (2009).

Image of Lisa Kelly Roberts

John Kelly Construction Services Ltd Lisa Kelly Roberts

Lisa Kelly Roberts yw Rheolwr Strategaeth John Kelly Construction Services Ltd, busnes bach a chanolig arobryn yn Ynys Môn, a sefydlwyd yn 2008. Cyn dechrau ei swydd gyda John Kelly, treuliodd Lisa dros ddegawd fel athrawes yn Ysgol Emrys ap Iwan. Graddiodd o Brifysgol Bangor gyda gradd Meistr mewn Addysg ar ôl cwblhau BSc Seicoleg ym Mangor. Mae Lisa bellach bron â gorffen DProf Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ei swydd strategol yn John Kelly, mae Lisa yn canolbwyntio ar ansawdd, arloesi a newid strategol.

Image of Catherine Hughes CEO of British Nordic Walking

British Nordic Walking Catherine Hughes

Gyda dros 17 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ffitrwydd a lles, mae Catherine yr un mor angerddol am hyrwyddo Cerdded Nordig ag y mae dros ymarfer corff llawn yn yr awyr agored. Fel Prif Swyddog Gweithredol British Nordic Walking CIC, mae hi’n arwain yr unig gorff hyfforddi i hyfforddwyr cerdded Nordig yn y Deyrnas Unedig, sydd wedi’i gymeradwyo gan INWA, y Ffederasiwn Cerdded Nordig Rhyngwladol. Mae'n cael ei hysgogi gan y genhadaeth o helpu cymunedau i sefydlu grwpiau Cerdded Nordig a helpu hyfforddwyr ffitrwydd proffesiynol i ehangu'r hyn y maent yn ei gynnig i gleientiaid. Mae hi'n dod â safbwyntiau a phrofiadau amrywiol i'w thîm, yn ogystal ag ymrwymiad i gynwysoldeb, cynaliadwyedd ac effaith gymdeithasol.

Ian Gwyn Hughes

Cymdeithas Pêl-droed Cymru Ian Gwyn Hughes

Ian Gwyn Hughes yw Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru.  Yn wreiddiol o Fae Colwyn, addysgwyd Ian Gwyn Hughes yn Ysgol Eirias, Bae Colwyn ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.  Aeth ymlaen i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth. Yn 1982, dechreuodd ei yrfa ddarlledu yn gweithio i radio CBC (Cwmni Darlledu Caerdydd). Erbyn diwedd y flwyddyn, dechreuodd weithio fel cyflwynydd a sylwebydd i Adran Chwaraeon BBC Cymru, a thros y tri degawd nesaf, bu’n gweithio i’r BBC fel gohebydd pêl-droed, golygydd pêl-droed, ac fel sylwebydd ar Match of the Day. Ymunodd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2011. Mae wedi goruchwylio llawer o adegau allweddol ym mhêl-droed cenedlaethol Cymru, ar ôl arwain cyfathrebiadau’r Gymdeithas yn ystod yr Ewros yn 2026 a 2020, a Chwpan y Byd FIFA yn 2022. Mae'n adnabyddus am ei ymdrechion i wneud y Gymraeg yn rhan ganolog o waith Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ac am roi llwyfan rhyngwladol i'r iaith Gymraeg a'i diwylliant. Mae Ian yn adnabyddus am fod yn arloesol wrth hyrwyddo pêl-droed mewn cymunedau Cymreig ar draws y wlad.

Llun o Rhys Edwards

EOG Accounting Rhys Edwards

Rhys Edwards yw sylfaenydd EOG Accounting yn ne Gwynedd ac mae hefyd yn ymarferydd achrededig gyda’r FCCA a Chymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig. Mae EOG Accounting yn gwmni cyfrifo arbenigol yn benodol ar gyfer busnesau bach a chanolig yn y sector lletygarwch. Mae’r cwmni yn un blaengar a chyfeillgar, sy'n ceisio defnyddio technoleg arloesol heddiw i wella profiad cwsmeriaid a’u helpu i gyflawni eu hamcanion. Magwyd Rhys ym myd lletygarwch, gyda'i rieni yn rhedeg mentrau lletygarwch llwyddiannus. Taniodd eu llwyddiannau awydd dwfn ynddo i sefydlu ei fusnes ei hun a gwasanaethu'r sector lletygarwch. Yn ei amser rhydd, mae Rhys yn troi ei egni at redeg, ac mae wedi lwyddo ym Marathon Efrog Newydd ac ym Marathon Llundain.

