Staff
Gan fod hwn yn ddigwyddiad ar gyfer carfan o fyfyrwyr, bydd angen i ddeunyddiau hyrwyddo fod yn ddwyieithog. Oes yna gyflwyniadau? Os felly, mi fydd angen i’r testun fod yn ddwyieithog hefyd. Mi ddylech chi hefyd ei gwneud yn glir bod croeso i fyfyrwyr ofyn cwestiynau yn Gymraeg. Os ydi o'n ddigwyddiad tebyg i ddarlith ac os bydd rhai o'r cyflwyniadau'n cael eu gwneud yn Gymraeg, efallai y byddai'n werth ystyried archebu cyfieithu ar y pryd.
Mae angen i eitemau ar dudalennau newyddion Ysgolion, Colegau ac Adrannau fod yn ddwyieithog. Mi fedrwch chi uwchlwytho dogfennau i'w cyfieithu yma.
Gwisgwch lanyard. Mae ein lanyards yn cynnwys y logo oren Iaith Gwaith ac mae gennym ni lanyards ar gyfer siaradwyr rhugl ac i'r rhai sy'n dysgu'r iaith. Maen nhw ar gael yng Nghanolfan Bedwyr.
Mae gennych chi ddau opsiwn. Naill ai dewiswch un sianel gyda chynnwys Cymraeg a Saesneg neu ewch am ddwy sianel ar wahân. Y naill ffordd neu'r llall, mae'n werth nodi nad oes rhaid i fersiynau Cymraeg a Saesneg fod yn gopïau llwyr o'i gilydd, cyn belled â bod yr un lefel o wybodaeth yn cael ei gyflwyno.
Yn gyffredinol – mi ddylen nhw. Un o egwyddorion craidd y polisi ydi na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; mae cynhyrchu fideos yn y ddwy iaith yn ffordd effeithiol o roi hynny ar waith. Mae'n werth nodi nad oes rhaid i fersiynau Cymraeg a Saesneg fod yn gopïau llwyr o'i gilydd, cyn belled â bod yr un lefel o wybodaeth yn cael ei gyflwyno a’u bod wedi eu cynhyrchu i’r un safon. Mae gennych chi le i fod yn greadigol wrth gynhyrchu'r math yma o gynnwys. Os nad ydych yn siŵr am y ffordd orau ymlaen, cysylltwch â Rhodri Evans, Swyddog Datblygu a Hyrwyddo’r Gymraeg yng Nghanolfan Bedwyr i drafod ymhellach.
Rheolwyr
Rhaid i'r Gymraeg ymddangos yn gyntaf, felly dylai ymddangos naill ai uwchben neu i'r chwith o'r testun Saesneg. Unwaith eto, yr amcan cyffredinol ydi peidio a thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg – ac mae hynny'n rhywbeth y gellir ei wneud yn effeithiol dim ond trwy strwythuro cyflwyniad mewn ffordd sy'n cynnwys y ddwy iaith. Weithiau, mae defnyddio lluniau, yn hytrach na gormod o destun yn ffordd effeithiol o sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu lle.
Mae'r brifysgol yn annog staff i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae Canolfan Bedwyr yn cynnig ystod eang o ddosbarthiadau iaith 50 munud yr wythnos i staff. Mae’n cyrsiau yn cael eu cynnig ar wahanol lefelau ac yn addas ar gyfer dechreuwyr, rhai sydd eisoes â rhywfaint o sgiliau Cymraeg a’r aelodau staff rhugl hynny sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ymhellach. Mae ein holl hyfforddiant wedi’i deilwra i’r cyd-destun proffesiynol a byddwch yn canolbwyntio ar ddysgu iaith sy’n berthnasol i’ch swydd. Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer cwrs, cysylltwch â Chanolfan Bedwyr.
Mae angen ystyried y Gymraeg drwy gydol y broses dendro ac wrth osod cytundeb. Gall cytundebau gynnwys cymalau penodol ynglŷn â’r Gymraeg (e.e. gosod arwyddion dwyieithog, cynnig gwasanaeth yn Gymraeg). Ein cyfrifoldeb ni ydy sicrhau bod contractwyr 3ydd parti yn cydymffurfio â’r Polisi Iaith. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Canolfan Bedwyr.
