Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau i athletwyr elitaidd

Bwrsariaeth Canolfan Brailsford 2024/25

Mae nifer cyfyngedig o addysgedau Canolfan Brailsford ar gael i athletwyr rhagorol i’w galluogi i ddefnyddio’r cyfleusterau hamdden ym Canolfan Brailsford fel rhan o’u rhaglenni hyfforddi.

  • Bwriedir addysgedau ar gyfer aelodau o’r gymuned leol sy’n anelu at anrhydedd cynrychiadol.
  • Bydd y grant yn mynd at gostau defnyddio’r Ystafelloedd Ffitrwydd a/neu gyfleusterau hyfforddi eraill, sy’n rhan annatod o raglen hyfforddi’r ymgeisydd. Ni fydd yn talu am gost defnyddio’r cyfleusterau amser hamdden.
  • Dylai ceisiadau roi achos ysgrifenedig dros ddefnyddio’r cyfleusterau penodol a chynnwys amlinelliad o raglen hyfforddi, curriculum vitae a nodyn o gefnogaeth gan hyfforddwr. 
  • Dylai ceisiadau ar gyfer 2024/25 gael eu cyflwyno erbyn Hydref 7fed, 2024 i iona.williams@bangor.ac.uk

Ystyrir ceisiadau gan Dîm Rheoli Canolfan Brailsford.

Gwobr Goffa Llew Rees

Mae'r wobr yn cael ei dyfarnu bob blwyddyn i'r myfyriwr Prifysgol Bangor sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i godi proffil chwaraeon y Brifysgol gan ei gyflawniad personol ar lefel genedlaethol neu ryngwladol, ac sydd hefyd wedi cyfrannu a chymryd rhan mewn cystadlaethau yn cynrychioli'r Brifysgol fel unigolyn neu fel aelod o dîm.

Llew Rees Award Information

Ffurflen gais Gwobr Llew Rees

Am fwy o wybodaeth neu am ffurflen gais cysylltwch â Iona Williams iona.williams@bangor.ac.uk.