Llun o Shoned Owen

Tanya Whitebits Shoned Owens

Shoned yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol cwmni Tanya Whitebits, sef brand arobryn lliw haul di-haul sy'n arbenigo mewn cynhyrchion fegan, sy'n sychu'n gyflym ac sydd ddim yn greulon, yn ludiog nac yn arogli. Sefydlodd Tanya Whitebits yn 2012 ac ers hynny mae wedi bod yn hynod lwyddiannus gan ennill nifer o wobrau busnes mawr eu bri. Mae Shoned yn entrepreneur profiadol gyda hanes amlwg o weithio yn y diwydiant colur. Mae ganddi sgiliau ym meysydd Cymell, Gwerthiant, Datblygu Chwaraeon, Rheoli Digwyddiadau, a'r Diwydiant Hamdden. Mae Shoned hefyd yn angerddol ynghylch cefnogi datblygiad entrepreneuriaeth ac mae'n ymgysylltu'n rheolaidd â myfyrwyr yn Ysgol Busnes Bangor a Phrifysgol Bangor i rannu ei phrofiadau a'i gwybodaeth. Mae hi'n frwd yn ei heiriolaeth i entrepreneuriaeth merched a menter yng ngogledd Cymru.

Llun o Pryderi ap Rhisiart

M-Sparc Pryderi ap Rhisiart

Pryderi yw Rheolwr Gyfarwyddwr M-Sparc. Mae Pryderi wedi bod yn darparu cyfeiriad strategol fel Cyfarwyddwr M-SParc ers 2018. Mae'n disgrifio ei hun fel 'entrepreneur cyfresol sy'n frwd dros ddatblygu economi gogledd Cymru'. Mae ei arweinyddiaeth yn canolbwyntio ar y weledigaeth i sicrhau bod cymunedau lleol, yr economi, diwylliant, a'r amgylchedd yn gallu ffynnu mewn modd cynaliadwy trwy greu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel.

Mae gan Pryderi rwydwaith eang o gysylltiadau mewn diwydiant, yn y llywodraeth ac yn y byd academaidd ac mae’n rheolwr project profiadol ac arobryn gyda hanes amlwg o weithio yn y diwydiant addysg uwch.

Mae gan Pryderi gefndir mewn llywodraeth leol a phrofiad helaeth fel entrepreneur, ac mae’n frwd dros feithrin amgylchedd sy’n caniatáu i fusnesau a chymunedau ffynnu. Mae’n fedrus ym maes datblygu cynaliadwy, cynllunio busnes, cynaliadwyedd, cynllunio strategol a rheoli rhaglenni, ac mae ganddo MSc mewn Adfywio o Brifysgol John Moores Lerpwl.

Y tu allan i'r gwaith, mae Pryderi yn mwynhau gwylio Arsenal, seiclo a gwrando ar gerddoriaeth o bob math. Mae hefyd wrth ei fodd yn cymdeithasu ac mae’n rhedeg fan bizza a busnes glampio!

Llun o Medi-Parry-Williams

Making Places Work - MPW Medi-Parry-Williams

Medi Parry-Williams yw sylfaenydd ac entrepreneur MPW Making Places Work, busnes newydd sy’n ceisio adfywio cyrchfannau adwerthu a’u trawsnewid yn fannau ffyniannus cymuned fywiog, gan helpu economïau lleol i dyfu. Astudiodd Medi Reoli Twristiaeth ym Mhrifysgol Fetropolitan Leeds dros gyfnod o 4 blynedd a alluogodd iddi weithio yng Ngogledd America ar ddau achlysur gwahanol, a heddiw, mae angerdd Medi dros dwristiaeth yn parhau trwy ei hangerdd dros integreiddio'r economi ymwelwyr i gyrchfannau adwerthu.

Mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad yn y diwydiant canolfannau siopa a chanol trefi, gan gynnwys rôl arweinyddiaeth strategol fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau, ac mae'n adnabyddus am ei hegni di-ben-draw, technegau datrys problemau a sgiliau proffesiynol, y mae'n eu rhannu i helpu i rymuso pobl eraill a galluogi i leoedd dyfu. Gyda gwreiddiau yn Ynys Môn, mae Medi wedi dychwelyd ei ffocws ar Ogledd Cymru yn ddiweddar gyda’i huchelgais o gyfrannu at adfywiad cadarnhaol dinasoedd a threfi lleol a’u cymunedau. Mae Medi wedi ymddangos ar BBC Radio Cymru, BBC News, The Retail Bulletin a Business News Wales ac mae'n flogiwr gweithgar.

CYSYLLTWCH Â NI

Gweler y Trydariadau diweddaraf gan @Bangor_Business