Fy ngwlad:

Clirio Prifysgol Bangor - Canllaw i Rieni

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Pam Dewis Prifysgol Bangor Drwy Clirio?

Mae gan Fangor gymuned groesawgar, lefelau uchel o foddhad myfyrwyr, a gwasanaethau cymorth cryf. Bydd eich plentyn yn elwa ar:

Sut I Helpu Cyn Diwrnod Y Canlyniadau?

Gall bod yn barod wneud gwahaniaeth mawr. Anogwch ymchwil gynnar:

Sut I Helpu Ar Ddiwrnod Y Canlyniadau

Gallwch eu cefnogi drwy:

  • Helpu i baratoi beth i’w ddweud a gwybod pa gyrsiau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt
  • Sicrhau bod ganddynt eu ID UCAS, graddau a chymwysterau wrth law
  • Ysgrifennu manylion allweddol yn ystod galwadau
  • Cynnig anogaeth a threfnu gofod tawel ar gyfer galwadau

Beth Sy'n Digwydd Ar Ddiwrnod Y Canlyniadau?

Efallai nad yw eich plentyn wedi cael y graddau neu’r sgôr pwyntiau sydd eu hangen, ond efallai y bydd y brifysgol sydd gennynt fel dewis cadarn neu fel dewis wrth gefn yn penderfynu eu derbyn ar y cwrs. Cysylltwch â nhw gyntaf a pheidiwch â chymryd yn ganiataol fod rhaid defnyddio’r drefn Glirio. Os ydynt yn penderfynu peidio â’u derbyn, neu os nad oes gan eich plentyn gynigion gan unrhyw brifysgol, yna maent yn gymwys i wneud cais am le drwy’r system Glirio. 

Bydd eich plentyn yn gwybod eu bod yn y drefn Clirio os ydw eu cais UCAS yn dweud ‘You are in Clearing’ neu ‘Clearing has started’. Os ydynt yn y drefn Clirio, rhaid i cysylltu â phrifysgolion yn uniongyrchol i holi am y lleoedd sydd ar gael ar eu cyrsiau ac i weld a ydynt yn bodloni eu gofynion.

Cysylltu  Bangor Yn Ystod Clirio

Beth sy’n Digwydd yn ystod Galwad neu Sgwrs Fyw?

Pan fydd eich plentyn yn ffonio ein Llinell Gymorth Clirio neu’n ymuno â Sgwrs Fyw Clirio, byddant yn: 

  • Siarad ag aelod cyfeillgar o'r tîm Clirio
  • Trafod eu canlyniadau a'r cyrsiau
  • Os yn llwyddiannus, yn derbyn cynnig llafar, ac yna cadarnhad o'r cynnig drwy e-bost

Beth Sy'n Digwydd Nesaf?

Anogwch nhw i:

Unwaith y bydd eich plentyn wedi derbyn cynnig lle drwy’r Clearing drwy e-bost ac wedi penderfynu dewis Prifysgol Bangor:

  • Mae angen iddynt ychwanegu Prifysgol Bangor fel eu dewis Clirio ar UCAS
  • Bydd Bangor wedyn yn cadarnhau eu lle
  • Byddant yn derbyn e-bost gyda gwybodaeth ar sut i wneud cais am lety
  • Bydd gwahoddiad i ymweld â ni ar Ddiwrnod Ymweld Clirio neu Ddiwrnod Agored Clirio.
legacy

Clirio – Cwestiynau Cyffredin i Rieni

Clirio yw’r broses y mae prifysgolion yn ei defnyddio i lenwi unrhyw leoedd sydd ar ôl ar gyrsiau ar ôl diwrnod canlyniadau. Os nad oes gan eich plentyn le wedi’i gadarnhau neu os yw’n penderfynu newid cyfeiriad, gallant gysylltu’n uniongyrchol â Phrifysgol Bangor i drafod yr opsiynau sydd ar gael ac, o bosibl, cael cynnig i astudio yma.

Mae hyn fel arfer yn cynnwys:

Pan fydd eich plentyn yn cysylltu â Phrifysgol Bangor drwy'r Linell Gymorth Clirio neu dros Sgwrs Fyw Clirio, byddant yn siarad ag aelodau staff sy’n gyfrifol am asesu graddau, gwirio argaeledd cyrsiau, a gwneud cynigion i astudio ar gwrs yma. Mewn rhai achosion, os oes angen bydd angen ymgynghori â staff academaidd, ond caiff y rhan fwyaf o benderfyniadau eu gwneud yn ystod yr alwad neu drwy’r Sgwrs Fyw.

Mae galwad Clirio fel arfer yn fyr ac yn syml. Bydd yr aelod staff yn gofyn am:

  • Canlyniadau arholiadau
  • Rhif UCAS (os yw ar gael)
  • Y cwrs y mae gan eich plentyn ddiddordeb ynddo

Yna byddant yn cadarnhau a yw eich plentyn yn bodloni gofynion y cwrs, ac os felly, caiff cynnig i astudio yma ei wneud ar unwaith.

 

Os na lwyddodd eich plentyn gael eu derbyn i’w dewis gwreiddiol ym Mhrifysgol Bangor, efallai y byddant yn cael cynnig o gwrs arall. Os felly, bydd hyn yn cael ei ddangos yn eu cyfrif UCAS. Bydd angen iddynt dderbyn y cynnig i ddilyn y cwrs yma ar UCAS Hub. Bydd modd trafod eu hopsiynau drwy gysylltu â’r Linell Gymorth Clirio neu dros Sgwrs Fyw Clirio.

Ni fydd yn gyfweliad ffurfiol, ond mae’n ddefnyddiol os yw eich plentyn yn:

  • Gwybod pa bwnc neu gwrs y mae ganddynt ddiddordeb ynddo
  • Cael eu canlyniadau wrth law a gwybod pa gymwysterau y mae’r canlyniadau’n berthnasol iddynt
  • Bod yn barod i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am y broses Glirio, y Brifysgol neu’r cwrs

Os yw eich plentyn yn newid eu meddwl, maen't yn gallu gwrthod eu lle ar UCAS a chael eu 'rhyddhau i mewn i'r system Glirio' i archwilio'r opsiynau eraill sydd ar gael. 
 

Mae Clirio yn gallu bod yn broses gyflym, yn enwedig ar ddiwrnod canlyniadau. Gall argaeledd cyrsiau newid wrth i fyfyrwyr dderbyn cynigion. Dyna pam ei bod yn bwysig:

  • Ymchwilio i opsiynau ymlaen llaw
  • Gweithredu’n brydlon unwaith y bydd canlyniadau’n cael eu rhyddhau
     

Gall rhieni gefnogi drwy helpu eu plentyn i:

  • Ymchwilio i gyrsiau neu brifysgolion
  • Llunio rhestr fer o opsiynau
  • Cadw manylion pwysig yn barod (canlyniadau, rhif UCAS, nodiadau)

Nac ydy. Mae Clirio yn llwybr hyblyg, nid dewis olaf. Mae llawer o fyfyrwyr yn defnyddio Clirio oherwydd eu bod wedi:

  • Gwneud yn well na’r disgwyl ac eisiau anelu’n uwch
  • Newid eu meddwl am gwrs neu leoliad
  • Ystyried prifysgol yn hwyrach yn y cylch ymgeisio
  • Dychwelyd i addysg neu newid gyrfa fel myfyriwr aeddfed