Cynhaliwyd ein hymgyrch Telethon Hydref 2025 rhwng 30 Hydref a 27 Tachwedd
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd yr amser i sgwrsio â’n myfyrwyr, rhannu eich atgofion o Fangor, ac i gefnogi Cronfa Bangor. Mae eich caredigrwydd ac ymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol!
Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau siarad ag un o’n myfyrwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni: 01248 388756 alumni@bangor.ac.uk
Prosiectau a gefnogir gan Gronfa Bangor
-
19 Mai 2025Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr i deithio i ddarlith y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol
-
19 Mai 2025Cronfa Bangor yn grymuso mentrau cyflogadwyedd dan arweiniad myfyrwyr mewn gwyddorau amgylcheddol
-
19 Mai 2025Cronfa Bangor yn cefnogi gweithdy llythrennedd bwyd
-
26 Mawrth 2025Cronfa Bangor yn talu am ail-greu peiriant rhagfynegi tonnau hanesyddol
-
26 Mawrth 2025Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr cael archwilio llawysgrifau prin
-
26 Mawrth 2025
Mae Cronfa Bangor wedi galluogi'r Adran Gelfyddydau i drefnu gweithdy Addysg Gerddoriaeth gyda Berwyn Jones
-
7 Mawrth 2025
Cronfa Bangor yn darparu modelau anatomegol i fyfyrwyr Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol
-
21 Ionawr 2025Mae Cronfa Bangor yn galluogi gweithgareddau lles myfyrwyr
-
20 Ionawr 2025Cronfa Bangor yn cefnogi cadwraeth hanes pensaernïol y brifysgol
-
17 Ionawr 2025Cronfa Bangor yn cefnogi Project Acwariwm Ysgol Gwyddorau'r Eigion
-
20 Rhagfyr 2024Cronfa Bangor wedi cefnogi myfyrwyr Cerddoriaeth Prifysgol Bangor i fynd i weithdai cyfansoddi gyda Sinfonia Cymru ac Ensemble Canolfan Gerdd William Mathias
-
12 Rhagfyr 2024Cofion, Bywyd John Ellis Jones
Cronfa Bangor
Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr yn cynnal ymgyrch Telethon Cronfa Bangor bob blwyddyn yn y gwanwyn a’r hydref, am bedair wythnos o nosweithiau Sul hyd nosweithiau Iau.
Yn ystod yr ymgyrchoedd hyn, bydd ein tîm o fyfyrwyr yn ffonio cyn-fyfyrwyr i gadw mewn cysylltiad â nhw, hel atgofion ac er mwyn iddyn nhw fedru cefnogi eu hen brifysgol.
Fel rhan o gymuned y cyn-fyfyrwyr fe gewch alwad ffôn gan un o’n myfyrwyr a fydd yn sgwrsio â chi am eich cyfnod ym Mangor ac am Gronfa Bangor.
Nod Cronfa Bangor yw cefnogi cymaint o brojectau â phosib a galluogi’r brifysgol i ychwanegu rhagoriaeth neu “rywbeth ychwanegol” at brofiad y myfyrwyr.
Yn ddiweddar cwblhaodd ein tîm o fyfyrwyr ein hymgyrchoedd telethon gwanwyn yn ddeweddar gyda chanlyniadau gwych. Mae ein cyn-fyfyrwyr gwych wedi addo rhoi £62,000 pellach i Gronfa Bangor dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y rhoddion hyn yn caniatáu i Gronfa Bangor ddarparu bwrsariaethau, teithiau maes, gweithgareddau llesiant, cyfleoedd chwaraeon a gwasanaethau ychwanegol, ac mae hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth aruthrol!
Mynegodd Persida Chung, sy’n Swyddog Datblygu, ei diolch i'r myfyrwyr; gan ddweud, “Mae’r Telethon yn gyfle gwych i fyfyrwyr sy’n ffonio gysylltu â chenedlaethau’r gorffennol o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, i rannu newyddion a phrofiadau, gan gryfhau cymuned ehangach y Brifysgol. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’r holl gyn-fyfyrwyr a chymrodyr er anrhydedd a gymerodd yr amser yn hael i rannu cipolwg i’w bywydau a’u gyrfaoedd ar ôl Bangor. Mae’r cyngor a’r geiriau o anogaeth a roddir i’n myfyrwyr fel maent ar fin gwneud penderfyniadau arwyddocaol o werth aruthrol iddynt.”
I wybod mwy am yr ymgyrch delethon, cysylltwch â Persida.
Diolch i bawb ohonoch sy'n rhoi!
Tîm o alwyr myfyrwyr yn estyn allan at ein cyn-fyfyrwyr yn ystod ymgyrch Telethon