Cynhaliwyd ein hymgyrch Telethon Hydref 2025 rhwng 30 Hydref a 27 Tachwedd
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd yr amser i sgwrsio â’n myfyrwyr, rhannu eich atgofion o Fangor, ac i gefnogi Cronfa Bangor. Mae eich caredigrwydd ac ymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol!
Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau siarad ag un o’n myfyrwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni: 01248 388756 alumni@bangor.ac.uk
Prosiectau a gefnogir gan Gronfa Bangor
-
24 Medi 2024
Cronfa Bangor yn cefnogi cynllun cyfnewid rhyngwladol i fyfyrwyr coedwigaeth a rheoli coetiroedd
-
24 Medi 2024Cronfa Bangor yn cefnogi adnewyddu fflyd Clwb Cychod Prifysgol Bangor
-
23 Gorffennaf 2024Cronfa Bangor yn cefnogi arddagosfa ar-lein o lyfrau Arthuriadd prin
-
25 Ionawr 2024Rhoddion cyn-fyfyrwyr yn cefnogi fideos Undeb Bangor
-
22 Ionawr 2024Cronfa Bangor yn cefnogi ymweliad i Archifau Stanley Kubrick
-
9 Ionawr 2024
Cronfa Bangor yn cefnogi hyfforddiant gwaith maes blaengar yn y gwyddorau naturiol
-
23 Hydref 2023Cronfa Bangor yn hybu profiad myfyrwyr yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau
-
17 Hydref 2023Project 'Trafod Testun' wedi’i noddi gan Gronfa Bangor
-
16 Hydref 2023Cronfa Bangor yn cefnogi Cronfa Fuddsoddi yn Ysgol Busnes Bangor
-
16 Awst 2023Cronfa Bangor yn cefnogi Gardd Llesiant Neuadd Rathbone
-
27 Gorffennaf 2023Symposiwm Merched ym Myd Cyhoeddi - ariannwyd gan Gronfa Bangor
-
27 Gorffennaf 2023Project Colobws Coch Zanzibar gyda cefnogaeth Cronfa Bangor
Cronfa Bangor
Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr yn cynnal ymgyrch Telethon Cronfa Bangor bob blwyddyn yn y gwanwyn a’r hydref, am bedair wythnos o nosweithiau Sul hyd nosweithiau Iau.
Yn ystod yr ymgyrchoedd hyn, bydd ein tîm o fyfyrwyr yn ffonio cyn-fyfyrwyr i gadw mewn cysylltiad â nhw, hel atgofion ac er mwyn iddyn nhw fedru cefnogi eu hen brifysgol.
Fel rhan o gymuned y cyn-fyfyrwyr fe gewch alwad ffôn gan un o’n myfyrwyr a fydd yn sgwrsio â chi am eich cyfnod ym Mangor ac am Gronfa Bangor.
Nod Cronfa Bangor yw cefnogi cymaint o brojectau â phosib a galluogi’r brifysgol i ychwanegu rhagoriaeth neu “rywbeth ychwanegol” at brofiad y myfyrwyr.
Yn ddiweddar cwblhaodd ein tîm o fyfyrwyr ein hymgyrchoedd telethon gwanwyn yn ddeweddar gyda chanlyniadau gwych. Mae ein cyn-fyfyrwyr gwych wedi addo rhoi £62,000 pellach i Gronfa Bangor dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y rhoddion hyn yn caniatáu i Gronfa Bangor ddarparu bwrsariaethau, teithiau maes, gweithgareddau llesiant, cyfleoedd chwaraeon a gwasanaethau ychwanegol, ac mae hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth aruthrol!
Mynegodd Persida Chung, sy’n Swyddog Datblygu, ei diolch i'r myfyrwyr; gan ddweud, “Mae’r Telethon yn gyfle gwych i fyfyrwyr sy’n ffonio gysylltu â chenedlaethau’r gorffennol o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, i rannu newyddion a phrofiadau, gan gryfhau cymuned ehangach y Brifysgol. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’r holl gyn-fyfyrwyr a chymrodyr er anrhydedd a gymerodd yr amser yn hael i rannu cipolwg i’w bywydau a’u gyrfaoedd ar ôl Bangor. Mae’r cyngor a’r geiriau o anogaeth a roddir i’n myfyrwyr fel maent ar fin gwneud penderfyniadau arwyddocaol o werth aruthrol iddynt.”
I wybod mwy am yr ymgyrch delethon, cysylltwch â Persida.
Diolch i bawb ohonoch sy'n rhoi!
Tîm o alwyr myfyrwyr yn estyn allan at ein cyn-fyfyrwyr yn ystod ymgyrch Telethon