Oes, mae'n ofynnol i ni wneud yr hyn y mae Comisiynydd y Gymraeg yn ei alw'n 'ymdrech gydwybodol' i asesu effaith ar y Gymraeg wrth newid neu gyflwyno polisïau newydd. Mae ffurflenni Asesu Effaith a chanllaw cysylltiedig ar gael yma. Nodwch, mae diffiniad eang i ‘bolisi’ o dan y Safonau Iaith Gymraeg. Mae’n cynnwys strategaethau, ail-strwythuro, cynlluniau datblygu ayb. Mae arweiniad ar y broses asesu effaith y Gymraeg ar gael gan Ganolfan Bedwyr.
Bydd cwblhau'r modiwl hyfforddi gorfodol ar y Polisi Iaith Gymraeg ar Blackboard yn rhoi syniad da i chi o'r hyn sydd ei angen o ran darparu gwasanaethau ond, eto, mae’n werth ystyried egwyddorion craidd ein polisi a holi’r cwestiwn yma: Ydy’r gwasanaeth (1) yr un mor weledol (2) yr un mor effeithiol a (3) yr un mor hawdd ei ddefnyddio yn y Gymraeg ac ydy o’n Saesneg? Os ydych chi’n ansicr, mae croeso i chi gysylltu â ni yng Nghanolfan Bedwyr. Mae gennym gasgliad o adnoddau defnyddiol ar ein gwefan.
Mae’r Cod Ymarfer ar Benodi Staff yn nodi’r camau ar gyfer gwneud hyn. Mae angen nodi gofyn iaith ar gyfer pob swydd.
Myfyrwyr
Mae gennych yr hawl i gyflwyno'r holl waith sy’n cael ei asesu, yn Gymraeg, hyd yn oed os yw eich modiwl yn cael ei ddysgu drwy’r Saesneg. Nid yw hyn yn cynnwys modiwlau iaith lle mae'n rhaid i fyfyrwyr ateb cwestiynau mewn iaith benodol.
Dylai pob myfyriwr sy'n siarad Cymraeg gael tiwtor personol Cymraeg wrth gofrestru.
Byddwch, mae holl wasanaethau’r Brifysgol ar gael yn Gymraeg i fyfyrwyr.
Mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddau swyddog yng Nghanolfan Bedwyr, y ddau ohonynt yn aml yn gweithio gyda myfyrwyr sy'n wynebu'r math yma o sefyllfa. Cysylltwch â nhw am sgwrs anffurfiol.
- Emily Davies, Swyddog Cangen
- Huw Gwynn, Swyddog Hyrwyddo Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg
- Oes, yn sicr. Cysylltwch â ni yma yng Nghanolfan Bedwyr a byddwn yn delio â’r mater ar eich rhan, gan sicrhau eich bod yn aros yn anhysbys os ydych yn dymuno hynny.
Y Cyhoedd
Mae mynychu Diwrnod Agored yn ffordd wych o weld dwyieithrwydd naturiol y brifysgol ar waith. Mae gennym staff dwyieithog sy'n cofrestru mynychwyr wrth iddynt gyrraedd, staff sy'n cynrychioli ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth a staff sy’n cyflwyno sesiynau cyfrwng Cymraeg ar agweddau fel Cyllid Myfyrwyr a Llety. Mae sesiynau croeso penodol ar gyfer darpar-fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg.
Os y byddwch yn cysylltu â ni yn Gymraeg, byddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg, heb oedi.
Mae gan ein prif linellau ffôn opsiynau Cymraeg a Saesneg i chi eu dewis.
Mae hyn yn rhywbeth y bydd ein hadran Adnoddau Dynol yn ei ofyn i chi fel rhan o'r broses ymgeisio. Mae’n bosib y bydd aelodau o’r panel nad ydynt yn siarad Cymraeg. Bydd modd i chi barhau yn Gymraeg a bydd cyfieithu ar y pryd ar gael i aelodau’r panel sydd angen y gwasanaeth hwnnw.